Cost of Living Support Icon
Safer Vale logo

Partneriaeth Bro Ddiogelach

Mae Partneriaeth Bro Ddiogelach yn gweithio ynghyd i greu amgylchedd diogelach i drigolion, gweithwyr ac ymwelwyr â Bro Morgannwg; heb drosedd, heb anhrefn nac ofn troseddu.

 

Mae Partneriaeth Bro Ddiogelach yn derbyn cyllid gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu a Llywodraeth Cymru i ddyfeisio ymatebion diogelwch cymunedol sy'n briodol yn lleol.

 

Mae Partneriaeth Bro Ddiogelach rhwng: 

  • Cyngor Bro Morgannwg
  • Heddlu De Cymru
  • Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
  • Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
  • Cynrychiolaeth o'r Trydydd Sector

Mae Partneriaeth Bro Ddiogelach yn cynnal asesiadau strategol blynyddol i sicrhau bod y tîm yn gweithio ar y blaenoriaethau ar gyfer mynd i'r afael â diogelwch ym Mro Morgannwg.

 

Strategaeth Partneriaeth Bro Ddiogelach 2023- 2028

Mae'r ddogfen hon yn amlinellu tirwedd y Bartneriaeth Bro Ddiogelach. Hynny yw pwy ydym ni, pam rydymyn bodoli, beth yw ein gweledigaeth, ein cenhadaeth a'n blaenoriaethau yn ogystal â beth sydd gennym ynei le i'w cyflawni. Mae'r rhain yn bethau nad ydynt yn debygol o newid llawer yn ystod y pum mlynedd nesafac felly mae'r Ddogfen Strategaeth hon yn cwmpasu'r cyfnod 2023-2028.

 

Strategaeth Partneriaeth Bro Ddiogelach 2023- 2028

 

Rhoi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol i bartneriaeth Bro Ddiogelach

Mae partneriaeth Bro Ddiogelach yn croesawu rhoi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae'n bwysig bod adroddiadau'n cael eu gwneud drwy'r sianel briodol fel y gellir gweithredu ar unwaith pan fo angen, a gellir dyrannu adnoddau ataliol yn seiliedig ar dueddiadau a phatrymau.

 

Llwybrau adrodd

Cysylltu â Chyngor Bro Morgannwg i roi gwybod:

  • Ceir wedi'u gadael

  • Tipio anghyfreithlon

  • Parcio anghyfleus / anghyfreithlon

  • Sbwriel

  • Sŵn o dafarndai / clybiau

  • Cymdogion swnllyd

  • Anifeiliaid heb fod dan reolaeth

  • Torri Gorchymyn neu Is-ddeddf Diogelu Mannau Cyhoeddus

Cysylltu â Heddlu De Cymru i roi gwybod:

  • Difrod Troseddol / fandaliaeth

  • Camddefnyddio a gwerthu cyffuriau

  • Graffiti

  • Brawychu / aflonyddu / cam-drin geiriol

  • Ymddygiad stwrllyd (gan gynnwys yfed ar y stryd)

  • Niwsans cerbydau a defnydd amhriodol o gerbydau

  • Aflonyddwch ymysg pobl ifanc

Cyswllt  

I gael rhagor o wybodaeth ac i gael y wybodaeth ddiweddaraf gan Partneriaeth Bro Ddiogelach, dilynwch: