Cost of Living Support Icon

Etholiadau

Mae gan bawb yn y Deyrnas Unedig gyngor lleol ac Aelod Seneddol sy’n eistedd yn Senedd y Deyrnas Unedig.

 

Yn dibynnu ar ble rydych yn byw, mae’n bosibl hefyd y bydd cyrff datganoledig yn eich cynrychioli, dros Fro Morgannwg yng Senydd Cymru.

 

Pan fyddwch yn pleidleisio, rydych yn penderfynu pwy sy’n eich cynrychioli ac yn gwneud penderfyniadau ar eich rhan ynghylch ystod eang o bynciau o ffyrdd ac ailgylchu yn eich ardal, i addysg a newid yn yr hinsawdd. 

 

Ceir mathau gwahanol ar etholiadau:

 

 

Beth sy’n digwydd yn y cyfnod yn arwain at etholiad neu refferendwm?

Fel arfer bydd ymgeiswyr (y bobl sydd am gael eu hethol gennych) yn ymgyrchu cyn etholiad, gan eich annog i gofrestru i bleidleisio a darparu gwybodaeth ynghylch eu polisïau (yr hyn maent eisiau ei gyflawni os byddant yn ennill).

 

Tua 24 o ddiwrnodau gwaith cyn y diwrnod pleidleisio byddwn yn anfon cerdyn pleidleisio atoch a fydd yn cynnwys y manylion hyn:

  • eich gorsaf bleidleisio
  • eich rhif etholwr
  • ein manylion cyswllt (Swyddfa Gofrestru Etholiadol)
  • dyddiad y diwrnod pleidleisio
  • oriau agor a chau’r orsaf bleidleisio
  • cyfarwyddiadau ar sut i bleidleisio

Dylech edrych ar eich cerdyn pleidleisio i sicrhau y byddwch yn defnyddio’r dull pleidleisio cywir h.y. drwy’r post, drwy ddirprwy neu yn bersonol.

 

Os ydych wedi cofrestru i bleidleisio drwy’r post byddwn yn rhoi cerdyn pleidleisio i chi sy’n dweud eich bod yn bleidleisiwr drwy’r post. 

Yna, anfonir eich papurau pleidleisio atoch drwy’r post o fewn 10 diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio.

 

Os ydych wedi cofrestru i bleidleisio drwy ddirprwy (rhywun i bleidleisio ar eich rhan), anfonir cerdyn pleidleisio at eich dirprwy ac anfonir llythyr yn cadarnhau pwy fydd yn pleidleisio ar eich rhan atoch chi.

 

Pe hoffech newid y dull rydych yn ei ddefnyddio i bleidleisio cysylltwch â ni ar 01446 729552 neu cliciwch ar y ddolen isod.

 

 

Sut i Gysylltu â Ni

 

 

Please be aware that it is not always possible to answer your queries immediately but we aim to answer telephone queries within 5 working days. Any written queries will be within 10 working days.