Etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd
Etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd
Crëwyd Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr gan Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011, a chynhaliwyd yr etholiad cyntaf yn 2012 ac yna yn 2016.
Cynhaliwyd yr etholiad diwethaf ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ym mis Mai 2024, ar ôl ei ohirio yn 2020 oherwydd y coronafeirws. Fel arfer mae tymor y swydd yn bedair blynedd, ond oherwydd i’r etholiad gael ei ohirio, mae'r tymor hwn wedi bod yn gyfnod o dair blynedd.
Darganfyddwch fwy am yr Heddlu, Trosedd a'r Comisiynydd isod.
Comisiynydd yr Heddiu a Throseddu
Gair am yr etholiad
Mae Ardal Heddlu De Cymru yn cynnwys pedwar ardal bleidleisio ac mae Swyddog Canlyniadau Lleol ar gyfer pob un:
- Pen-y-bont
- Caerdydd
- Merthyr Tudful
- Castell-nedd Port Talbot
- Rhondda Cynon Taf
- Abertawe
- Bro Morgannwg
Karen Jones o Gastell-nedd Port Talbot oedd Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu ar gyfer etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ym mis Mai 2024 ac oedd yn gyfrifol am y modd y cynhelir yr etholiad, gan gynnwys y dyletswyddau canlynol:
- Cysylltu â’r Swyddogion Canlyniadau Lleol yn Ardal Heddlu De Cymru
- Cyhoeddi’r hysbysiad o etholiad
- Gweinyddu’r broses enwebu
- Cyhoeddi datganiad y sawl a enwebwyd a’r hysbysiad o bleidlais
- Hybu cyfranogiad
- Sicrhau bod cynnwys anerchiadau etholiadol yr ymgeiswyr a’r gweithdrefnau i gyflwyno’r anerchiadau hynny yn cydymffurfio â’r gofynion
- Coladu a chyfrifo nifer y pleidleisiau a roddwyd i bob ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, a chyfrifo'r canlyniad
- Datgan y canlyniad.
Rob Thomas o Fro Morgannwg oedd Swyddog Canlyniadau Lleol ac oedd gyfrifol y neu hardal am:
- Hybu cyfranogiad
- Darparu gorsafoedd pleidleisio
- Argraffu papurau pleidleisio
- Sicrhau bod yr etholiad yn cael ei weinyddu’n effeithiol
- Penodi staff ar gyfer gorsafoedd pleidleisio
- Rheoli’r broses o bleidleisio drwy’r post
- Rheoli’r broses ar gyfer dogfennau adnabod pleidleiswyr
- Y prosesau ar gyfer dilysu a chyfrif pleidleisiau yn yr ardal bleidleisio
- Trosglwyddo’r cyfansymiau lleol i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu.
Mae rhagor o wybodaeth am Swyddog Canlyniadau Ardaloedd yr Heddlu ar gael yma.
Mae rhai gorsafoedd pleidleisio wedi newid lleoliad. Gwiriwch eich cerdyn pleidleisio ar gyfer eich gorsaf bleidleisio gyfredol.
Gallwch hefyd ddod o hyd i'ch gorsaf bleidleisio ar-lein.