Etholiad Cyffredinol Seneddol
Mae Senedd y DU yn cynrychioli trigolion y Deyrnas Unedig, ac mae’n meddu ar y pŵer i wneud penderfyniadau a chymeradwyo deddfwriaeth.
Rhaid i Etholiad Cyffredinol gael ei gynnal bob pum mlynedd, ond gellir galw am un ymhen llai na hynny. Y Prif Weinidog sy’n penderfynu ar union ddyddiad yr etholiad, ond yn ôl y traddodiad, caiff ei gynnal ar ddydd Iau.
Gelwir diwrnod yr etholiad yn Ddiwrnod y Bleidlais hefyd, gan mai dyma pryd rydych chi’n bwrw eich pleidlais. Yn ôl traddodiad, gwneir hyn mewn Gorsaf Bleidleisio.
Mewn Etholiad Cyffredinol, rydych chi’n dewis ymgeisydd i gynrychioli eich ardal leol yn Nhŷ’r Cyffredin drwy fwrw eich pleidlais drostynt.
Yr ymgeisydd â’r nifer fwyaf o bleidleisiau fydd yr AS etholedig.
Ar ôl Etholiad Cyffredinol, bydd arweinydd y blaid sy’n ennill yr Etholiad Cyffredinol, yn cael ei wahodd yn swyddogol gan y Brenin i fod y Prif Weinidog nesaf, a ffurfio’r Llywodraeth nesaf a fydd yn rhedeg y wlad.
Am fwy o wybodaeth am ID Ffotograffig, ewch i'n tudalen ID pleidleiswyr: ID Pleidleiswyr
Byddwn yn dosbarthu eich cerdyn pleidleisio tua Dydd Llun 3 Mehefin 2024. Bydd hyn yn rhoi gwybodaeth ynghylch a ydych wedi cofrestru i bleidleisio drwy'r post, neu mewn gorsaf bleidleisio.
Mae rhai gorsafoedd pleidleisio wedi newid lleoliad. Gwiriwch eich cerdyn pleidleisio ar gyfer eich gorsaf bleidleisio gyfredol.
Gallwch hefyd ddod o hyd i'ch gorsaf bleidleisio ar-lein.
Os ydych wedi cofrestru i bleidleisio drwy'r post, byddwn yn dosbarthu eich pecyn pleidleisio drwy'r post.
Aelodau Seneddol
Caiff Etholiadau Cyffredinol eu cynnal er mwyn ethol Aelodau Seneddol (ASau) yn Nhŷ’r Cyffredin.
AS
Mae Senedd y DU wedi ei rhannu’n ddwy siambr neu ‘Dŷ’ - Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi.
Gelwir y cynrychiolwyr yn Nhŷ’r Cyffredin yn Aelodau Seneddol (ASau). Mae pob AS yn cynrychioli rhan o’r Deyrnas Unedig a elwir yn 'etholaeth' neu’n 'sedd'. Y blaid wleidyddol â’r nifer fwyaf o AS yn Nhŷ’r Cyffredin sy’n ffurfio’r Llywodraeth. Ar hyn o bryd, y blaid Geidwadol yw hon.
Mae’r Llywodraeth yn cynnig cyfreithiau newydd ac yn codi materion i’r Senedd eu trafod.
Mae hefyd yn gweithredu’r penderfyniadau a wneir gan y Senedd.
Mae Tŷ’r Arglwyddi’n archwilio gwaith Tŷ’r Cyffredin.
Mae gan y Brenin ran i’w chwarae yn Senedd y DU hefyd, er mai seremonïol yw hi ar y cyfan.
Mae e'n cymeradwyo cyfreithiau a wneir gan y Senedd ac yn traddodi Araith y Brenin, sy’n manylu ar y cynlluniau mae’r Llywodraeth yn bwriadu eu gweithredu bob blwyddyn.
Cyswllt