Cost of Living Support Icon

Isetholiadau a Seddi Gwag Dros Dro

Mae Rolau Gwag achlysurol yn codi pan fydd rôl yn codi ar gyfer Cynghorydd mewn ardal benodol o Fro Morgannwg. 

Os bydd unrhyw swyddi gwag yn codi yn eich Cyngor Tref/Cymunedol, parhewch i hysbysu Rachel Starr-Wood a/neu Hayley Hanman.

 

Dylid anfon unrhyw ymholiadau pellach neu gais am ragor o wybodaeth at:

 

Rachel Starr-Wood

Rheolwr Cofrestru Etholiadol

 

Hayley Hanman

Dirprwy, Adran Cofrestru Etholiadol 

 

Adran Cofrestru Etholiadol

Cyngor Bro Morgannwg

Swyddfeydd Dinesig

Heol Holltwn

Y Barri

CF63 4RU

 

Gwybodaeth Ymgeisydd 

Mae’r Adran Cofrestru Etholiadol yn parhau’n ddiduedd ar gyfer pob etholiad ac felly nid ydym yn dal unrhyw wybodaeth ychwanegol am unrhyw ymgeiswyr sy’n sefyll.  Mae gwybodaeth sydd ar gael i’r cyhoedd yn cael ei chyhoeddi ar yr Hysbysiad Etholiad, Datganiad am y Sawl a Enwebwyd, Hysbysiad Etholiad Asiantau (os yn berthnasol) a Hysbysiad o Bleidlais. 

 

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am ymgeisydd a’i ymgyrch gallwch gysylltu a’r blaid wleidyddol berthnasol (os yn berthnasol), cadw llygad ar y wasg leol a’r cyfryngau cymdeithasol neu chwilio am wefannau posibl sydd wedi'u creu gan yr ymgeisydd.  Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw ymgyrchu ar gyfer yr etholiad ac felly ni all yr Adran Cofrestru Etholiadol roi unrhyw gyngor ar hyn.

 

 

Proses Swyddi Dros Dro

Mae dwy ffordd o ddewis rhywun i lenwi swydd wag dros dro:

  • Trwy gyfethol – Hynny yw pan fo aelodau’r Cyngor Cymuned yn llenwi’r swydd heb etholiad cyhoeddus.

  • Cynnal Isetholiad – Pan gynhelir etholiad ac mae’n rhaid i’r cyhoedd sy’n byw yn y gymuned benderfynu pwy i’w ethol/bleidleisio drosto.

 

Pan ddaw swydd yn wag mewn cyngor tref/cymuned oherwydd marwolaeth, datgymhwyso neu ymddeoliad cynghorydd, mae’r broses i lenwi’r swydd wag fel a ganlyn:

 

  1.  Bydd y cyngor tref/cymuned yn hysbysu’r Swyddog Canlyniadau, yn Swyddfa Cofrestru Etholiadol Cyngor Bro Morgannwg, am y swydd wag.
  2. Yna bydd y Swyddog Canlyniadau’n arddangos Hysbysiad o Swydd Wag Dros Dro.   Caiff yr hysbysiad hwn ei arddangos yn nerbynfa’r Swyddfeydd Dinesig, ar wefan Cyngor Bro Morgannwg ac yn adeilad y cyngor tref/cymuned ar gyfer yr ardal benodol sy’n gysylltiedig â’r swydd wag.

 

Hysbysiadau o Swyddi Gwag Dros Dro

 

  1. Bydd yr Hysbysiad o Swydd Wag Dros Dro yn para am 14 diwrnod o ddyddiad arddangos yr hysbysiad ac mae’n rhoi’r cyfle i’r cyhoedd sy’n byw yn yr ardal honno alw am isetholiad.
  2. Os bydd deg neu fwy o etholwyr cofrestredig yn y ward berthnasol (aelodau’r cyhoedd) yn galw am isetholiad, yna caiff etholiad ei threfnu gan y Swyddfa Cofrestru Etholiadol a chaiff Hysbysiad Etholiad ei arddangos.

Ar yr adeg hon, dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn llenwi’r swydd wag gysylltu â’r Swyddfa Cofrestru Etholiadol i gael pecyn ymgeisydd.

 

Y cyngor tref/cymuned sy’n talu am gost isetholiad.

 

Os na elwir am isetholiad, caiff y cyngor tref/cymuned ei hysbysu gan y Swyddog Canlyniadau i lenwi’r swydd trwy gyfetholiad cyn gynted ag y bo modd.

 

Rhaid i’r Cyngor Tref/Cymuned hysbysu’r Swyddog Cofrestru Etholiadol (SCE) am y swydd wag, gan ddarparu enw’r Cynghorydd dan sylw, y rheswm am y swydd wag a’r dyddiad pan ddigwyddodd. Bydd y SCE yn cyhoeddi Hysbysiad o Swydd Wag Dros Dro, a dylid arddangos y rhain mewn lleoedd amlwg yn y Gymuned.  Bydd Cyngor Bro Morgannwg hefyd yn arddangos yr hysbysiad o Swydd Wag Dros Dro yn y Swyddfeydd Dinesig ac ar wefan Bro Morgannwg.

 
Yn ystod yr 14 diwrnod y bydd yr Hysbysiad wedi’i arddangos, gall deg etholwr o’r Gymuned neu Ward y Dref/Cymuned, sy’n gofrestredig ar y Gofrestr Etholiadol, alw am gynnal etholiad. Mae hwn yn hawl cyfreithiol sydd ar gael i'r etholwyr yn y gymuned neu'r ward berthnasol, fel y cyfeirir uchod. Er mwyn gwneud hyn bydd angen iddynt gyflwyno cais yn ysgrifenedig i’r Swyddog Canlyniadau, Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri, CF63 4RU.
 
Os digwydd hyn, bydd Clerc y Cyngor Tref/Cymuned yn cael gwybod ar unwaith. Y Swyddog Canlyniadau fydd yn penderfynu ar ddyddiad yr etholiad, ond bydd rhaid iddo fod o fewn 60 diwrnod gwaith o ddyddiad yr Hysbysiad. 
 
Os oes Swydd yn Wag Dros Dro o fewn chwe mis cyn y diwrnod y byddai’r Cynghorydd hwnnw wedi ymddeol, ni chynhelir etholiad. Efallai y bydd y Cyngor Tref/Cymuned yn cyfethol person i lenwi’r swydd wag a bydd unrhyw swydd wag nad yw'n cael ei llenwi, yn cael ei llenwi yn yr etholiad arferol nesaf.
 
Os na wneir cais am etholiad, bydd Clerc y Cyngor Tref/Cymuned yn cael gwybod bod yn rhaid i’r
Cyngor Tref/Cymuned gyfethol aelod i lenwi’r swydd wag cyn gynted ag sy’n rhesymol bosibl.  Pan fo Cyngor Tref/Cymuned yn bwriadu llenwi swydd wag drwy gyfethol, rhaid iddo roi hysbysiad cyhoeddus o'r cyfle i gyfethol, fel sy'n ofynnol dan a.116, Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. 
 
Rhaid gwneud hyn drwy arddangos hysbysiad.  Rhaid hysbysu'r Swyddog Canlyniadau am enw a chyfeiriad y person a gyfetholir. 
 
Os nad oes cworwm y Cyngor Tref/Cymuned oherwydd y swyddi gwag dros dro, bydd Cyngor Bro Morgannwg yn galw am etholiad ac yn y cyfamser, mae’n bosibl y bydd pobl yn cael eu penodi i swyddi gwag nes bydd Cynghorwyr eraill yn cael eu hethol.

 

Isetholiadau 

 

Diben isetholiad yw ethol unigolyn yn Gynghorydd dros eich ardal leol.

 

Caiff isetholiad ei gynnal os yw cynghorydd etholedig mewn cyngor tref/cymuned yn ymddiswyddo, yn marw neu ddim yn mynychu cyfarfodydd.

 

Os daw sedd cynghorydd yn wag, bydd clerc y cyngor tref/cymuned dros yr ardal honno yn rhoi gwybod i ni yn y Swyddfa Cofrestru Etholiadol, a byddwn ni’n cyhoeddi Hysbysiad o Swydd Wag Dros Dro.

 

Cewch eich hysbysu o unrhyw isetholiad yn eich ardal drwy gyfrwng cerdyn pleidleisio swyddogol a gaiff ei bostio atoch chi.

 

Ar ôl y bleidlais, bydd yr Ymgeisydd (y person sydd am fod yn Gynghorydd) gyda’r nifer uchaf o bleidleisiau yn cael ei ethol. 

 

Cysylltu â ni