Cost of Living Support Icon

Etholiadau Senedd Cymru

 

Dyddiad y Senedd Cymru nesaf yw dydd Iau 7 Mai 2026

 

National Assembly for Wales

Rôl y Swyddog Canlyniadau Etholaethol

Mae’r Swyddog Canlyniadau Etholaethol yn gyfrifol am sicrhau y caiff yr etholiad ei weinyddu'n effeithiol yn ei ardal bleidleisio gan gynnwys darparu gorsafoedd pleidleisio, argraffu papurau pleidleisio, penodi staff gorsafoedd pleidleisio, cynnal y bleidlais, rheoli proses y bleidlais bost, gwirio a chyfrif yn ei ardal bleidleisio a throsglwyddo'r cyfansymiau lleol i'r Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol.

 

Y Swyddog Canlyniadau Etholaethol: Rob Thomas

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â:

 

Rachel Starr-Wood, Rheolwr Cofrestru Etholiadol

  • 01446 709304

Hayley Hanman, Dirprwy Reolwr Cofrestru Etholiadol 

  • 01446 709345

 

Mae pum Rhanbarth Etholiadol yn y Senedd:

  • Canol De Cymru

  • De-ddwyrain Cymru

  • De-orllewin Cymru

  • Canolbarth a Gorllewin Cymru

  • Gogledd Cymru

 

Mae Canol De Cymru yn cwmpasu ardaloedd gweinyddol tri Awdurdod Unedol:

  • Caerdydd

  • Rhondda Cynon Taf

  • Bro Morgannwg.