Polisïau a Gweithdrefnau Chwarae
Mae Cyngor Bro Morgannwg a'u partneriaid am greu Bro sy'n chwarae-gyfeillgar lle mae plant a phobl ifanc yn cael yr amser, y gofod a'r caniatâd i chwarae - gan hyrwyddo agweddau cadarnhaol tuag at blant yn chwarae yn eu cymunedau.
Mae Llywodraeth Cymru eisiau hyn hefyd. Nhw yw'r llywodraeth gyntaf yn y byd i ddeddfu ar gyfer chwarae plant. Maen nhw am sicrhau bod Cymru'n lle mae pob plentyn yn cael y cyfleoedd gorau i chwarae a mwynhau eu hamser hamdden.
I gefnogi hyn, maen nhw wedi gofyn i bob awdurdod lleol yng Nghymru edrych a yw cyfleoedd chwarae ym mhob ardal yn ddigon da, a chreu cynllun i ddangos sut y gallan nhw wella cyfleoedd chwarae yn eu hardal. Gelwir hyn yn Asesiad Digonolrwydd Chwarae (PSA). Isod mae dolen i'r adroddiad Crynodeb Gweithredol ar ôl cwblhau Asesiad Digonolrwydd Chwarae 2022 i roi gwybod i chi beth wnaethon ni ei ddarganfod a beth yw ein blaenoriaethau ar gyfer y blynyddoedd nesaf.