Rhannau Rhydd
Er bod plant yn gallu ac yn chwarae gyda bron unrhyw beth, mae adnoddau y gallwn eu darparu sy'n hwyluso ac yn annog chwarae. Gelwir eitemau megis, ffabrig, bwcedi, bocsys, rhaffau, teiars, pren a deunyddiau sgrap a ddefnyddir ar gyfer chwarae yn rhannau rhydd.
Mae rhannau rhydd yn cael eu defnyddio'n eang gan blant mewn lleoliadau chwarae, ysgolion a chanolfannau gofal plant. Mae cael gafael ar ac ailddefnyddio defnyddiau fel pethau i blant chwarae â nhw mewn lleoliadau yn ffordd fach a syml o helpu'r amgylchedd, tra'n gwella cyfleoedd i chwarae a chreadigrwydd.
Gall unrhyw beth a ddefnyddir fel rhan rhydd gynnig posibiliadau chwarae di-derfyn. Er enghraifft, gall ffon droi'n wialen bysgota ger dŵr go iawn neu ddychmygol, neu lwy mewn cegin fwd, neu yn erfyn i ryddhau pêl-droed sy'n sownd mewn coeden; gellir ei daflu, ei arnofio, ei falu, ei ‘bingio’, ei blygu, ei guddio, ei ychwanegu at bentwr, ei glymu i rywbeth arall, ei hollti, ei gatapwltio, neu ei ddefnyddio i wneud tân.
Ceir damcaniaeth ynghylch rhannau rhydd. Mae’n datgan: 'Mewn unrhyw amgylchedd, mae gradd y dyfeisgarwch a’r creadigrwydd, a'r posibilrwydd o ddarganfod, yn uniongyrchol gymesur â'r nifer a'r math o amrywiolion ynddo.'
Mae Chwarae Cymru wedi datblygu Pecyn Cymorth 'Rhannau Rhydd'. Mae’r blwch offer
Adnoddau chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant wedi ei ddatblygu i gefnogi oedolion yn y sectorau chwarae, blynyddoedd cynnar, ac addysg i ddarparu chwarae rhannau rhydd o fewn eu lleoliadau.