Cynnwys polisïau chwarae yn yr ysgol
Mae Chwarae Cymru yn argymell bod ysgolion sy'n dymuno creu amgylchedd chwarae cyfoethog i blant yn mabwysiadu polisi chwarae. Mae polisi chwarae ysgol yn nodi'r gwerth y mae'r ysgol yn ei roi ar chwarae plant ac yn dangos bod yr ysgol yn ymrwymo i gefnogi cyfleoedd chwarae i blant. Mae Chwarae Cymru wedi llunio polisi chwarae ysgol enghreifftiol y gellir ei ddefnyddio yn ei gyfanrwydd neu ei addasu i gyd-fynd ag anghenion yr ysgol.
Cynyddu hyfforddiant chwarae i staff ysgol
Codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd chwarae yn eich ysgol. Mae Tîm Chwarae'r Fro yn gweithio ochr yn ochr ag Addysg Oedolion Cymru i gyflwyno hyfforddiant gwaith chwarae achrededig. Gallwn gynnig y cyfleoedd hyfforddi canlynol i'ch tîm staff gan gynnwys athrawon, cynorthwywyr cymorth dysgu, gofalwyr adeilad, goruchwylwyr amser cinio, gwirfoddolwyr:
- Cyflwyniad i Waith Chwarae (Lefel Un)
- Gwobr Lefel 2 mewn Arferion Gwaith Chwarae (L2APP)
- Gwobr mewn Pontio i Waith Chwarae (Lefel 3)
- Rheoli Cynllun Chwarae yn ystod y Gwyliau (MAHPS Lefel 3)
- Gwaith Chwarae; Egwyddorion ar Waith (P3-Diploma Gwaith Chwarae Lefel 3)
Gwella gallu cymunedau i chwarae ar diroedd ysgolion
Ledled Cymru, mae llawer o diroedd ysgol yn cynnig adnodd sylweddol ar gyfer chwarae plant. Mae tiroedd ysgol yn aml yn cynrychioli'r unig ardal o dir agored lle gall plant chwarae yn eu cymuned leol. Yn yr un modd, mae rhai ysgolion yn cynnig yr unig arwyneb gwastad yn lleol lle gall plant ddysgu sut i feicio a chwarae gyda'u sgwteri a'u byrddau sgrialu. Drwy ddod yn Ysgol sy’n Dda i Chwarae, byddwch yn ymrwymo i agor tiroedd eich ysgol, y tu allan i oriau ysgol, at ddibenion chwarae cymunedol.
Cyflwyno Hyrwyddwyr Chwarae mewn ysgolion

Bydd Hyrwyddwyr Chwarae yn cefnogi chwarae ym mhob rhan o’ch ysgol, nhw fydd y prif gyswllt ar gyfer pob peth sy’n ymwneud â chwarae! Gall Hyrwyddwyr Chwarae fod yn oedolion ac yn blant yn eich ysgol sy’n frwd dros chwarae!
Gweithdai Chwarae i Rieni/Gofalwyr
Mae rhieni a gofalwyr yn bwysig o ran cefnogi chwarae i blant – ni waeth pa mor hen ydynt. Gall hwyluso gweithdai chwarae helpu rhieni a gofalwyr i roi amser, lle a chefnogaeth i blant chwarae gartref ac yn eu cymuned leol.