Ymunwch â'n Tîm
Ydych chi'n frwd dros roi cyfleoedd chwarae i blant a phobl ifanc? Ydych chi eisiau rôl y gallwch ei gwneud y tu allan i amseroedd ysgol?
Mae Tîm Chwarae’r Fro yn recriwtio gweithwyr chwarae i gefnogi cyfleoedd chwarae ar ôl yr ysgol, yn ystod gwyliau'r ysgol ac ar benwythnosau. Dyma swydd achlysurol ac mae'r oriau'n hyblyg, sy'n golygu y gallwch ymrwymo i gynifer neu gyn lleied o sesiynau ag yr hoffech.
Byddwch yn rhan o dîm chwarae deinamig sy'n cynnig cyfleoedd chwarae pwrpasol a chynhwysol mewn darpariaethau amrywiol ar draws y Fro. Mae ein darpariaethau chwarae yn cynnwys Cynlluniau Chwarae, Clybiau Gwyliau Cofrestredig, sesiynau Ceidwaid Chwarae, sesiynau Crwydrwyr Coed, Digwyddiadau Cymunedol a Hwyl i’r Teulu.
Rydym yn gwbl gynhwysol ym mhopeth a ddarparwn, a'n rôl ni yw sicrhau bod plant sy'n byw ym Mro Morgannwg yn cael y cyfleoedd gorau posib i gael mynediad at ddarpariaeth chwarae o safon uchel.
Os ydych am Ddechrau Eich Taith Gwaith Chwarae, gallwch wneud cais am ein swydd Gweithiwr Chwarae.
Os oes gennych Gymhwyster Gwaith Chwarae Lefel 2, neu barodrwydd i weithio tuag at gyflawni hynny, gallwch wneud cais am ein swydd Uwch Weithiwr Chwarae.
Os oes gennych Gymhwyster Gwaith Chwarae Lefel 3 neu gyfatebol, gallwch wneud cais am ein swydd Arweinydd Chwarae.
Gwnewch gais am un o'n swyddi dros dro gwag