Mae Tîm Chwarae'r Fro yn gyffrous iawn i lansio ein menter beilot Chwarae ar y Stryd yn 2023. Mae'r cynllun peilot wedi cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â Thîm Chwarae; Priffyrdd; Cyfraith; Teithio Llesol Bro Morgannwg a gyda chefnogaeth gan Chwarae Cymru.
Mae sesiynau "Chwarae stryd, neu 'chwarae allan', yn sesiynau cau ffyrdd am gyfnodau byr, dan arweiniad preswylwyr, i adael i blant chwarae'n ddiogel ac yn rhydd y tu allan i'w drws ffrynt eu hunain. Mae strydoedd bellach yn gwneud hyn ledled gwledydd Prydain ac mae iddo fanteision cadarnhaol iawn i blant a chymunedau. “ - Beth yw Chwarae Stryd? Playing Out
Mae Playing Out yn sefydliad dan arweiniad rhieni sydd wedi datblygu adnoddau rhad ac am ddim i drigolion sy'n trefnu strydoedd chwarae ledled gwledydd Prydain, gweler eu gwefan www.playingout.net
Mae Chwarae Cymru wedi datblygu Sut i drefnu sesiynau chwarae allan ar eich stryd: Fersiwn o lawlyfr Playing Out ar gyfer preswylwyr yng Nghymru y gallwch ei lawrlwytho am ddim ynghyd ag adnoddau defnyddiol eraill yma:
Chwarae Cymru - Chwarae Stryd
Am fwy o wybodaeth am Chwarae ar y Stryd, cysylltwch â: