Mawrth 2016 Newyddion
Y Newyddion Diweddaraf o'r Cyngor
Nifer gyfyngedig o gytiau traeth Ynys y Barri ar gael - 31 Mawrth 2017
Mae nifer GYFYNGEDIG o gytiau traeth mawr a bach ar Ynys y Barri ar gael i'w rhentu am flwyddyn o 10 Ebrill tan ddiwedd Mawrth 2018.
Bu 180 o ddisgyblion o amrywiol ysgolion cynradd y Fro yn cystadlu mewn twrnamaint a fynychwyd gan Bethan Dyke, y chwaraewraig pêl-rwyd rhyngwladol.
Mae disgwyl i ‘All Fur Coat’ gan Billy Kerry a ‘Rarebit Please!’ gan Artur Conka agor yn yr Oriel Gelf Ganolog ym mis Ebrill, gyda’r ddau osodiad yn anelu i ymgysylltu cymunedau Teithwyr Sipsi Roma â’r cyhoedd.
Mae heddlu De Cymru yn dymuno siarad a nifer o ddynion yn gysylltiedig â’r ymgais i ddwyn plwm oddi ar do Llyfrgell y Sir, Sgwâr y Brenin, Y Barri.
Mae rhan o Lwybr Arfordir Cymru i’r dwyrain o Barc Carafanau Ffontygari wedi ei chau i’r cyhoedd yn dilyn cwymp clogwyn.
Mae’r manylion olaf yn cael eu rhoi ar gynigion i ddatblygu tai cyngor newydd yn y Fro ar ôl digwyddiad ymgynghori a gynhaliwyd yn y Barri yn gynharach fis yma.
Darlleniadau gan bump awdur plant enwog fydd y prif atyniad yn ‘lansiad mawr’ Hyb a Llyfrgell Gymunedol Sain Tathan ddydd Sadwrn 1 Ebrill 2017.
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ennill un o wobrau llywodraeth leol mwyaf mawreddog y DU.
Mae cyffordd newydd ag arwyddion gyda lôn fysus benodol ar gyfer Port Road, Gwenfô , wedi’i hagor yn swyddogol i’r cyhoedd.
Mae’r tair ysgol sy'n rhan o Gymuned Ddysgu Llanilltud ar agor nawr, gyda disgyblion o Ysgol Gyfun Llanilltud Fawr yn symud i’w hadeiladau newydd ar ddechrau'r mis hwn, chwe mis o flaen y cynllun gwreiddiol.
Ar ôl cytuno’n ffurfiol ar gynlluniau i fuddsoddi £44m i addysg uwchradd yn y Barri drwy greu dwy ysgol gyfun rhyw cymysg newydd, mae Cyngor Bro Morgannwg bellach yn bwriadu penodi cyrff llywodraethu ar gyfer yr ysgolion hyn.
Dau barc arall ym Mhenarth yn cael eu hadnewyddu - 17 Mawrth 2017
MAE gwaith i adnewyddu parciau Penarth yn parhau, gydag ardaloedd chwarae ar eu newydd wedd yn Sgwâr Plassey a Cwrt y Vil am agor erbyn y Pasg.
Mae Cyngor Bro Morgannwg ar fin dechrau’r broses o drawsnewid 4000 o oleuadau stryd ar draws y sir i dechnoleg LED fel rhan o fuddsoddiad £1.3 miliwn i oleuadau stryd.
Mae sesiwn blasu dwy awr a gynhaliwyd gan dîm Datblygu Chwaraeon a Chwarae Cyngor Bro Morgannwg wedi galluogi merched ifanc y Fro i roi cynnig ar amrywiaeth o weithgareddau sy’n seiliedig ar chwaraeon.
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi dewis contractwr i wneud gwaith adnewyddu sylweddol ar y cyfleusterau yng nghanolfannau hamdden Penarth a’r Barri.
Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn diffodd y goleuadau yn y Swyddfeydd Dinesig am un awr, wrth iddo ddangos cefnogaeth i Awr y Ddaear – sef awr sy'n dathlu'r blaned yn rhyngwladol pob blwyddyn.
Yn ddiweddar daeth Ysgol Iau Gatholig Sain Helen yn y Barri’r ysgol gyntaf ym Mro Morgannwg i ddilyn Hyfforddiant Cynhwysiant Anabledd Mini (DIT Mini).
Heddiw, yn rhan o ddathliadau Diwrnod y Gymanwlad, lansiodd y Frenhines Daith Baton y Frenhines 2018 yn swyddogol mewn seremoni agoriadol llawn enwogion ym Mhalas Buckingham.
Cynhaliwyd sesiwn hyfforddi i breswylwyr ifanc y Fro a gofrestrodd ar gyfer y project Cenhadon Hawliau yn ddiweddar yng Ngholeg yr Iwerydd, Llanilltud Fawr.
Bydd y newidiadau canlynol ar waith o ddydd Sul 2 Ebrill 2017 yn dilyn tendr diweddar gan Gyngor Bro Morgannwg ar gyfer gwasanaethau bws lleol a gefnogir.
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn tynnu sylw at y gwaith a wneir gan ofalwyr ifanc i godi ymwybyddiaeth o’r disgwyliadau sy’n cael eu gosod ar ysgwyddau unigolion yn y Sir.
Mae popty ym MHENARTH wedi derbyn dirwy o fwy na £10,000 am gyflawni 36 trosedd hylendid ac mae ei berchennog wedi'i wahardd rhag rheoli busnes bwyd am 10 mlynedd, ar ôl i Gyngor Bro Morgannwg ddod ag achos i’r llys.
BYDD ffrâm ddringo bron 4 metr o uchder o'r enw 'Nyth y Brain' yn rhan o Ardal Chwarae newydd Llwybr y Clogwyn, wrth i Gyngor Bro Morgannwg ddechrau ar y gwaith adnewyddu gwerth £100,000 ar y thema môr-ladron.
Mae rhesi o fyngalos yn cael eu diweddaru gan Gyngor Bro Morgannwg fel rhan o gynllun adnewyddu gwerth £1.7 miliwn.