Popty ym Mhenarth yn derbyn dirwy o fwy na £10,000 am droseddau hylendid bwyd
08 Mawrth 2017
Mae popty ym MHENARTH wedi derbyn dirwy o fwy na £10,000 am gyflawni 36 trosedd hylendid ac mae ei berchennog wedi'i wahardd rhag rheoli busnes bwyd am 10 mlynedd, ar ôl i Gyngor Bro Morgannwg ddod ag achos i’r llys.
Clywodd Llys Ynadon Caerdydd sut gwelodd swyddogion o’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, y corff sy’n gyfrifol am reoli safonau diogelwch bwyd yn y Fro, doriadau difrifol o reoliadau hylendid, gan gynnwys presenoldeb llygod, pan ymwelon nhw â Modern Bakery, yn masnachu fel Penarth Bakery Limited yn Plassey Street yn y dref.
Ymwelwyd â’r busnes, oedd yn gweithredu fel gwneuthurwr bwyd gan gyflenwi allfeydd eraill yn ogystal â’i siop manwerthu ei hun, nifer o weithiau. Gan fod y toriadau o reoliadau hylendid bwyd mor ddifrifol, roedd yn rhaid i swyddogion ymyrryd er budd iechyd y cyhoedd, gydag 11 hysbysiad gwella’n cael eu cyhoeddi.
Mae’r toriadau a nodwyd yn y safle yn cynnwys:
- Hylendid personol gwael.
- Methu â diogelu bwyd rhag halogi.
- Roedd y safle’n frwnt ac mewn cyflwr gwael.
- Storio bwyd risg uchel heb reoli’r tymheredd.
- Methu â sicrhau bod gweithdrefnau digonol ar waith i reoli plâu. Ni reolid llygod na phryfed yn y safle.
- Gwerthu bwyd anaddas i’r farchad.
- Methu â gweithredu na chynnal gweithredoedd diogelwch bwyd ysgrifenedig yn y busnes, yndangos diffyg rheolaeth a gofal.
- Methu â chydymffurfio â’r wyth hysbysiad gwella hylendid.
Tra’n ymddangos yn y llys ddydd Iau diwethaf, plediodd Gareth Spray yn euog i 28 trosedd am fethiant fel gweithredwr y busnes bwyd mewn perthynas â hylendid bwyd ac wyth trosedd bellach am fethu â chydymffurfio â hysbysiadau gwella hylendid.
Plediodd yn euog hefyd i ddwy drosedd gwerthu bwyd nad yw’n addas i bobl ei fwyta. Cyflawnwyd yr un drosedd gan y cwmni, Penarth Bakery Limited gyda throsedd ychwanegol am fethu ag arddangos y sticer sy'n dangos eu sgôr hylendid bwyd o 0.
Wrth ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Rhanbarth Bodfan Jenkins fod gan Mr Spray a’i gwmni ddiffyg parch amlwg i’r gyfraith a bod pawb sy'n rhan o'r cwmni wedi ymddwyn yn ofnadwy o ran cyflwr y safle a'r offer, sy'n ddigon i godi cyfog ar rywun.
Dywedodd fod yr ymdrechion i ddatrys y problemau’n rhy ychydig yn rhy hwyr."
Dedfrydwyd Mr Spray i bedwar mis yn y carchar, wedi’i ohirio am 12 mis, am y ddwy drosedd fwyaf difrifol am werthu bwyd nad yw'n addas i bobl ei fwyta.
Gorchmynnwyd iddo weithio 200 awr heb dâl a chyflawni gweithgaredd adsefydlu o hyd at 15 diwrnod.
Am y 36 o droseddau eraill, cafodd ddirwy o £200, sy’n dod i gyfanswm o £7200. Yn ogystal, gorchmynnwyd iddo dalu costau o £1400 a thâl dioddefwr o £115.
Gwaharddwyd Mr Spray rhag rheoli unrhyw fusnes bwyd am 10 mlynedd.
Yn ogystal, cafodd Penarth Bakery Limited ddirw
y o £1300 am y ddwy drosedd fwyaf difrifol a £200 am bob trosedd arall sy’n dod i gyfanswm o £10,000. Hefyd, gorchmynnwyd i’r cwmni dalu costau o £1400 a thâl dioddefwr o £200.
Dywedodd y Cyng. Gwyn John, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Gweladwy, Hamdden a Gwasanaethau Rheoliadol:
“Yn ffodus, mae achosion fel hyn yn brin ar draws y rhanbarth ac mae rhan fwyaf y busnesau bwyd yn gweithio'n galed i sicrhau y cynhelir y safonau hylendid bwyd uchaf bosibl. Serch hynny, mae canlyniad yr achos llys hwn yn anfon neges glir y cymerir camau gweithredu llym pan fo’u hangen i ddiogelu’r cyhoedd.”