Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dechreuodd Miss Dyke chwarae pêl-rwyd yn wyth oed, a bu’n gwylio ar y cyrion wrth i ddisgyblion ifanc o 18 ysgol gynradd yn y Fro gystadlu am yr hawl i fynychu’r rowndiau terfynol rhanbarthol yng Nghaerdydd.
Cafwyd help gan naw o ddyfarnwyr gwirfoddol o ysgolion uwchradd lleol a gwelwyd dros 50 o ornestau agos rhwng yr ysgolion lleol.
O’r cychwyn cyntaf, byddai chwech o’r 18 tîm yn mynd ymlaen i gystadlu yn y rowndiau terfynol rhanbarthol ar 30 Mawrth.
Gwenfô oedd yn fuddugol, gyda St David’s yn ail a Cogan yn drydydd. Y timau eraill yn y chwech oedd Tregatwg, Bro Morgannwg a Llan-gan.
Trefnwyd y digwyddiad gan dîm Chwaraeon a Datblygu Chwarae Cyngor Bro Morgannwg, gydag un Swyddog Cyngor yn nodi: “Roedd hi’n wych gweld cymaint o ysgolion, a phlant, yn ymwneud â’r digwyddiad hwn, ac ystod y galluoedd fu’n cystadlu. Ymdrechodd yr holl ddisgyblion yn galed, a’r dyfarnwyr gwirfoddol.
“Llongyfarchiadau i’r chwe thîm, a phob lwc yn rowndiau terfynol y rhanbarth. Gwnewch y Fro yn falch!