Cost of Living Support Icon

Chwilio am lywodraethwyr ar gyfer ysgolion newydd y Barri

17 Mawrth 2017

Ar ôl cytuno’n ffurfiol ar gynlluniau i fuddsoddi £44m i addysg uwchradd yn y Barri drwy greu dwy ysgol gyfun rhyw cymysg newydd, mae Cyngor Bro Morgannwg bellach yn bwriadu penodi cyrff llywodraethu ar gyfer yr ysgolion hyn.

 

Cymeradwywyd y cynnig i sefydlu dwy ysgol newydd ar safleoedd presennol Ysgol Gyfun y Barri ac Ysgol Gyfun Bryn Hafren a chweched dosbarth ar y cyd rhwng y ddau safle ar 6 Mawrth 2017. Bydd yr ysgolion rhyw cymysg presennol yn cau'n ffurfiol ar ddiwedd mis Awst 2018.


Gwnaethpwyd y penderfyniad yn dilyn rhaglen ymgysylltu hirfaith gyda rhieni, disgyblion, staff, llywodraethwyr a gweithwyr proffesiynol eraill, ac mae’r Cyngor wedi ymrwymo i barhau i sicrhau bod ystod eang o bobl ynghlwm wrth y cynnig. Mae dau gorff llywodraethu newydd yn cael eu creu i helpu i gyflawni hyn.


Dywedodd llefarydd ar Cyngor: “Mae cynlluniau’r Cyngor ar gyfer dyfodol addysg uwchradd yn y Barri yn gyffrous. Er mwyn iddynt lwyddo, mae’n rhaid i ni barhau i weithio gyda phawb sy’n rhannu ein teimladau dros wella cyfleoedd i blant a phobl ifanc y Fro. 


“Mae llywodraethwyr yn gweithio’n agos gyda'r pennaeth a staff eraill, ac yn chwarae rhan hanfodol wrth reoli unrhyw ysgol. Rydym yn ceisio datganiadau o ddiddordeb gan unrhyw un sy’n teimlo eu bod nhw’n gallu dod â sgiliau a phrofiad i’r project hwn a chan bobl sy’n meddwl y gallen nhw adlewyrchu barn ac anghenion eu cymuned.” 


Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymuno â chorff llywodraethu dros dro unrhyw ysgol lenwi'r ffurflen gais ar-lein. 

 

Bydd cyrff llywodraethu dros dro’r ysgolion yn goruchwylio’r broses bontio o'r trefniadau presennol i’r ysgolion newydd. 

 

Bydd y llywodraethwyr newydd yn cael eu cefnogi wrth eu gwaith gan aelod staff dynodedig yn adran dysgu a sgiliau’r Cyngor. Bydd yr un person yn gweithio gyda'r penaethiaid i sicrhau bod y broses o symud o un ysgol i'r llall mor ddidrafferth ag sy'n bosibl.  

 

Mae’r dyddiad cau ar gyfer datganiadau o ddiddordeb ddydd Mawrth, 28 Mawrth am hanner dydd.

 

Gwnewch gais ar-lein