Cost of Living Support Icon

Gwelliannau i Seilwaith Gwyrdd y Barri

Mae'r Cyngor wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru drwy'r Rhaglen Buddsoddi Cyfalaf Adfywio wedi'i Dargedu (BCD) -  Seilwaith Gwyrdd, i wneud gwelliannau i Seilwaith Gwyrdd y Barri. 

 

Enw'r project yw: Y Barri, Yn wyrdd, Yn tyfu, Yn gysylltiedig

 

Manylion y project

Gall dod â nodweddion naturiol fel coed a blodau gwyllt yn ôl i drefi ein helpu i fynd i'r afael ag amrywiaeth o heriau amgylcheddol trefol megis rheoli dŵr storm, lleihau llygredd, a gwydnwch o ran yr hinsawdd. Mae natur hefyd yn rhoi hwb i iechyd a lles y bobl sy'n byw mewn trefi. Mae'r project arfaethedig yn canolbwyntio ar gyfres o ymyriadau arloesol a fydd yn dangos sut y gellir cyflwyno nodweddion Seilwaith Gwyrdd i briffyrdd a mannau agored presennol yn y dref i ddarparu tirwedd well sy'n ddeniadol ac yn gysylltiedig.  

 

Bydd y gwaith yn cynnwys y gwelliannau canlynol:

  • Tynnu palmentydd a rhoi coed a blodau gwyllt yn eu lle

  • Plannu amrywiaeth o goed, coetiroedd a blodau gwyllt

  • Cyflwyno gerddi glaw i amsugno dŵr wyneb sy’n ffoi o'r briffordd yn ystod glaw trwm

  • Cyflwyno ysgolion dringo i amffibiaid allu cyrraedd gylïau a helpu bywyd gwyllt

  • Gwella'r ardal gyhoeddus gan gynnwys troedffyrdd, seddi a biniau

 

Mae'r Cyngor yn bwriadu plannu coed yn Gladstone Road i gymryd lle rhai sydd wedi'u colli dros y blynyddoedd.   Mae cynlluniau'n dangos lle mae coed wedi'u colli a / neu leoliadau newydd lle gellid eu plannu.  

 

 

Y gyllideb ar gyfer y project hwn yw £244,000 y mae Llywodraeth Cymru yn darparu £192,500 ohono trwy'r rhaglen 'Trawsnewid Trefi'.

 

Bydd gwaith yn dechrau ar 25 Ionawr am tua 9 wythnos, yn dibynnu ar y tywydd. 

 

Mae'r Cyngor yn gweithio'n agos gydag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru a fydd yn:

  • ymgymryd â gweithgareddau addysgol amgylcheddol ymarferol gydag ysgolion lleol

  • ceisio gweithio gyda deiliaid rhandiroedd lleol ar ambell broject bywyd gwyllt

  • cynnal digwyddiadau cymunedol yn ystod gwanwyn 2021

Am ragor o wybodaeth am y project hwn, cysylltwch â: