Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn egluro sut y bydd Cyngor Bro Morgannwg (fel Rheolydd y Data) yn casglu, yn defnyddio ac yn diogelu data personol yn benodol mewn perthynas â'r Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin.
Er mwyn rhoi cymorth i ddinasyddion Wcráin sy'n dianc rhag y gwrthdaro yn y wlad, bydd Cyngor Bro Morgannwg a'n partneriaid yn y sector cyhoeddus lleol yn prosesu data personol adnabyddadwy'r bobl sy’n dianc rhag y rhyfel a'r rhai sy'n eu noddi i ddod i'r DU.
Cesglir y data o sawl ffynhonnell, gan gynnwys adrannau Llywodraeth y DU, ac yn uniongyrchol gan unigolion. Byddwn ond yn casglu'r wybodaeth sy'n angenrheidiol i gefnogi dinasyddion Wcráin sy'n cael eu noddi i ddod i Fro Morgannwg naill ai gan Lywodraeth Cymru neu gan unigolion a sefydliadau eraill yn y DU.
Cyngor Bro Morgannwg fydd Rheolydd y Data ar gyfer y data personol y mae'n ei gasglu, ac unrhyw ddata personol sy'n cael ei rannu gyda ni gan adrannau o Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.
Byddwn yn prosesu’r data hwn yn unol â'n tasg gyhoeddus a'r awdurdod swyddogol a roddwyd i ni. Lle mae'r wybodaeth yn gyfystyr â data categori arbennig, byddwn yn ei brosesu er budd sylweddol y cyhoedd o amddiffyn pobl sy'n agored i niwed.
Caiff y data ei brosesu i gefnogi dinasyddion Wcráin yn ystod y broses gyrraedd ac am gyfnod unrhyw drefniadau noddi ym Mro Morgannwg. Bydd y data hefyd yn cael ei ddefnyddio i asesu addasrwydd a chefnogi gwesteiwyr o dan y Cynllun Cartrefi i Wcráin.
Ni fyddwn ond yn rhannu data personol i'r graddau y mae'n angenrheidiol i gefnogi dinasyddion Wcráin, gwesteiwyr o dan y Cynllun Cartrefi i Wcráin neu lle mae'n ofynnol i ni yn ôl y gyfraith. Gall hyn gynnwys rhannu gwybodaeth gydag Addysg, y GIG a thrydydd partïon pan fo angen.
Mae data personol sy'n cael ei roi i Gyngor Bro Morgannwg yn cael ei storio ar weinyddion diogel.
Dim ond drwy ddefnyddio systemau trosglwyddo data diogel achrededig y caiff data personol, adnabyddadwy a rennir gyda'n sector cyhoeddus a phartneriaid eraill ei drosglwyddo. Dim ond data sy'n gwbl angenrheidiol ar gyfer darparu cymorth i ddinasyddion Wcráin a gaiff ei rannu.
Bydd data personol adnabyddadwy a gedwir gan Gyngor Bro Morgannwg yn cael ei gadw drwy gydol y cynllun noddi, ac am gyfnod o chwe mis o leiaf wedi hynny. Gellir cadw data am gyfnodau hwy, gan gynnwys gan ein partneriaid yn y sector cyhoeddus, lle mae rhwymedigaeth statudol neu ofyniad parhaus i wneud hynny. Caiff y data ei ddinistrio'n ddiogel unwaith y penderfynir nad oes ei angen mwyach.
Mae'r Cyngor eisoes yn cadw data am noddwyr a'r rhai sydd wedi derbyn fisa o dan y Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin, sydd ar fin byw yn ein hardal ni.
Mae'n bosibl y bydd angen i ni, yn yr argyfwng presennol, ofyn i chi am ddata personol gan gynnwys data personol sensitif nad ydych eisoes wedi'i ddarparu - er enghraifft, eich oedran neu a oes gennych unrhyw salwch sylfaenol neu a ydych yn agored i niwed. Gwneir hyn er mwyn i'r Cyngor eich helpu a sicrhau eich bod yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnoch i fyw yn y gymuned.
Gallwch weld prif Hysbysiad Preifatrwydd y Cyngor, sy'n cynnwys mwy o wybodaeth am sut rydym yn casglu, defnyddio a diogelu data personol yn gyffredinol, yn ogystal â'ch hawliau fel Gwrthrych y Data.
Noddwyr a gwladolion o Wcráin sy’n cyrraedd
Mae data personol yn cael ei gasglu er mwyn asesu a rhoi cymorth i oedolion, plant a phobl ifanc sy'n cyrraedd Bro Morgannwg a allai fod angen cefnogaeth a chymorth gan wasanaethau'r Cyngor.
Asesu a rhoi cymorth i staff
Mae data personol yn cael ei gasglu er mwyn galluogi'r Cyngor i nodi unrhyw gymorth angenrheidiol i deuluoedd neu unigolion sy'n cyrraedd o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin.
Beth yw’r sail gyfreithiol dros ddefnyddio eich data personol?
Chi sy’n rhoi rhan fwyaf yr wybodaeth bersonol rydym yn ei phrosesu i ni'n uniongyrchol, dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR y DU).
Dyma'r seiliau cyfreithiol rydym yn dibynnu arnynt ar gyfer casglu a defnyddio eich gwybodaeth bersonol:
- Erthygl 6 (d) GDPR y DU Mae angen i ni ddiogelu eich buddiannau hanfodol
- Erthygl 6 (e) GDPR y DU Mae ei hangen arnom i gyflawni tasg gyhoeddus
Eich hawliau
Dan gyfraith diogelu data, mae gennych hawliau sy’n cynnwys:
- Eich hawl mynediad - Mae gennych hawl i ofyn i ni am gopïau o'ch gwybodaeth bersonol.
- Eich hawl i gywiro - Mae gennych hawl i ofyn i ni gywiro gwybodaeth sy'n anghywir yn eich barn chi. Mae gennych hefyd hawl i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth sy'n anghyflawn yn eich barn chi.
- Eich hawl i gyfyngu ar brosesu - Dan rai amgylchiadau penodol mae gennych hawl i gyfyngu i ba raddau rydym yn prosesu eich gwybodaeth.
- Eich hawl i wrthwynebu prosesu - Mae gennych hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol mewn rhai amgylchiadau.
- Nid oes angen i chi dalu unrhyw dâl am arfer eich hawliau. Os gwnewch gais, bydd gennym un mis i ymateb i chi.
Gyda phwy ddylech gysylltu os oes gennych bryderon am y ffordd y caiff eich data ei brosesu?
Gallwch gysylltu â Thîm Diogelu Data Cyngor Bro Morgannwg neu gysylltu'n uniongyrchol â Swyddog Diogelu Data Cyngor Bro Morgannwg:
E-bost: DPO@bromorgannwg.gov.uk
Drwy’r post: Swyddog Diogelu Data, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, y Barri, CF63 4RU
Gallwch hefyd gwyno wrth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth gan ddefnyddio’r manylion hyn:
Trwy'r post: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Sir Gaer, SK9 5AF
Ffôn: 0330 414 6421
Ceir rhagor o gyngor ac arweiniad gan y Comisiynydd Gwybodaeth ar y mater hwn ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth