Cost of Living Support Icon

Datblygiad newydd yn Eagleswell Road, Llanilltud Fawr

Mae'r Cyngor a Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn y gwaith o ddatblygu 90 uned o lety dros dro ar safle hen Ysgol Gynradd Eagleswell yn Llanilltud Fawr. Bydd yr unedau yn darparu tai tymor byr o ansawdd uchel ar gyfer y rhai mewn angen, megis ffoaduriaid o'r rhyfel yn yr Wcrain. 

 

Dechreuodd y gwaith ar y safle yn 2023. Mae'r safle (sydd bellach yn cael ei adnabod fel rhifau 1 i 90 Heol Croeso, Llanilltud Fawr, CF61 1AL) wedi cael trawsnewidiad sylweddol ers hynny. Mae bron pob un o'r cartrefi modiwlaidd bellach wedi cael eu dosbarthu a'u lleoli ar y safle.

 

Mae rhai eisoes wedi'u cwblhau'n llawn ac rydym yn rhagweld y bydd pob un o'r 90 uned yn barod i deuluoedd symud i mewn erbyn diwedd Haf 2024.

 

Mae gwaith ar y gweill hefyd ar agweddau eraill ar y safle fel y ffordd fewnol. Dechreuodd y gwaith ar y safle drwy ddefnyddio Hawliau Datblygu a Ganiateir, fodd bynnag, mae cais cynllunio ar gyfer datblygiad Heol Croeso wedi cael ei gyflwyno ers hynny gan dîm Tai'r Cyngor. Bydd hyn bellach yn cael ei ystyried gan Bwyllgor Cynllunio'r Cyngor.Wrth benderfynu ar y cais bydd y Pwyllgor yn ystyried yr holl ystyriaethau cynllunio materol.

 

Byddai'r rhain yn cynnwys effaith weledol y datblygiad, ei effaith ar eiddo cyfagos, parcio a diogelwch priffyrdd, ecoleg a darpariaeth seilwaith gwyrdd.

 

Bydd yr adroddiad cynllunio hefyd yn ystyried yr angen am dai lleol.Oherwydd sensitifrwydd materion sy'n gysylltiedig â'r datblygiad ni ellir ystyried na phenderfynu ar y cais hwn gan y pwyllgor cynllunio yn y cyfnod cyn yr etholiad cyffredinol (yn ystod yr amser a elwir yn gyfnod cyn-etholiad).

 

 

Erbyn hyn mae'n debygol o gael ei ystyried ym mis Gorffennaf 2024.Ni fydd unrhyw deuluoedd yn symud i'r cartrefi dros dro nes bod penderfyniad wedi'i wneud, ac yna dim ond os rhoddir cymeradwyaeth gynllunio.Gan ei bod yn aneglur pa mor hir y bydd y rhyfel yn yr Wcrain yn para, nid yw'n bosibl dweud yn sicr pa mor hir y bydd angen yr unedau llety.

 

Unwaith y bydd y gwrthdaro wedi dod i ben, nid yw'r amser y gallai gymryd i'r wlad sefydlogi a gwladolion gael eu hail-dalu yn hysbys chwaith.Nid strwythurau parhaol yw'r cartrefi modiwlaidd a bwriedir eu symud i leoliadau eraill yn y Fro yn y dyfodol.

 

Yn union ble fydd yn dibynnu ar angen lleol ar y pryd ac argaeledd tir priodol.Mae'r Cyngor yn gweld lefelau digynsail o angen tai eithafol ac mae wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y ceisiadau digartref yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Bydd yr unedau hyn yn un o'r ffyrdd yr ydym yn cefnogi teuluoedd digartref.

 

Mae mwy na 200 o deuluoedd mewn llety dros dro ar hyn o bryd gydag ar gyfartaledd pedwar achos newydd yn symud i lety dros dro bob wythnos.Ar gyfartaledd gall aelwydydd sengl aros am hyd at 18 mis cyn symud i dai parhaol a theuluoedd am hyd at 3 mis.

 

Mae hyn wedi arwain at fod angen i'r Cyngor osod teuluoedd mewn gwestai a llety gwely a brecwst am y tro cyntaf ers dros ddegawd.Mae safle Eagleswell yn cael ei ddyrannu ar gyfer datblygu tai yng nghynllun datblygu lleol presennol y Fro.

 

Fodd bynnag, bu trafodaeth hefyd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ynglŷn â defnyddio peth neu'r cyfan o'r safle ar gyfer canolfan iechyd newydd ar gyfer Llanilltud Fawr. Bydd y trafodaethau hyn yn parhau, a bydd unrhyw ddatblygiad parhaol o'r safle yn destun ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Dyluniadau ar gyfer y datblygiad newydd

Mae'r unedau sy'n cael eu darparu yn cael eu hadeiladu i safonau dylunio llym sy'n rhagori ar lefelau traddodiadol o ran ansawdd. Byddant yn rhan o ddatblygiad deniadol.

 

Gallwch weld y delweddau dylunio a chynllun arfaethedig o’r safle isod. Mae copïau caled o'r delweddau hyn hefyd ar gael i'w gweld yn swyddfeydd Cyngor Tref Llanilltud Fawr.

 

Dyluniadau arfaethedig

 

Cynllun arfaethedig y safle

 

 

 

Cwestiynau Cyffredin

 

  • Pam mae'r Cyngor yn ailgartrefu gwladolion Wcreinaidd?

    Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan bod Cymru'n 'Genedl Noddfa', gan bwysleisio ei hawydd i helpu i wella bywydau ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

     

    Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i'r nod hwnnw ac mae ganddo ymrwymiad statudol yn ogystal â moesol, fel sy’n wir am holl Awdurdodau Lleol Cymru, i ddarparu cymorth dyngarol a llety i'r rhai sy'n ffoi rhag y gwrthdaro yn Wcráin.

     

    Mae'r Cyngor yn falch ei fod, ers dechrau'r rhyfel, wedi gwneud ymdrech sylweddol i helpu'r rhai mewn angen. Mae nifer mawr wedi cael llety tymor byr mewn Canolfannau Croeso a gwestai, ac mae cannoedd o drigolion y Fro wedi dangos caredigrwydd aruthrol trwy agor eu cartrefi i faciwîs Wcreinaidd.

     

    Gyda'r rhyfel yn Wcráin yn debygol o barhau am beth amser, mae angen llety mwy addas ar y teuluoedd hyn erbyn hyn.  Dyna fydd y cartrefi dros dro yn Llanilltud Fawr yn ei ddarparu.

  • Pa fath o ddatblygiad yw hwn?

    Bydd y safle hwn yn cynnwys 90 uned o lety modiwlar dros dro i'r rhai a fyddai fel arall yn ddigartref, a bydd yn debyg i ystâd nodweddiadol o dai preswyl.

     

    Mae'r unedau wedi eu dylunio ar gyfer teuluoedd.  Bydd cymysgedd o gartrefi un, dwy a phedair ystafell wely.  

     

    Bydd y datblygiad dros dro ar hen safle Eagleswell ond yn cael ei ddefnyddio i ddarparu cartrefi i deuluoedd Wcrainaidd sydd wedi ffoi o'r rhyfel yn eu mamwlad.  Bydd yn cynnig cartrefi i'r rhai sydd wedi bod yn byw gyda thrigolion y Fro ers 2022. Os bydd llefydd yn parhau yna bydd unedau yn cael eu cynnig i'r teuluoedd hynny sy’n byw yng Nghanolfannau Croeso Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

     

    Nid yw'r unedau hyn yn adeileddau parhaol, felly gellir eu symud i leoliad arall yn y dyfodol. Bydd y datblygiad ar Eagleswell Road yn cael ei ddylunio'n ofalus a'i gyflwyno'n dda.

  • Pam cafodd hen safle Ysgol Gynradd Eagleswell Road ei ddewis?

    Oherwydd ei faint, hen safle Ysgol Eagleswell yw'r unig leoliad sy'n eiddo i Adran Tai'r Cyngor sy'n briodol at y diben hwn. Dyma'r unig safle y gellid ei ddatblygu'n gyflym yn unol â gofynion ariannu ac amserlenni Llywodraeth Cymru ac roedd yn wag.

     

    Defnyddiwyd Hawliau Datblygiad a Ganiateir, sy'n caniatáu datblygu heb angen am ganiatâd cynllunio, i ddechrau'r prosiect hwn. Ystyriwyd bod hynny'n briodol oherwydd yr angen brys i ddarparu cymorth sylweddol ac ystyrlon i'r rhai sy'n dianc o'r rhyfel, rhywbeth y mae'n ofynnol i bob cyngor yng Nghymru ei wneud. 

  • A wnaeth y Cyngor ystyried unrhyw safleoedd eraill?

    Ystyriwyd amrywiaeth o safleoedd eraill, gan gynnwys y rhai a oedd yn eiddo i adrannau eraill y Cyngor ac unigolion preifat, ond Eagleswell Road oedd y mwyaf addas.

     

    Mae'r safle yn eiddo i'r Adran Tai, sef y gwasanaeth sy'n gyfrifol am adsefydlu brys. Mae hefyd o faint digonol i fynd i'r afael yn sylweddol ag anghenion llety'r rhai sy'n ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin.

     

    Mae Eagleswell Road mewn ardal drefol ac yn agos at wasanaethau cyhoeddus a thrafnidiaeth. Mae gan y safle eisoes gyfleusterau fel cyflenwad dŵr a thrydan a system ddraenio, sy'n golygu y gellir ei ddatblygu'n gyflym.

  • Pa mor hir bydd hyn yn aros fel llety dros dro?

    Gan nad yw hi'n glir pa mor hir y bydd y rhyfel yn Wcráin yn para, nid oes modd dweud yn bendant pa mor hir y bydd angen yr unedau llety. Nid yw'n hysbys chwaith pa mor hir y bydd yn cymryd ar ôl i’r gwrthdaro ddod i ben i'r wlad sefydlogi ac i wladolion gael mynd adref.

     

     

    Gan y bydd y defnydd o'r safle yn mynd y tu hwnt i'r cyfnod o 12 mis a ganiateir o dan yr Hawliau Datblygiad a Ganiateir a ddefnyddiwyd i ddechrau'r gwaith adeiladu, rydym wedi dechrau'r broses i gyflwyno cais cynllunio manwl i ymestyn y defnydd o’r safle ar gyfer llety dros dro.

  • Wnaethoch chi ystyried yr effaith ar wasanaethau lleol?

    Mae'r safle hwn yn cael ei ddyrannu ar gyfer tai preswyl o dan Gynllun Datblygu Lleol y Cyngor. Wrth ei asesu at y diben hwn, ystyriwyd tystiolaeth ynglŷn â chynaliadwyedd gwasanaethau lleol. Yn sgil hyn, mae'r safle wedi cael ei ystyried yn briodol at ddibenion preswyl.

     

    Mae nifer o'r plant fydd yn symud i'r safle eisoes yn mynychu'r ysgol ym Mro Morgannwg.  Mae'n debyg y bydd llawer yn dewis aros yn eu hysgol bresennol.  Mae xxx o lefydd ysgol ar gael ar hyn o bryd yn ardal Llanilltud sy'n debygol o fod yn fwy na digon i'r teuluoedd hynny sy'n symud i'r Fro. 

     

    Cydnabyddir bod pryderon yn Llanilltud Fawr am lefel y gwasanaethau lleol, yn enwedig cyfleusterau iechyd, ac yn hyn o beth bydd sgyrsiau pellach ar reoli effaith y datblygiad yn parhau dros yr wythnosau nesaf pan fydd manylion yr union ofynion ar gyfer addysg a darpariaeth arall yn dod yn amlwg.

  • A fydd cymorth ar gael i'r meddianwyr?
    Mae gan y Cyngor dîm penodol o Weithwyr Cymorth ac Arbenigwyr Rheoli Tenantiaeth a fydd yn gweithio gyda thrigolion Wcreinaidd i'w helpu i gael mynediad i wasanaethau, cymorth a chyfleoedd gwaith.
  • Sut bydd y cynllun yn cael ei ariannu?

    Bydd y cynllun yn cael ei ariannu trwy Gynllun Busnes Tai y Cyngor a chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru.
  • Faint o amser bydd hi'n ei gymryd i gwblhau gwaith ar y safle?
    Rydym yn rhagweld y bydd pob un o'r 90 uned yn barod i deuluoedd symud i mewn erbyn diwedd Haf 2024.
  • Beth fydd yn digwydd i’r safle yn y dyfodol?

    Pan na fydd angen y llety brys mwyach bydd yr unedau dros dro yn cael eu symud a bydd y safle ar gael i'w ddatblygu.

     

    Mae'r safle wedi’i ddyrannu ar gyfer datblygu tai yn y Cynllun Datblygu Lleol presennol ac mae unrhyw ddefnydd yn y dyfodol yn debygol o gynnwys datblygiad preswyl. 

     

    Cafwyd trafodaeth hefyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ynglŷn â'r defnydd o ran neu'r cyfan o'r safle ar gyfer canolfan iechyd newydd ar gyfer Llanilltud Fawr.  Bydd y trafodaethau hyn yn parhau a bydd unrhyw ddatblygiad parhaol o'r safle'n destun ymgynghoriad cyhoeddus.