Dechrau Meithrin
Gall plant ddechrau mynd i’r ysgol feithrin y tymor ar ôl eu pen-blwydd yn dair oed, fel arfer am bum bore neu bum prynhawn yr wythnos.
Gallwch gofrestru eich diddordeb drwy lenwi ffurflen ar-lein ein hadran Derbyn i’r Ysgol pan fydd eich plentyn bron yn ddwyflwydd oed. Bydd yr adran yn ysgrifennu atoch i’ch hysbysu pryd dylech chi wneud cais:
Cofrestru diddordeb mewn lle meithrin
Mae ysgolion a gynorthwyir gan yr Eglwys yng Nghymru ac ysgolion Catholig yn gweinyddu eu mynediad eu hunain i’r ysgol feithrin, felly bydd angen i chi gysylltu â’r ysgol yn uniongyrchol i wneud cais yn yr achos hwn.
Chwilio Ysgolion yn y Fro
Am wybodaeth bellach ac i weld rhestr o ysgolion meithrin, ewch i adran Addysg Oed Meithrin ar y wefan neu gysylltu ag adran Derbyn i’r Ysgol yn uniongyrchol:
Addysg oed meithrin
Mae'r rhan fwyaf o rieni sy'n gweithio yn gymwys i hawlio cymorth gyda chostau gofal plant drwy Gynnig Gofal Plant Cymru o'r tymor ar ôl i'w plentyn droi'n 3 oed. Dan y cyllid hwn gallech hawlio 30 awr o addysg gynnar a gofal plant yng Nghymru yr wythnos, am hyd at 48 wythnos o'r flwyddyn.
Y Cynnig Gofal Plant ym Mro Morgannwg