Cost of Living Support Icon
School children in corridor

Derbyn i Ysgol Uwchradd

Gwybodaeth a chanllawiau ar wneud cais am le mewn ysgol uwchradd ym Mro Morgannwg

 

Os yw’ch plentyn yn mynychu Blwyddyn 6 Ysgol Gynradd neu Iau yn y Fro a’i fod am symud i ysgol Uwchradd ym mis Medi, cewch lythyr gan yr awdurdod derbyn perthnasol yn manylu’r broses.

 

Bydd ceisiadau am le mewn ysgol uwchradd yn llwyddiannus fel arfer, os nad yw niferoedd derbyn yr ysgol yn rhy uchel. Yn yr achos hwn, bydd lleoedd yn cael eu rhoddi drwy ddefnyddio’r meini prawf derbyn 

 

Mae'n ofyniad cyfreithiol i bob rhiant fynegi hoffter o'r ysgol y maent yn dymuno i'w plentyn ei mynychu / trosglwyddo iddi. Gallwch fynegi tri dewis ac argymhellir mai un o'r rhain ddylai fod eich ysgol ddalgylch.

 

Mae'n ofynnol i chi ddefnyddio'r holl ddewisiadau sydd ar gael i chi er mwyn sicrhau lle ysgol uwchradd i'ch plentyn ar gyfer Medi 2024 gan fod lleoedd yn gyfyngedig iawn y llynedd. Ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg, sylwer nad oes angen i chi gyflwyno tri dewis ysgol. Os dymunwch i'ch plentyn fynychu Ysgol Uwchradd Cyfrwng Cymraeg, dewiswch yr unig ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg, Ysgol Bro Morgannwg fel yr ysgol o'ch dewis.

 

Dyddiadau Allweddol

Symud i’r Ysgol Uwchradd ym mis Medi 2024

Dyddiad Agor: 22 Medi 2023

Dyddiad Cau: 24 Tachwedd 2023

Dyddiad y cynnig: 01 Mawrth 2024

 

Llythyr Cais Uwchradd 2024

 

Canllaw i Rieni ar Dderbyniadau Ysgol 2024/25

 

Mewngofnod

 

Gallwch wneud cais am le mewn ysgol uwchradd ar-lein pan fydd mynediad ar agor.

 

Defnyddiwch y system ceisiadau ysgol ar-lein i:

  • Greu cyfrif, os nad oes un gennych eisoes
  • Gwneud cais newydd
  • Parhau gyda chais rydych wedi'i gadw
  • Gweld eich cais
  • Gweld eich cynigion am le mewn ysgol 

Gwnewch gais ar amser.  Gallwch weld dyddiadau pwysig un ystod y broses ymgeisio ar gyfer lle mewn ysgol isod. Os byddwch yn methu'r dyddiad cau, ni allwch wneud cais hwyr ar-lein.  Bydd angen i chi gwblhau ffurflen gais hwyr ar bapur. Gallai colli’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais effeithio’n sylweddol ar eich cyfle i gael y lle rydych yn ei ddymuno.  

 

Ni chaiff ceisiadau hwyr eu hystyried yn y rownd gyntaf o ddyraniadau ar y dyddiad cynnig a gyhoeddir. Bydd llawer o ysgolion yn cael eu tanysgrifio'n llwyr ar ôl y rownd gyntaf, felly mae'n bwysig cyflwyno'ch cais ar amser i gael y cyfle gorau i sicrhau lle yn eich ysgol ddewisol. Yn dilyn y rownd gyntaf o ddyraniadau, caiff pob cais hwyr ei ystyried ynghyd ag unrhyw blant sydd ar y rhestr aros. 

  

Trafnidiaeth Ysgol

Mae gan Awdurdodau Addysg Lleol ddyletswydd statudol i ddarparu cludiant ysgol am ddim i ddisgyblion o oedran ysgol statudol sy'n byw y tu hwnt i bellter cerdded i'r ysgol addas agosaf.

Os yw eich plentyn yn gymwys i gael cludiant am ddim i'r ysgol, fel arfer rhoddir caniatâd i deithio ar gerbyd contract os oes un yn gwasanaethu eich ardal. Mewn achosion eraill bydd tocyn bws yn cael ei ddarparu i deithio ar y rhwydwaith gwasanaeth.

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn darparu cludiant ysgol am ddim ar gyfer:

• Disgyblion oedran cynradd sy'n byw dwy filltir neu ymhellach o'u hysgol dalgylch ddynodedig agosaf o'u math
• Disgyblion oedran uwchradd sy'n byw tair milltir neu ymhellach o'u hysgol ddalgylch ddynodedig agosaf o'u math
• Mesurir pellteroedd yn ôl y llwybr cerdded byrraf sydd ar gael a bydd angen i ddisgyblion fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol os oes angen

 

Llinell Amser y Broses Ymgeisio – Dyddiadau allweddol ar gyfer Derbyn i Ysgolion Uwchradd

 

Dyddiad

Y cam yn y broses ymgeisio

22 Medi 2023

Y broses o wneud cais i ddechrau ym Mlwyddyn 7 ym mis Medi 2024 yn cychwyn.

 

24 Tachwedd 2023

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau. Bydd angen cyflwyno unrhyw geisiadau a gwblheir ar ôl y dyddiad hwn ar bapur neu drwy e-bost a chânt eu hystyried fel ceisiadau hwyr

 

Tachwedd 2023 – Mawrth 2024

Caiff pob cais ei brosesu a'i asesu yn erbyn meini prawf gordanysgrifio derbyn i ysgolion uwchradd. Byddwn yn gwirio eich manylion cyfeiriad ac unrhyw wybodaeth ategol a roddir i ni.

 

1 Mawrth 2024

Dyddiad Cynnig. Byddwn yn anfon hysbysiad trwy e-bost neu lythyr os ydych wedi gofyn iddo gael ei anfon drwy'r post.

 

Mawrth 2024

Llunio rhestrau aros

 

15 Mawrth 2024

Y dyddiad cau ar gyfer ymateb rhieni i'r lle a gynigir. Sicrhewch eich bod yn derbyn neu'n gwrthod y lleoliad a gynigir i'ch plentyn.

 

Ebrill 2024

Mae ceisiadau (hwyr a cheisiadau ail ddewis) yr ail rownd yn cael eu prosesu a’u hasesu.

 

Ebrill/Mai 2024

Mae canlyniadau’r ail rownd yn cael eu hanfon allan yn y post. Bydd pob rownd arall yn cael ei phrosesu’n fisol o nawr ymlaen. 

 

Medi 2024

Plant yn dechrau yn yr ysgol uwchradd.


St Richard Gwyn i gymryd rhan mewn Cynllun Peilot Trefniadau Derbyn Cydgysylltiedig

Yn dilyn cyflwyno cynllun peilot ar gyfer trefniadau derbyn cydgysylltiedig ar gyfer trosglwyddo o addysg gynradd i addysg uwchradd Medi 2021, mae corff llywodraethu Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn wedi cytuno i gymryd rhan yn y cynllun am bedwaredd flwyddyn ar gyfer proses ymgeisi 2024.

Yn ogystal ag Ysgolion Cymunedol Bro Morgannwg gallwch nawr wneud cais am le yn Ysgol Uwchradd St Richard Gwyn R.C drwy ddefnyddio'r gwasanaeth ymgeisio ar-lein fel y nodir uchod. Sicrhewch eich bod wedi darllen a deall yn glir y meini prawf derbyn ar gyfer yr ysgol yr ydych yn gwneud cais amdani.

 

Ysgol Stanwell

Yn Stanwell, yr Awdurdod Derbyn priodol yw'r Corff Llywodraethu. Dylai rhieni gysylltu â'r ysgol yn uniongyrchol am fanylion a ffurflen gais 

 

 

 

Ardaloedd dalgylch ysgolion

Gwirio dalgylch eich ysgol drwy ddefnyddio eich cod post:

 

 

Yn unol â deddfwriaeth bresennol, mae angen i rieni nodi dewis ysgol i’w plentyn ei mynychu, hyd oes os mai ysgol ei ddalgylch yw hi. Felly ni fydd gan ddisgyblion sy’n byw mewn dalgylch wedi'i ddiffinio hawl awtomatig i fynychu’r ysgol honno. Rhaid gwneud cais ffurfiol.

 

Os na fydd rhieni/gofalwyr yn gwneud cais, mae’n bosibl na fydd eu plentyn yn cael lle yn eu dewis ysgol/ysgol leol, os oes mwy o alw na’r lleoedd sydd ar gael. Rhaid nodi y bydd plant dalgylch â blaenoriaeth bob amser ar geisiadau o’r tu allan i’r dalgylch. 

  

Nodwch: Pan fydd rhieni’n cyflwyno gwybodaeth gamarweiniol yn fwriadol er mwyn i’w plant gael eu hystyried ar gyfer ysgol a fyddai allan o’u cyrraedd fel arall, mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i dynnu cynnig yn ôl. Gellid erlyn y rhieni hefyd o dan Adran 5(b) o Ddeddf Anudon 1911.