Derbyn i’r Ysgol Feithrin
Mae plant yn gymwys i dderbyn lle rhan amser mewn meithrinfa, am bum bore neu bum prynhawn fel rheol, o’r tymor ar ôl eu trydydd pen-blwydd.
Meithrinfa 2022-23
Ymgeisiwch Nawr
Meithrinfa 2022/23 Llythyr Cais
- Dyddiad Agor: 24 Ionawr 2022
- Dyddiad Cau: 25 Mawrth 2022
- Dyddiad Cynnig: Bydd dyddiad cynnig eich plentyn yn dibynnu ar y term y mae'n dechrau meithrin ynddo, gweler isod:
Cewch wybod am y penderfyniad fel a ganlyn, Os cafodd eich plentyn ei eni rhwng:
1 Medi 2018 - 31 Awst 2019 - Byddant yn dechrau yn y feithrinfa ym mis Medi 2022. Bydd hysbysiad yn cael ei roi ar 20 Mai 2022
1 Medi 2019 - 31 Rhagfyr 2019 - Byddant yn dechrau yn y feithrinfa ym mis Ionawr 2023. Bydd hysbysiad yn cael ei roi ar 25 Hydref 2022
1 Ionawr 2020 - 31 Mawrth 2020 - Byddant yn dechrau yn y feithrinfa ar ôl Pasg 2023. Bydd hysbysiad yn cael ei roi ar 17 Ionawr 2023
Cofiwch fod y dyddiad cau bellach wedi mynd heibio, os hoffech gyflwyno cais hwyr, llenwch a dychwelwch y ffurflen isod i admissions@valeofglamorgan.gov.uk cyn gynted â phosibl.
Ffurflen Gais Meithrinfa 2022-23
Gwnewch gais ar amser. Gallwch weld dyddiadau pwysig un ystod y broses ymgeisio ar gyfer lle mewn ysgol isod. Os byddwch yn methu'r dyddiad cau, ni allwch wneud cais hwyr ar-lein. Bydd angen i chi gwblhau ffurflen gais hwyr ar bapur. Gallai colli’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais effeithio’n sylweddol ar eich cyfle i gael y lle rydych yn ei ddymuno.
Ni chaiff ceisiadau hwyr eu hystyried yn y rownd gyntaf o ddyraniadau ar y dyddiad cynnig a gyhoeddir. Bydd llawer o ysgolion yn cael eu tanysgrifio'n llwyr ar ôl y rownd gyntaf, felly mae'n bwysig cyflwyno'ch cais ar amser i gael y cyfle gorau i sicrhau lle yn eich ysgol ddewisol. Yn dilyn y rownd gyntaf o ddyraniadau, caiff pob cais hwyr ei ystyried ynghyd ag unrhyw blant sydd ar y rhestr aros.
Dosbarth Meithrin 2021-22
Cofiwch fod y dyddiad cau bellach wedi mynd heibio, os hoffech gyflwyno cais hwyr, llenwch a dychwelwch y ffurflen isod i admissions@valeofglamorgan.gov.uk cyn gynted â phosibl.
Ffurflen Gais Meithrinfa Hwyr 2021-22
- Dyddiad Agor: 25 Ionawr 2021
- Dyddiad Cau: 26 Mawrth 2021
- Dyddiad Cynnig: Bydd dyddiad cynnig eich plentyn yn dibynnu ar y tymor y byddant yn dechrau yn y Feithrin.
YSGOL GYNRADD LLANCARFAN
Bydd uned feithrin yn cael ei sefydlu yn Ysgol Gynradd Llancarfan ar gyfer Medi 2021 gyda 48 o leoedd ar gael i rieni plant oedran meithrin sy'n dymuno gwneud cais am le. Bydd Ysgol Gynradd Llancarfan yn symud i adeilad newydd â 210 o leoedd yn y Rhws ar ddatblygiad Golwg y Môr yn ystod blwyddyn academaidd 2021/22, yn amodol ar gwblhau’r adeilad newydd, a ddylai ddigwydd ym mis Rhagfyr 2021. Yn y cyfamser, bydd darpariaeth feithrin ar gael yn adeilad presennol yr ysgol lle byddai plant yn trosglwyddo'n awtomatig i adeilad newydd yr ysgol yn y Rhws ar ôl i’r gwaith adeiladu gael ei gwblhau. Mae darpariaeth feithrin yn cael ei sefydlu i sicrhau dilyniant yn nysgu plant o 3 oed yn Ysgol Gynradd Llancarfan.
Y Cynnig Gofal Plant ym Mro Morgannwg
Y Cynnig Gofal Plant
Mae’r Cynnig Gofal Plant yn rhoi cyfle i rieni cymwys i blant 3 a 4 oed ac sy’n gweithio gael cyllid gofal plant ar gyfer hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Mae'r cyllid gofal plant yn dechrau o'r tymor ar ôl pen-blwydd y plentyn yn dair oed ac yn gorffen ychydig cyn i'r plentyn ddechrau addysg llawn amser.
Yn ystod y tymor, gallech gael arian ar gyfer hyd at 17.5 awr yr wythnos o ofal plant gan ddarpariaeth gofal plant cofrestredig. Yn ystod y tymor, gallech gael arian ar gyfer hyd at 30 awr yr wythnos o ofal plant gan ddarpariaeth gofal plant cofrestredig yn ystod tair wythnos benodol y tymor.
Mae meini prawf isafswm ac uchafswm enillion yn berthnasol.
I gael rhagor o wybodaeth, dyddiadau ymgeisio a'r broses ymgeisio am Gynnig Gofal Plant, ewch i: Cynnig Gofal Plant
Cynnig Gofal Plant
Y Cynnig Gofal Plant
Y Cynnig Gofal Plant a Dechrau Addysg Feithrin
Mae'r fideo hwn yn esbonio'r gwahaniaeth rhwng cyllid y Cynnig Gofal Plant a dechrau addysg feithrin ym Mro Morgannwg:
Cofrestru eich manylion
Cofrestrwch y manylion a byddwn yn eich hysbysu pan ddaw'r amser i ymgeisio
Dalgylchoedd
Yn achos gor-danysgrifiad, pennir llefydd yn unol â meini prawf mynediad y Cyngor, a rhoddir blaenoriaeth i blant y dalgylcyh. Ceir manylion llawn am y meini prawf yn ein Canllaw i Rieniar drefniadau derbyn i Ysgolion y Fro 2019/20.
I weld dalgylch eich ysgol feithrin, rhowch eich cod post yn y blwch isod:
Er mwyn helpu’r holl rieni/gofalwyr, mae ffurflenni derbyn i ysgolion ar gael yn yr ieithoedd canlynol: Arabeg, Bengali, Tsieineeg, Lithwaneg, Malayalam, Pwyleg, Rwsieg, Tagalog, Thai.