Cost of Living Support Icon

Canolfan Iaith Gymraeg

 

Welsh Language Centre LOGO

A yw eich plentyn yn 5-11 oed? Ydych chi wedi bod yn ystyried addysg Gymraeg? Mae cyfle cyffrous bellach ar gael drwy raglen 12 wythnos newydd yn ein Canolfan Gymraeg.

 

Os yw eich plentyn yn newydd i'r Gymraeg, bydd ein Canolfan yn caniatáu i ddysgwyr oedran cynradd gael eu trochi yn yr iaith, gan ddatblygu lefel o ruglder a fydd yn eu galluogi i lwyddo yn eu taith addysg cyfrwng Cymraeg mewn ysgol Gymraeg ym Mro Morgannwg. 

 

Rydyn ni’n:

  • Datblygu sgiliau llythrennedd y dysgwyr ar draws y cwricwlwm, gyda ffocws penodol ar ddatblygu sgiliau gwrando a siarad

  • Darparu amgylchedd dysgu cyfoethog ac adnoddau dysgu pwrpasol er mwyn cefnogi’r dysgwyr ar hyd eu taith

  • Hyrwyddo ymwybyddiaeth pob dysgwr o ddiwylliant Cymreig a chyfoethogi profiadau teuluoedd o’r iaith a’r diwylliant

 

 Os hoffech ddysgu mwy am y Ganolfan, darllenwch y Llawlyfr Gwybodaeth i Rieni a Gwarchodwyr.

 

 

Mynychu’r Ganolfan Iaith

Bydd dysgwyr yn treulio cyfnod o 12 wythnos (ddim yn cynnwys gwyliau ysgol)  yn y Ganolfan Iaith, o ddydd Llun i ddydd Iau. Bydd y plant yn mynychu’r ysgol ble mae wedi’u cofrestru pob dydd Gwener yn ystod y cyfnod hwn. Bwriad hynny yw gofalu am les y plant wrth sicrhau eu bod yn derbyn cyfleoedd priodol i ddod i adnabod eu cyd-ddysgwyr ac athrawon. 


Cyrraedd y Ganolfan Iaith

Lleolir y Ganolfan Iaith yn Ysgol Gymraeg Gwaun y Nant, yn Y Barri.

 

Canolfan Iaith Ysgolion Bro Morgannwg,

Ysgol Gymraeg Gwaun y Nant,

Amroth Court, Caldy Close, Y Barri, CF62 9DU

 

Gallwch gludo eich plentyn eich hunain i’r Ganolfan Iaith, neu fanteisio ar wasanaeth tacsi a drefnir gan adran drafnidiaeth y Sir. Gofynnwn yn garedig i rieni/warchodwyr roi gwybod sut maent yn bwriadu i’w plentyn deithio. Cynigiwn ad-dalu eich costau milltiredd petrol, os yn gymwys. 


Amserlen y dydd

Bydd dysgwyr yn y Ganolfan rhwng 9yb a 3yh o ddydd Llun i ddydd Iau.

 

Sesiwn y Bore

  • 9yb - 11.40yb

Mae yna amser egwyl yn ystod sesiwn y bore rhwng 10.15yb a 10.30yb.

 

Amser Cinio

  • 11.40yb - 12.45yh

Gall eich plentyn dderbyn cinio ysgol neu mae croeso i’ch plentyn ddod a phecyn bwyd i’r ysgol.  Rydyn ni hefyd yn annog eich plentyn i ddod a photel dŵr a ffrwyth gydag ef/hi i’r Ganolfan Iaith.

 

Sesiwn y Prynhawn

  • 12.45yh - 3yh

Mae yna amser egwyl yn ystod sesiwn y prynhawn rhwng 1.45yh a 2yh.

 

Cysylltu â ni

Mae croeso i chi gysylltu â ni er mwyn trefnu  ymweliad neu ar gyfer cynnal sgwrs dros y ffôn.