Efallai y bydd angen mwy o fuddsoddiad ar rai ysgolion nag eraill. Mae pob ysgol sy'n perthyn i'r rhaglen seilwaith addysg ysgol fel arfer yn flaenoriaeth ar gyfer y naill neu'r llall o'r categorïau isod.
Trawsnewid amgylcheddau dysgu a phrofiad dysgwyr
Cefnogi pob dysgwr i fod yn ddinesydd iach, brwdfrydig, mentrus ac egwyddorol, sy’n barod i chwarae rhan gyflawn mewn bywyd a gwaith, mewn safleoedd dysgu sy’n ddiogel, yn gynhwysol ac yn rhydd rhag gwahaniaethu a bwlio.
Gwella profiad a lles dysgwyr yn yr amgylchedd adeiledig, gan ategu’r gwaith o gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru.
Darparu seilwaith digidol o'r radd flaenaf i wella amgylcheddau dysgu a dulliau addysgu ar gyfer myfyrwyr o bob oedran ac ar gyfer y gymuned ehangach.
Cefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol a’r rhai o gefndiroedd difreintiedig.
Ateb y galw am leoedd mewn ysgolion
Darparu seilwaith addysgol effeithlon ac effeithiol a fydd yn ateb y galw presennol am leoedd a'r galw i’r dyfodol.
Cefnogi'n weithredol y gwaith o gyflawni Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yr awdurdod.
Darparu'r nifer iawn o leoedd ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg a Saesneg.
Mynd i'r afael â materion digonolrwydd lle bo'n berthnasol.
Gwella cyflwr ac addasrwydd yr ystad addysg
Lleihau’r ôl-groniad o ran costau cynnal a chadw ar gyfer yr ysgolion a'r colegau a ddewiswyd ar gyfer y rhaglen, gan ystyried yr ystad gyffredinol.
Cael gwared ag adeiladau cyflwr ac addasrwydd categori D o’r ystad.
Lleihau nifer yr adeiladau cyflwr ac addasrwydd categori C a gwella cyflwr adeiladau i gategori A neu B.
Datblygu amgylcheddau dysgu cynaliadwy
Gweithio tuag at garbon sero-net oes gyfan drwy'r rhaglenni a fandadwyd felly a'r targedau carbon corfforedig yn unol ag Ymrwymiadau Lleihau Carbon Llywodraeth Cymru.
Darparu amgylcheddau dysgu cynaliadwy sy'n buddsoddi mewn bioamrywiaeth i wella'r ardaloedd o'u hamgylch a chefnogi teithio llesol.
Cefnogi'r gymuned
Ysgolion bro, defnyddio seilwaith ac adnoddau i’r eithaf i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gan gydweithio gydag athrawon, staff, cyrff llywodraethu, dysgwyr, teuluoedd a chymunedau. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau hyblygrwydd ein hasedau fel bod lle a chyfleusterau ar gael y tu allan i oriau ysgol ar gyfer sesiynau dysgu allgyrsiol, sesiynau dysgu i oedolion a sesiynau dysgu i’r gymuned.
Sicrhau'r buddion cymunedol a’r gwerth cymdeithasol mwyaf posibl drwy'r gadwyn gyflenwi.
Rhoi mwy o gyfleoedd i oedolion ddysgu, gan alluogi aelodau o'r gymuned i ddysgu sgiliau newydd a datblygu eu hyder.
Cefnogi partneriaethau amlasiantaethol a chynnig dull integredig o gefnogi dysgwyr a'r gymuned, gan gynnwys cydleoli gwasanaethau.