Buddion cymunedol a ddarparwyd hyd yn hyn ym Mand B
Penodwyd contractwyr ar gyfer cynllun Cymuned Ddysgu Uwchradd Y Barri (CDdUB) ac ar gyfer cynllun Ysgol Gynradd Gorllewin y Fro (YGGF) yn 2020, ac mae buddion cymunedol yn cael eu darparu ochr yn ochr â gwaith adeiladu. Mae'r contractwyr a benodwyd ar gyfer Darpariaeth Gynradd y Bont-faen a Derw Newydd, a elwid gynt yn gynlluniau Canolfan Dysgu a Lles (CDLl) hefyd wedi bod yn cyfrannu at fuddion cymunedol ehangach. Am fwy o wybodaeth am y cynlluniau hyn, ewch i'r brif dudalen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.
Rhwng mis Ionawr 2019 a mis Medi 2021, mae’r rhaglen wedi darparu:
-
Dros 13,226 o wythnosau y pen o Swyddi i Newydd-Ddyfodiaid
-
Dros 7,677 o wythnosau y pen o Hyfforddiant i Newydd-Ddyfodiaid
-
Dros 12,082 awr o ddigwyddiadau STEM mewn ysgolion
-
35 o ddigwyddiadau ymgysylltu â’r gadwyn gyflenwi
-
82% o wariant ar adeiladu yng Nghymru (ar gyfartaledd)
-
85% o isgontractwyr wedi eu lleoli yng Nghymru
-
50% o’r gweithlu yn dod o’r cod post lleol