Tanysgrifiadau blynyddol
Mae tanysgrifiadau casglu gwastraff gardd blynyddol bellach ar agor ar gyfer 2025/26.
Os byddwch yn cofrestru ar gyfer tanysgrifiad blynyddol, byddwn yn casglu eich gwastraff gardd bob pythefnos rhwng 03 Mawrth 2025 a 28 Tachwedd 2025.
Byddwch yn gallu archebu casgliadau gwastraff gardd y gaeaf yn ôl eu hangen arnoch rhwng 01 Rhagfyr 2025 a 27 Chwefror 2026. Ni fydd casgliadau ar gael am bythefnos dros gyfnod y Nadolig.
Bydd modd i drigolion sy'n cofrestru cyn 10 Mawrth 2025 danysgrifio i'n cynnig adar cynnar o £36 y flwyddyn, yr un pris ag yn 2024.
Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn adolygu ei holl daliadau ar gyfer 2025/26 ac efallai y bydd prisiau ar gyfer tanysgrifiadau gwastraff gardd yn cynyddu ar ôl 10 Mawrth 2025.
Cofrestrwch nawr ar gyfer:
- £36 ar gyfer hyd at 8 bag y pythefnos
- £54 am fwy nag 8 bag y pythefnos
Ddim eisiau tanysgrifio am flwyddyn lawn? Bydd gennych yr opsiwn i danysgrifio i wasanaeth hanner blwyddyn o fis Awst.