Cost of Living Support Icon

Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref (CAGC)

Gellir ailgylchu nifer o ddeunyddiau sy’n anaddas ar gyfer y casgliad ochr y ffordd yn un o’n canolfannau ailgylchu.

 

Mae ein Canolfannau Ailgylchu yn unig yn cael eu trwyddedu i dderbyn gwastraff cartref, nid ydynt yn cael eu caniatáu yn gyfreithiol i dderbyn deunydd o fusnesau. Ni fydd unrhyw breswylydd a amheuir o gael gwared ar wastraff masnachol yn cael ei ganiatáu i fynd i mewn i'r safle. 

 

Canolfan Ailgylchu'r Barri

Atlantic Trading Estate, Y Barri, CF63 3RF.

  • 8am - 5.30pm

 

Canolfan Ailgylchu Llandŵ

Stad Ddiwydiannol Llandŵ, Heol Gluepot, CF71 7PB.

  • 10am -4.30pm

 

 

Siop Ailddefnyddio’r Barri

Atlantic Trading Estate, Y Barri, CF63 3RF.

  • 8am - 5.30pm

 

Mae'r Siop Ailddefnyddio yn stocio pob math o eitemau fel dodrefn, beiciau, offer cegin a theganau plant am fymryn o'r pris prynu rhai newydd. Nid oes angen i chi drefnu apwyntiad cyn ymweld ac mae digon o le parcio ar gael ar y safle.

 

Bwcio apwyntiad

 

Mae'r canlynol ar waith:

  • Mynediad i ganolfannau ailgylchu trwy apwyntiad yn unig

  • Cyn dod i’r ganolfan, rhaid i drigolion ddosbarthu eu gwastraff neu ailgylchu yn briodol er mwyn lleihau’r amser ar y safle

  • Rhaid i drigolion ddangos tystiolaeth preswylfa e.e. trwydded yrru neu fil cyfleustodau ac arddangos hyn ar eu ffenestr flaen wrth aros i fynd ar y safle

  • Rhaid i drigolion ddilyn arwyddion diogelwch a’r canllawiau ar y safle

 

Bwcio apwyntiad

  

Sylwer: Ni allwn gynnig cymorth gyda chodi na dosbarthu, felly gwnewch yn siŵr y gallwch drin yr holl wastraff ac ailgylchu a fydd gennych.

 

batriau ceir
batris
Cardfwrdd
carpedi
deunydd pecynnu plastig o’r cartref
disgiau
gwastraff o’r ardd
llyfrau
matresi
metel sgrap
nwyddau trydan mawr
oergelloedd a llyfrau
offer teclynnau bach
olew coginio
Papur
plastig anystwyth
poteli a jariau gwydr cymysg

setiau teledu a monitorau

tecstilau a dillad
tiwbiau goleuo

 

Noder: mae Biffa, sy’n rheoli’r safle, wedi gwneud penderfyniad gweithredol i osod y sgip ar gyfer briciau a rwbel mewn man sy’n gofyn codi’r gwastraff yn uchel i’w waredu. Holwch aelod o staff am gymorth os oes gennych lwyth trwm iawn.

 

Mae ein canolfannau ailgylchu yn derbyn teiars, ond dim ond 2 ar y tro.

 

 

Gwneud cais am drwydded

Mae angen trwydded arnoch i ymweld â CAGC mewn cerbydau mwy. Dyrennir trwyddedau gan ddefnyddio eich rhif cofrestru cerbyd a’ch cyfeiriad. Maen nhw wedi’u cyfyngu i un ymweliad y mis ac nid oes modd cael ad-daliad amdanynt.

 

Ccerbydau sydd angen trwydded

Bydd angen trwydded arnoch chi ar gyfer y cerbydau isod:

  • Car a threlar echel sengl o dan 750kg o bwysau yn eu crynswth

  • Faniau ynghlwm wrth gar

  • Faniau panel o dan 3,200kg o bwysau yn eu crynswth (fan gofod byr rhwng yr echelau)

  • Minibysys

  • Wagenni

  • Wagenni a char ynghlwm neu â chab dwbl

 

Cyfyngir nifer y trwyddedi i un y mis i bob ymgeisydd.

 

Pris: £18.50 (Trwydded defnydd unigol)

 

I wneud cais am drwydded, ffoniwch C1V:

  • 01446 700111

 

 

Noder: Ni chaiff y cerbydau isod fynediad i’r un o’r canolfannau ailgylchu: lorïau dros 3.5 tunnell, cerbydau echel driphlyg, trelar ecehl ddwbl, cerbydau a lifft gefn (ac eithrio ceir, cerbydau 4X4 a charafanau bach sydd wedi’u haddasu at ddefnydd trigolion ag anabledd), cerbydau sy’n tipio, faniau tal (Luton), faniau gofod hir rhwng yr echelau na faniau top uchel.

 

Bellach, ni chaniateir rhoi gypswm na phlastrfwrdd mewn sgipiau cyffredinol / cynwysyddion gwastraff cymysg yn ein canolfannau mwynderau dinesig. Weithiau, derbynnir cyfaint bach o gypswm fel plastrfwrdd, plastr a chynnyrch arall sy’n deillio o waith yn y cartref ar ystadau diwydiannol Atlantic a Llandŵ os caiff ei wahanu cyn cyrraedd. Dylid holi’r staff ar ôl cyrraedd a gosod y deunydd mewn cynhwysydd penodol ar gyfer cynnyrch gypswm yn unig. Os na fyddwch yn holi’r staff ar y safle ble i roi’r gwastraff gypswm, o bosib bydd gofyn i chi ail-lwytho’ch cerbyd a mynd â’r deunydd i ffwrdd.