Cost of Living Support Icon

Gwasanaeth Tanysgrifio Gwastraff Gardd Newydd – Telerau Ac Amodau

 

Crynodeb o'r telerau ac amodau:

  • Mae prisiau tanysgrifio ar gyfer casgliadau gwastraff gardd blynyddol wedi eu rhestru ar ein tudalen gwastraff gardd

  • Os ydych wedi cofrestru ar gyfer casgliadau gwastraff gardd, bydd eich gwastraff gardd yn cael ei gasglu bob pythefnos rhwng mis Mawrth a mis Tachwedd
  • Os ydych wedi cofrestru ar gyfer casgliadau gwastraff gardd hanner blwyddyn, bydd eich gwastraff gardd yn cael ei gasglu bob pythefnos rhwng mis Awst a mis Tachwedd
  • Os ydych wedi tanysgrifio ar gyfer casgliadau gwastraff gardd blynyddol neu hanner blwyddyn, gallwch archebu casgliadau gwastraff gardd y gaeaf rhwng mis Rhagfyr a mis Chwefror. Mae amseroedd casglu gwastraff gardd y gaeaf yn amodol ar argaeledd
  • Bydd angen i chi gofrestru o leiaf 72 awr (3 diwrnod gwaith) cyn eich casgliad nesaf sydd wedi’i drefnu
  • Gallwch ganslo eich tanysgrifiad o fewn 14 diwrnod o’i brynu a chael ad-daliad llawn
  • Mae’n rhaid rhoi bagiau wrth ymyl eich eiddo erbyn 7am ar y diwrnod y mae’r casgliad wedi’i drefnu, ym magiau gwastraff gardd Bro Morgannwg. Gellir prynu bagiau ychwanegol o’ch llyfrgell leol

  • Gallwch roi gwybod am gasgliad sydd wedi’i golli o'r diwrnod wedyn. Sylwch nad oes modd rhoi gwybod am gasgliadau Gwastraff Gardd sydd wedi’u colli ar yr un diwrnod gan fod ein criwiau weithiau’n gweithio tan ar ôl 5pm i orffen rowndiau. Rhowch wybod am gasgliadau sydd wedi’u colli o fewn 2 ddiwrnod gwaith.

 

Telerau ac Amodau Llawn

Telerau ac Amodau ar gyfer darparu gwasanaeth casglu gwastraff gardd y codir tâl amdano yn unig.

 

Telerau Cyffredinol

  • Mae'r cwsmer yn cytuno i dalu Cyngor Bro Morgannwg ("Y cyngor") i gasglu gwastraff gardd ym mag(iau) gwastraff gardd gwyrdd y cwsmer am gyfnod tanysgrifiad y cwsmer. Mae'r cyngor yn cadw'r hawl i amrywio cost y gwasanaeth yn flynyddol
  • Mae prisiau tanysgrifio ar gyfer casgliadau gwastraff gardd blynyddol wedi eu rhestru ar ein tudalen gwastraff gardd. Mae'r cyfnod casglu yn rhedeg o fis Mawrth i fis Tachwedd ar gyfer tanysgrifiadau blynyddol, ac o fis Awst i fis Tachwedd ar gyfer tanysgrifiadau hanner blwyddyn
  • Bydd cyfnod o 3 diwrnod gwaith rhwng cofrestru a'r casgliad cyntaf
  • Os yw'r cwsmer yn symud tŷ o fewn y cyngor, gall symud ei danysgrifiad i'r eiddo newydd heb unrhyw gost ychwanegol. Dylai'r cwsmer gysylltu â'r cyngor drwy wefan y cyngor neu drwy ffonio 01446 700111 i drefnu i'r drwydded gael ei symud i'r cyfeiriad newydd. Os bydd y cwsmer yn symud allan o ardal y cyngor ni fydd ad-daliadau ar gael
  • Bydd gan y rhai sydd wedi tanysgrifio yr opsiwn i gael gwasanaeth archebu a chasglu am ddim o fis Rhagfyr i fis Chwefror. Mae lleoedd ar y cynllun archebu a chasglu am ddim hwn yn amodol ar argaeledd ac maen nhw wedi'u cyfyngu i danysgrifwyr yn unig
  • Bydd cartrefi sy'n penderfynu peidio ag ymuno â'r gwasanaeth tanysgrifio yn dal â’r opsiwn o fynd â gwastraff gwyrdd i'w Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref leol am ddim
  • Mae'r gwasanaeth i'w ddefnyddio gan gartrefi domestig sengl yn unig. Gall asiantau a mentrau masnachol wneud darpariaeth ar gyfer casglu drwy Wasanaeth Gwastraff Masnachol y Cyngor
  • Efallai na fydd rhai mathau o eiddo yn addas ar gyfer casgliadau, a phan fo mynediad yn anodd ac/neu os oes angen dull casglu gwahanol i'r hyn a nodir uchod, gellid gwrthod tanysgrifiadau
  • Mae’r cyngor yn cadw’r hawl i amrywio’r telerau ac amodau hyn ar unrhyw adeg

Casgliadau a Chynwysyddion

  • Yr unig gynhwysydd y bydd y cyngor yn gwagio gwastraff gardd ohono yw'r bag gwastraff gardd a ddosberthir gan y cyngor
  • Cyfrifoldeb y deiliad tŷ yw prynu bagiau gwastraff gardd gan y Cyngor. Gellir prynu bagiau gwastraff gardd ychwanegol o lyfrgelloedd lleol
  • Ni fydd y cyngor yn gyfrifol am unrhyw fethiant i gyflawni neu oedi wrth gyflawni unrhyw rwymedigaethau o dan y telerau ac amodau hyn sy'n cael ei achosi gan “ddigwyddiad y tu hwnt i reolaeth y cyngor”. Os bydd digwyddiad y tu allan i reolaeth y cyngor yn effeithio ar allu'r cyngor i ddarparu'r gwasanaeth, bydd yn ailddechrau gwasanaeth arferol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r digwyddiad y tu allan i reolaeth y cyngor ddod i ben
  • Os yw'r cwsmer eisoes yn derbyn casgliad â chymorth ar gyfer casgliadau gwastraff domestig eraill, bydd hyn hefyd yn berthnasol i fagiau gwastraff gardd gwyrdd a bydd pwynt casglu'r cwsmer yn aros yn gyson
  • Mae'r cyngor yn cadw'r hawl i newid y diwrnod/wythnos casglu a bydd yn ymdrechu i roi rhybudd digonol i gwsmeriaid y byddai'r newid yn effeithio arnyn nhw

Deunydd Derbyniol

  • Ni ddylid defnyddio bagiau gwastraff gardd ac eithrio ar gyfer toriadau glaswellt, dail, planhigion, chwyn, blodau, brigau, tocio gwrychoedd a changhennau bach, glaswellt, dail, y rhan fwyaf o chwyn, planhigion, blodau, toriadau llwyni, toriadau gwrychoedd, deunydd gwely’r ardd a ddefnyddir gan anifeiliaid nad ydynt yn bwyta cig fel eillion coed.  Dylai'r eitemau hyn gael eu gosod yn rhydd ym mag gwyrdd y cwsmer
  • Ni ddylid rhoi deunyddiau nad ydynt wedi'u rhestru’n ddeunyddiau derbyniol ar wefan y cyngor yn y bagiau gwastraff gardd. Os canfyddir bod eitemau heblaw'r rhai a restrir uchod yn y bag gwastraff gardd gwyrdd ni fydd yn cael ei wagio
  • Os bydd criwiau casglu yn adrodd bod bagiau gwastraff gardd gwyrdd wedi'u halogi (h.y. yn cynnwys unrhyw ddeunydd annerbyniol), bydd angen i'r cwsmer dynnu’r deunydd tramgwyddus er mwyn gwagio'r bin ar y dyddiad casglu nesaf sydd wedi'i drefnu

Casgliadau a Fethwyd

  • Os nad yw'r cyngor yn gallu gwagio'r bag(iau) gwastraff gardd oherwydd nad oedden nhw wedi eu cyflwyno yn y man casglu erbyn 7am, roedden nhw’n cynnwys deunydd annerbyniol, roedden nhw’n anhygyrch, roedden nhw’n rhy drwm i'w symud yn ddiogel i offer codi y cerbydau, roedd y cynnwys yn rhy gywasgedig i’w wagio’n llawn i'r cerbyd, ni fydd bag(iau) y cwsmer yn cael eu gwagio tan y dyddiad casglu gwastraff gardd nesaf. Ni fydd ad-daliadau ar gael os na fydd y cyngor yn gallu gwagio'r bag(iau) gwastraff gardd gwyrdd am y rhesymau hyn
  • Os nad oedd y bag gwastraff gardd wedi'i wagio, gallwch roi gwybod am gasgliad sydd wedi’i golli o'r diwrnod wedyn. Sylwch nad oes modd rhoi gwybod am gasgliadau Gwastraff Gardd sydd wedi’u colli ar yr un diwrnod gan fod ein criwiau weithiau’n gweithio tan ar ôl 5pm i orffen rowndiau. Rhowch wybod am gasgliadau sydd wedi’u colli o fewn 2 ddiwrnod gwaith.
  • Os yw'r criw casglu yn dweud na chafodd y bag gwastraff gardd ei adael allan i'w gasglu erbyn 7am ar ddiwrnod y casgliad, ni fydd y cyngor yn dychwelyd tan y dyddiad casglu gwastraff gardd nesaf
  • Os yw'r bag gwastraff gardd yn cynnwys deunydd annerbyniol, rhaid i'r cwsmer dynnu'r eitem(au) tramgwyddus er mwyn i gasgliadau gwastraff gardd ddigwydd yn y dyfodol

Canslo

  • Mae gan y cwsmer yr hawl i ganslo'r gwasanaeth o fewn 14 diwrnod i wneud taliad. Ar ôl 14 diwrnod o archebu'r gwasanaeth, gall y cwsmer ganslo'r gwasanaeth ond ni fydd gan y cwsmer hawl i ad-daliad
  • Os yw'r cwsmer yn torri'r telerau ac amodau gall y cyngor ganslo'r gwasanaeth. Mewn amgylchiadau o'r fath, ni fydd unrhyw ad-daliadau ar gael

 

Diogelu Data

Pan fydd y cwsmer yn ymuno â'r gwasanaeth casglu gwastraff gardd, gofynnir i'r cwsmer ddarparu ei enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost a'i rif ffôn fel rhan o'r broses gofrestru ar gyfer cyfrif GovService. Bydd data'r cwsmer yn cael ei storio'n ddiogel yn unol â Deddf Diogelu Data 2018. Bydd y cyngor yn defnyddio data cwsmeriaid i hysbysu'r cwsmer am adnewyddu'r tanysgrifiad gwastraff gardd ar ddiwedd pob blwyddyn y cynllun. Gall y cyngor hefyd ddefnyddio'r manylion i gysylltu â'r cwsmer am faterion gwasanaeth, megis oedi gwasanaeth, neu ganslo oherwydd tywydd gwael, a tramgwyddau i’r cynllun.

 

Hysbysiad Preifatrwydd: Tanysgrifiad Gwastraff Gardd

 

Ynglŷn â'r data y byddwch yn ei ddarparu ar y ffurflen hon

Gofynnir i chi nodi'ch enw, cyfeiriad a manylion cyswllt fel rhan o'r ffurflen ar-lein. Mae hyn yn cael ei ystyried yn ddata personol. Byddwn yn defnyddio'r data rydych chi'n ei ddarparu i'n helpu i ddarparu gwasanaeth casglu gwastraff gardd i chi.

 

Sut y byddwn yn defnyddio eich data

Mae'r gyfraith yn caniatáu i ni ddefnyddio eich data personol i ymrwymo i gontract gyda chi i ddarparu gwasanaeth casglu gwastraff gardd, i ddarparu'r contract/gwasanaeth ar ôl i chi gofrestru ac i anfon negeseuon gwasanaeth perthnasol atoch.

 

A fyddwn ni’n rhannu eich data?

Bydd y data rydych chi'n ei ddarparu ar y ffurflen yn cael ei storio yn ein system Fy Nghyfrif. Bydd gan ein tîm gwastraff ac ailgylchu a'n tîm gwasanaethau cwsmeriaid fynediad at y data rydych chi'n ei roi i ddarparu'r gwasanaeth rydych chi wedi gofyn amdano ac ymateb i unrhyw ymholiadau sydd gennych.

 

Am ba hyd ydyn ni’n storio eich data?

Byddwn yn cadw eich data personol cyhyd ag sy'n angenrheidiol i ddarparu'r gwasanaeth chi rydych wedi gofyn amdano, ac am hyd at saith mlynedd ar ôl diwedd blwyddyn y cynllun tanysgrifio. Ar ôl y cyfnod hwn bydd yn cael ei ddileu o'n systemau. Bydd eich data yn Fy Nghyfrif yn cael ei storio nes y byddwch yn gofyn i ni gau'ch cyfrif ar eich rhan.