Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Iau, 30 Mis Mawrth 2023
Bro Morgannwg
Yr amcanion lles yw:
Mae'r cynllun eleni hefyd yn tynnu sylw at dair her hollbwysig sydd wedi'u nodi fel meysydd blaenoriaeth i'r Cyngor ac sy'n berthnasol i'n holl wasanaethau. Y tair her hollbwysig yw:
Cafodd y cynllun ei gymeradwyo mewn cyfarfod y Cyngor ar ddydd Llun 6 Mawrth a chafodd ei lywio gan ymgynghoriad cyhoeddus cynhwysfawr.
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Mae hwn yn gynllun uchelgeisiol sy'n amlinellu'r hyn fydd yn brif ffocws i'r Cyngor dros y flwyddyn i ddod. "Rydym yn benderfynol o barhau i ddarparu cymorth i'n trigolion wrth i ni lywio ein ffordd trwy'r argyfwng costau byw a pharhau i weithio tuag at ein nod o fod yn garbon niwtral erbyn 2030. "I ni, mae gwydnwch sefydliadol yn golygu edrych ar sut rydym yn parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol mewn ymateb i gostau a phwysau cynyddol. "Fel sefydliad rydym wedi wynebu sawl her yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf ond drwy'r cyfan rydym wedi cynnal ein ffocws ar ein gweledigaeth o greu cymunedau cryf â dyfodol disglair. “Rydym am i Fro Morgannwg fod yn lle gwych i fyw, i weithio ac i ymweld ag ef.”
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Mae hwn yn gynllun uchelgeisiol sy'n amlinellu'r hyn fydd yn brif ffocws i'r Cyngor dros y flwyddyn i ddod.
"Rydym yn benderfynol o barhau i ddarparu cymorth i'n trigolion wrth i ni lywio ein ffordd trwy'r argyfwng costau byw a pharhau i weithio tuag at ein nod o fod yn garbon niwtral erbyn 2030.
"I ni, mae gwydnwch sefydliadol yn golygu edrych ar sut rydym yn parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol mewn ymateb i gostau a phwysau cynyddol.
"Fel sefydliad rydym wedi wynebu sawl her yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf ond drwy'r cyfan rydym wedi cynnal ein ffocws ar ein gweledigaeth o greu cymunedau cryf â dyfodol disglair.
“Rydym am i Fro Morgannwg fod yn lle gwych i fyw, i weithio ac i ymweld ag ef.”
Bydd cynnydd yn erbyn yr amcanion a nodir yn y cynllun yn cael ei adrodd i bwyllgorau'r Cyngor bob chwarter i roi trosolwg i aelodau etholedig ac i roi iddynt hefyd gyfle i graffu ar y gwaith hwn.
Gall aelodau'r cyhoedd hefyd fynychu cyfarfodydd pwyllgorau a gofyn cwestiynau i aelodau etholedig yn ogystal â chymryd rhan mewn ymgysylltu ac ymgynghori drwy gydol y flwyddyn sy'n helpu i lywio gwaith y Cyngor.
Am ragor o wybodaeth ac i weld y cynllun yn llawn, ewch i wefan y Cyngor.