Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mercher, 05 Mis Awst 2020
Bro Morgannwg
Yn cynnwys gwaith celf gan fyfyrwyr Celf a Dylunio lefel Sylfaen, mae’n arddangos amrywiaeth o gyfryngau gan gynnwys ffotograffiaeth, celf gain, graffeg a dylunio tri dimensiwn. Er bod yr adnoddau a’r cymorth mentora a oedd ar gael iddynt yn gyfyngedig, cwblhaodd y myfyrwyr eu cwrs yn llwyddiannus drwy diwtorialau ar-lein. Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant, y Cynghorydd Kathryn McCaffer: “Rydym yn falch iawn i gynnal arddangosfa diwedd blwyddyn y coleg am dros degawd yn nawr, gan gynnwys y flwyddyn hon. Er gwaethaf yr anawsterau presennol, mae’r myfyrwyr wedi parhau gyda’u hastudiaethau ac mae eu gwaith caled yn haeddu cydnabyddiaeth. “Drwy gydol y pandemig, rydym wedi parhau i gefnogi'r celfyddydau gyda mentrau digidol, ac rydym yn falch o gynnwys gwaith y coleg yn rhan o hyn.” Nododd yr arddangosfa hefyd ymddeoliad y tiwtor celfyddyd gain Adrian Metcalfe, sydd wedi gweithio’n agos gyda’r oriel ers 2007. Cewch weld arddangosfa gelf diwedd blwyddyn rithwir Coleg Caerdydd a’r Fro ar:
Oriel Gelf Ganolog