Man a man a mwnci
Mae Arddangosfa Celf a Dylunio Diwedd Blwyddyn Coleg Caerdydd a'r Fro 2024 yn dathlu popeth creadigol ac yn dweud "gadewch i ni fynd amdani, man a man a mwnci!" a’r teitl yw Man a man a mwnci
Mae Man a man a mwnci yn arddangosfa diwedd blwyddyn gyffrous dan arweiniad myfyrwyr sy'n arddangos gwaith yr Adran Greadigol yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro (CCF). Mae'r arddangosfa'n agor o ddydd Sadwrn 25 Mai i ddydd Sadwrn 29 Mehefin 2024 (ac yn dod i ben am 3.30pm).
Mae Oriel Gelf Ganolog, oriel hardd Cyngor Bro Morgannwg, yn cynnig cyfle gwych i'r myfyrwyr gyflwyno eu casgliad o waith arloesol a gwreiddiol. Mae'r gweithiau celf yn amrywiol iawn, o gerameg, tecstilau, ffotograffiaeth, 3D a chelf gain. Mae'r arddangosfa hon yn gyfle unigryw i rai o'r artistiaid gyflwyno eu gwaith mewn oriel broffesiynol ac i gynulleidfa eang.
Mae'r gwaith celf sy'n cael ei arddangos wedi'i ddewis o ystod o gyrsiau sydd ar gael yn y coleg sy'n cynnwys cyrsiau Celf a Dylunio a Chyfryngau Prifysgol y Celfyddydau Lefel 1 a 2, cwrs Celf a Dylunio Prifysgol y Celfyddydau Lefel 3 a Diploma Estynedig a'r Radd Sylfaen Arlunydd Dylunydd: Gwneuthurwr. Mae pob cwrs yn annog dull creadigol gwahanol fel celfyddyd gain a phaentio, cerameg, cerflunwaith, tecstilau, dylunio graffeg a mwy.
Dywedodd y Cynghorydd Rhiannon Birch, Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a'r Gymraeg: “Rydym yn falch iawn o gynnal arddangosfa diwedd blwyddyn Coleg Caerdydd a'r Fro yn yr Oriel Gelf Ganolog.
Rydym yn gobeithio y bydd y myfyrwyr yn dysgu llawer am sefydlu, curadu, a threfnu eu gwaith celf. Bydd y profiad yn yr Oriel Gelf Ganolog yn garreg camu ardderchog tuag at yrfaoedd y myfyrwyr yn y celfyddydau yn y dyfodol neu, ym mha beth bynnag maen nhw'n penderfynu ei wneud.”
Mae'r thema eleni yn rhoi llwyfan i arddangos eu gwaith gyda'i gilydd mewn un lle. Mae'n benllanw taith greadigol yr unigolion hyn cyn iddynt ddechrau ar gam nesaf eu gyrfaoedd.
Cynhelir digwyddiad agored ar gyfer y cyhoedd, ffrindiau a theulu ar ddydd Mercher 19 Mehefin rhwng 6pm ac 8pm lle cewch gyfle i gwrdd â'r artistiaid. Rydym yn gobeithio y byddwch yn ymweld â'r oriel i gefnogi'r artistiaid uchelgeisiol hyn o Goleg Caerdydd a'r Fro.
Mae’r Oriel Gelf Ganolog, Neuadd y Dref, Sgwâr y Brenin, Y Barri CF63 4RU ar agor rhwng 9.30am a 4.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9.30am a 3.30pm ar ddydd Sadwrn. Rydym ar gau ar ddydd Sul.