Mae Bro Morgannwg WRTHI!
Ailgylchwch dros Fro Morgannwg a dros Gymru!

Mae preswylwyr ym Mro Morgannwg wrthi yn yr ystafell wely, ystafell ymolchi, cegin ac yn yr ardd - mae'r rhan fwyaf o'n preswylwyr WRTHI bob dydd ac mae'n rhan FAWR o'n bywydau.
Mae ailgylchu bellach yn rhan o'n trefn bob dydd yn y cartref, ac mae'n mynd i barhau am byth. Fel cenedl, mae Cymru yn dda iawn o ran ailgylchu, ac mae ganddi gyfradd ailgylchu o 63% yn gyffredinol, gan ein rhoi ni ymhlith y rhai gorau.
Ymgyrch ailgylchu ar gyfer CHWE Awdurdod Lleol cyfagos yn ardal De-ddwyrain Cymru yw Mae Pawb WRTHI. Mae'r ymgyrch wedi'i chefnogi a'i hariannu gan Lywodraeth Cymru ac mae hi wedi cael ei mabwysiadu'n lleol gan bob un o'r Awdurdodau Lleol.
Fel cenedl, mae rhaid i ni barhau i adeiladu ar lwyddiant Cymru ac ailgylchu mwy, mae Bro Morgannwg wedi ymuno â Blaenau Gwent, Caerdydd, Powys, Rhondda Cynon Taf, a Caerffili i ddod at ei gilydd i bwysleisio nad oes ffiniau o ran ailgylchu. Er ein bod ni i gyd WRTHI mewn ffyrdd gwahanol - Mae Pawb WRTHI. MEDDWL.AILGYLCHU.
Bwriad yr ymgyrch yma yw gwneud i ddefnyddwyr AROS, MEDDWL ac AILGYLCHU cymaint ag sy'n bosibl. Erbyn hyn, mae mwy o bobl nag erioed yn dewis AILGYLCHU yng Nghymru ac mae hynny'n dangos bod Pawb WRTHI- felly os nad ydych chi wrthi, pam lai? Bwriad arall yw gwneud i ddefnyddwyr feddwl ddwywaith am faint maen nhw'n ei ailgylchu a sut mae modd iddyn nhw wella yn y cartref, tra eu bod wrthi, dramor ac wrth wylio eu hoff dîm - Aros. Meddwl. Ailgylchu.Mae wastad amser i AROS. MEDDWL. ac AILGYLCHU.
Ar draws Cymru, mae siopwyr WRTHI, mae cefnogwyr pêl-droed WRTHI, mae teithwyr WRTHI, ac mae'r sawl sy'n mynd i'r sinema WRTHI! Mae negeseuon wedi cael eu rhoi mewn lleoliadau allweddol ar draws ardal De-ddwyrain Cymru er mwyn atgoffa a phwysleisio'r angen i ailgylchu ble bynnag rydych chi, beth bynnag rydych chi'n ei wneud.
Rhaid i bob Awdurdod Lleol fodloni targed Llywodraeth Cymru o 70% erbyn 2024/25. Bydd yr awdurdodau sy'n methu â bodloni'r targed yma yn wynebu dirwyon mawr. Bydd angen trosglwyddo'r dirwyon mawr i'w preswylwyr.