Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mercher, 14 Mis Awst 2019
Bro Morgannwg
Mae’r arddangosfa’n cynnwys amrywiaeth lliwgar o 95 o ddarnau wedi'u hongian a sioe sleidiau o lawer mwy o ddelweddau trawiadol.
Mae amrywiaeth y gwaith ffotograffig yn cyfleu golygfeydd, tirluniau a morluniau lleol, portreadau a phryfed ar ffurf macroffotograffiaeth. Mae'r clwb wedi cynnwys gwaith ar thema'r gofod hefyd, sy'n cyd-fynd â dathliadau diweddar i nodi hanner can mlynedd ers glanio ar y lleuad.
Roedd y Cyng. Margaret Wilkinson, Aelod Cabinet dros Gwasanaethau Tai ac Adeiladu a Maer Cyngor Tref y Barri, yn bresennol yn y digwyddiad agoriadol ddydd Sadwrn 10 Awst.
“Heddiw, mae llawer o luniau yn cael eu cuddio ar ffonau clyfar a dyfeisiau tebyg. Mae’n wych gweld y printiau hyn ar ddangos, gan ddod â ffotograffau oriel y Cyngor yn fyw.” - Cyng Margaret Wilkinson.
Mae Clwb Camerâu y Barri yn awyddus i wahodd unrhyw un â diddordeb mewn ffotograffiaeth i ymuno. Mae’r clwb yn cyfarfod bob wythnos ac mae iddo raglen weithredol o sesiynau ffotograffiaeth ymarferol, gweithdai, teithiau dydd, siaradwyr gwadd a chystadlaethau. Wedi’i sefydlu ym 1905, hwn yw’r clwb camerâu hynaf yng Nghymru sy’n dal i weithredu.
Am ragor o wybodaeth am raglen arddangosfeydd yr Oriel Gelf ynghyd â cheisiadau a chyfleoedd celf, cysylltwch â'r isod.