Cost of Living Support Icon

Heritage-Coast-Aerial

 

Pennaeth Gwasanaethau Oedolion A Chynghrair Y Fro (Penodiad Ar Y Cyd)

Rydym yn recriwtio Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Chynghrair y Fro. Penodiad ar y cyd yw hwn sy’n dangos ymrwymiad parhaus Cyngor Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i weithio mewn modd integredig.

 

Rydym yn chwilio am arweinydd carismataidd ac ymaddasol a fydd yn gallu rheoli sgiliau a nodweddion sylweddol y staff yn yr adran i sicrhau ei bod yn gweithredu’n effeithlon a’i bod yn parhau i ddatblygu a gwella.

 

Amdan y rôl

 

  • Disgrifiad Swydd

    Teitl Y Swydd: Pennaeth Gwasanaethau Oedolion A Chynghrair Y Fro (Penodiad Ar Y Cyd)

    Cyf. Swydd: V/CS/AA001

    Gradd: Prif Swyddog (Awdurdod Lleol)

    Cyflog: £75,117 - £83,250 Ynghyd  Thâl Atodol O £10,693 (Bydd Telerau Ac Amodau'r Gwasanaeth Yn Dibynnu Ar Gyflogwr Y GIG Neu’r Awdurdod Lleol)

    Oriau: Yn Unol Ag Amodau Gwasanaeth Presennol O Fewn Y GIG Neu'r Awdurdod Lleol.

    Efallai Y Bydd Angen Gweithio Mwy Nag Oriau Cytundebol Ar Brydiau, Yn Unol Ag Anghenion Y Gwasanaeth

    Adran: Cyngor Bro Morgannwg A Bwrdd Iechyd Prifysgol (BIP) Caerdydd A'r Fro

    Swyddogaeth: Darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig yng Nghyngor Bro Morgannwg

    Prif Leoliad Gwaith: Swyddfa Doc y Barri/ Hybrid

     

    Trefniadau Sefydliadol

    Yn atebol i: Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Chanolraddol 

    Yn gyfrifol am: 

    Yr Is-adran Gwasanaethau Oedolion yn yr Awdurdod Lleol a Thîm Ardal y Fro yn y BIP

  • Diben Y Swydd

    Sicrhau y caiff gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig eu harwain a’u darparu mewn modd diogel ac effeithiol ledled Bro Morgannwg, yn unol â safonau a modelau y cytunwyd arnynt yn genedlaethol ac yn lleol.   Cydweithio â'r Sector Gofal Sylfaenol, y Sector Gwirfoddol, a phartneriaid allweddol eraill i fwrw ymlaen ag amcanion datblygu a gwella gwasanaethau yn unol â pholisi lleol a chenedlaethol, fel y nodir yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, Deddf Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol, Gofal Iechyd Darbodus a Chynllun Gofal Sylfaenol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru.

     

    Bydd deiliad y swydd yn:

    • Gyfrifol ar ran y Cyngor a’r BIP am ddatblygu a darparu gwasanaethau iechyd cymunedol a gofal cymdeithasol integredig diogel, effeithiol ac o ansawdd uchel i oedolion, sy'n adlewyrchu blaenoriaethau cenedlaethol a lleol ac sy'n cael yr effaith fwyaf posibl o ran bodloni'r angen o fewn cymunedau lleol ledled Bro Morgannwg

    • Manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i integreiddio gan ystyried ffyrdd newydd o weithio i sicrhau'r defnydd gorau o adnoddau

    • Dirprwyo ar ran y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol/y Cyfarwyddwr Gweithrediadau fel sy’n briodol a bod yn aelod o’u Timau Rheoli Corfforaethol

    • Nodi a datblygu cyfleoedd ar gyfer datblygu gwasanaethau a moderneiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a rheoli unrhyw newidiadau o ran y gweithlu.  Bydd hyn yn cynnwys gweithio ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol gyfan ar feysydd cyfrifoldeb y cytunwyd arnynt

    • Hyrwyddo’r gwaith o ddatblygu diwylliant a newidiadau ymddygiadol sydd eu hangen ar gyfer darparu gwasanaethau di-dor ar draws rhwystrau sefydliadol a phroffesiynol

    • Defnyddio partneriaethau amlasiantaethol statudol; meithrin perthynas â rhanddeiliaid allanol; a sicrhau pwyslais ar welliannau o ran iechyd, llesiant ac integreiddio gwasanaethau ledled Bro Morgannwg

    • Arwain a rheoli’r gweithlu iechyd a gwasanaethau cymdeithasol er mwyn datblygu timau llawn cymhelliant sydd wedi'u grymuso gan greu amgylchedd lle y gall pawb ragori

    • Gwella llwybr y claf a sicrhau y caiff amcanion corfforaethol a chenedlaethol y Cyngor a’r BIP eu cyflawni

    • Sicrhau y caiff targedau ariannol eu bwrw ac y caiff gwasanaethau eu darparu i gyllidebau y cytunwyd arnynt

    • Sicrhau bod y BIP a'r Cyngor yn cydymffurfio â’r holl ofynion statudol a fframweithiau rheoliadol perthnasol, sy’n ymwneud yn benodol â gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion, a gwasanaethau gofal iechyd cymunedol ac eilaidd (gan gynnwys gweithredu fel yr unigolyn cyfrifol o ran gofynion safonau gofal)

  • Dyletswyddau a Chyfrifoldebau

    Cynllunio Strategol a Datblygu Gwasanaethau

    • Dehongli deddfwriaethau, strategaethau, polisïau a chanllawiau Llywodraeth  Cymru i sicrhau darpariaeth leol, gan ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael

    • Dehongli cyfrifoldebau cyfreithiol a statudol y Cyngor a’r BIP

    • Arwain a bod yn gyfrifol am brosesau cynllunio a datblygu cadarn sydd ar waith i sicrhau y gweithredir arferion asesu anghenion cynhwysfawr, adolygu gwasanaethau a rheoli newid er mwyn ailgyfeirio adnoddau i fodloni blaenoriaethau cenedlaethol a lleol y cytunwyd arnynt

    • Rheoli ar y cyd waith y Tîm Ardal o gyflawni cyfrifoldebau a ddyrennir ar draws yr isadrannau ar ran y Bwrdd Clinigol Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Chanolraddol

    • Rheoli’r gwaith o ddarparu’r Gwasanaethau Oedolion ar ran y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol

    • Gweithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys y Gwasanaeth Iechyd y Cyhoedd, arwain yr Ardal Leol a’i datblygiad i fod yn sefydliad sy’n cael ei arwain gan iechyd y cyhoedd sy’n gallu chwarae rhan weithredol a chyflawni swyddogaeth gyfranogol i hyrwyddo iechyd a lles corfforol a meddyliol da i bawb a lleihau anghydraddoldebau o ran mynediad, gofal a thriniaeth ar draws gwasanaethau’r Clwstwr / yr Ardal Leol

    • Arwain pan fo’n briodol y gwaith o ddatblygu a gweithredu strategaethau ehangach a chymryd rhan ynddo, i wella iechyd dinasyddion a lleihau anghydraddoldebau iechyd yn yr ardal ac ar lefel Clwstwr

     

    Darparu Gwasanaethau

    • Arwain y gwaith o ddatblygu strategaeth gwasanaethau lleol integredig er mwyn bodloni blaenoriaethaucenedlaethol a lleol, datblygu Cynghrair y Fro pan fo’n briodol a datblygu trefniadau ar y cyd sy'n sicrhau bodgwasanaethau cydlynol a chadarn yn cael eu darparu

    • Gwella effeithlonrwydd gwasanaethau a sicrhau bod cynlluniau newid yn cael eu gweithredu, yn unol âstrategaethau cenedlaethol a lleol ac o fewn fframweithiau ariannol a rheoli perfformiad y cytunwyd arnynt

    • Drwy gydweithio â thîm rheoli’r Ardal Leol, sicrhau bod systemau ar waith ar gyfer llywodraethu corfforaethola gweithredu Fframweithiau Sicrwydd Risg Corfforaethol y sefydliad

    • Monitro perfformiad a chychwyn camau gweithredu priodol i sicrhau y cyflawnir ac y cynhelir y safonau priodol

     

    Tasgau a Dyletswyddau yn ymwneud â’r Defnyddiwr Gwasanaeth

    • Bod yn gyfrifol am sicrhau bod systemau ar waith ar gyfer cynnwys rhanddeiliaid, y cyhoedd, defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr yn y gwaith o gynllunio, diogelu a monitro gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol

    • Sicrhau y bodlonir gofynion statudol a chyfreithiol ar gyfer darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion, a hynny gan ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael

    • Cefnogi’r gwaith o ddatblygu llwybrau gofal integredig, yn unol â chanllawiau a sicrhau dehongliad a darpariaeth leol

    • Sicrhau dull ymatebol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer wrth ddarparu gwasanaethau lleol

     

    Rheoli Perfformiad

    • Sicrhau y cefnogir pob swyddogaeth gan wybodaeth gadarn ac effeithiol sy’n cefnogi proses gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth

    • Sicrhau bod systemau cynllunio, comisiynu a rheoli perfformiad, a phob mecanwaith adrodd cynnydd yn darparu ar gyfer y defnydd effeithiol o adnoddau ac yn dangos gwaith rheoli risg trylwyr

    • Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion Diogelu Data, Rhyddid Gwybodaeth a Caldicott, yn enwedig yn ymwneud â’r gwaith o gynllunio a chomisiynu gwasanaethau gofal/claf

    • Sicrhau y caiff targedau mewn meysydd cyfrifoldeb eu bwrw, gan ddefnyddio adnoddau sydd ar gael

     

    Adnoddau Dynol

    • Bod yn gyfrifol am yr Is-adran Gwasanaethau Oedolion sy’n rhan o Adran Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor a bod yn gyfrifol am reoli ar y cyd Dîm Ardal y Fro sy’n rhan o’r BIP

    • Rheoli pob tîm perthnasol yn effeithiol ar draws y ddau sefydliad a sicrhau y lleiheir achosion o ddyblygu ymdrech, er mwyn gwneud y defnydd gorau o adnoddau cyfunol y BIP a'r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol

    • Sicrhau bod gan bob aelod o staff sydd dan arweiniad rheolwr llinell amcanion unigol a thîm clir, sy’n cael eu monitro'n rheolaidd, er mwyn cyflawni amcanion corfforaethol a gweithrediadol

    • Sicrhau y cyfathrebir yn glir â phob aelod o staff sydd dan arweiniad rheolwr llinell a bod atebolrwydd wedi’i ddiffinio’n dda

    • Cefnogi a datblygu aelodau staff, gan sicrhau y datblygir ac y cyflawnir holl amcanion y Cyngor a'r BIP

    • Cefnogi’r gwaith o sefydlu a datblygu aelodau eraill o staff ar draws y ddau sefydliad, yn ôl yr angen

    • Arwain y gwaith o ddatblygu cymysgedd sgiliau o fewn timau mewn meysydd cyfrifoldeb

     

    Adnoddau Ariannol

    • Bod yn bennaf gyfrifol am reoli’r defnydd effeithiol o gyllidebau dirprwyedig (mewn ymgynghoriad â chydweithwyr perthnasol) fel y diffinnir yn fframwaith gwneud penderfyniadau dirprwyedig y Cyngor a’r BIP

    • Gweithredu fel deiliad y gyllideb ar gyfer pob gwasanaeth gofal cymdeithasol i oedolion ac amrywiaeth o wasanaethau iechyd yn y gymuned ar ran trigolion Bro Morgannwg.  Mae hyn yn cynnwys sicrhau mynediad teg i bawb gan ddangos defnydd effeithiol o adnoddau cyfunol i fwrw targedau cenedlaethol a lleol y cytunwyd arnynt

    • Gweithio’n agos â rheolwyr Cyllid priodol o fewn y Cyngor a'r BIP, drwy gefnogi'r Cyfarwyddwr Adrannol a’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol mewn trafodaethau lleol gan arwain at gwblhau’n llwyddiannus wasanaeth cytbwys a fframwaith ariannol ar gyfer y Cyngor a’r BIP

     

    Cymhwysedd

    Chi sy’n gyfrifol am gyfyngu eich gweithredoedd i’r rhai hynny rydych chi o'r farn eich bod yn gymwys i ymgymryd â nhw.  Os oes gennych chi unrhyw amheuon ynglŷn â’ch cymhwysedd yn ystod eich dyletswyddau, dylech chi siarad â’ch rheolwr llinell/goruchwylydd yn syth.

     

    Rheoli Risg

    Mae’n elfen safonol o rôl a chyfrifoldeb pob aelod o staff ei fod yn cyflawni swyddogaeth ragweithiol o ran rheoli risg yn rhan o’i holl weithredoedd. Mae hyn yn cynnwys asesu risg ym mhob sefyllfa, cymryd camau priodol a rhoi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau, digwyddiadau a osgowyd o drwch blewyn neu beryglon.

     

    Rheoli Cofnodion

    Fel un o weithwyr y Cyngor a’r BIP, rydych chi'n gyfrifol yn ôl y gyfraith am bob cofnod yr ydych chi’n ei gasglu, yn ei greu neu’n ei ddefnyddio yn rhan o’ch gwaith, pa un ai'n gofnod papur neu’n gofnod cyfrifiadurol.  Ystyrir pob cofnod o'r fath yn gofnodion cyhoeddus, ac mae gennych chi ddyletswydd cyfrinachedd gyfreithiol i ddefnyddwyr gwasanaeth (hyd yn oed ar ôl i weithiwr adael y Cyngor/BIP). Dylech chi ymgynghori â’ch rheolwr os oes gennych chi unrhyw amheuaeth ynghylch a yw’r cofnodion yr ydych chi’n gweithio â nhw yn cael eu rheoli'n gywir.

     

    Gofynion Iechyd A Diogelwch

    Mae gan holl weithiwr y Cyngor a’r BIP ddyletswydd gofal statudol o ran eu diogelwch personol eu hunain a diogelwch eraill a allai gael eu heffeithio gan eu gweithredoedd neu eu diffyg gweithredoedd. Mae angen i weithwyr gydweithio â’r rheolwr o ran bodloni eu dyletswyddau cyfreithiol a dylent adrodd unrhyw sefyllfaoedd peryglus neu offer diffygiol.

     

    Datganiad Hyblygrwydd

    Mae cynnwys y Disgrifiad Swydd hwn yn amlinelliad o’r swydd ac nid yw felly’n gatalog manwl gywir o ddyletswyddau a chyfrifoldebau. Felly, bwriedir i’r Disgrifiad Swydd hwn fod yn hyblyg ac yn destun adolygiad a diwygiad yng ngoleuni amgylchiadau newidiol, yn dilyn ymgynghori â deiliad y swydd.

     

    Cyfrinachedd

    Mae angen i holl weithwyr y BIP a’r Cyngor gadw cyfrinachedd aelodau'r cyhoedd ac aelodau staff yn unol â’r holl bolisïau perthnasol.

     

    Cydraddoldeb

    Bydd y Cyngor a'r BIP yn cymryd pob cam ymarferol i sicrhau y caiff aelodau staff eu recriwtio, eu rheoli, eu datblygu, eu hyrwyddo a'u gwobrwyo ar sail teilyngdod ac y rhoddir cyfle cyfartal iddynt i gyd. Mae pob gweithiwr yn gyfrifol am ei ymddygiad proffesiynol a phersonol ei hun ac mae angen i’r holl aelodau o staff ymddwyn mewn modd na fydd yn sarhau unrhyw un arall.   

Gweithio yng Nghyngor Bro Morgannwg

 

  • Amdanom ni

    Yn 2021 cyhoeddwyd ein Llyfr Diwylliant. Mae'r llyfr hwn wedi'i gynllunio fel dewis amgen i lawlyfr cyflogai, fel canllaw ar 'sut rydym yn gwneud pethau yma' gan ganolbwyntio ar ethos y sefydliad – ein gweledigaeth a'n gwerthoedd.

     

    Mae'n ein hatgoffa ni, ac yn dweud wrth weithwyr y dyfodol, pwy ydym ni, beth a wnawn, sut rydym yn gwneud hynny a pham rydym yn ei wneud. Diffinnir ein diwylliant drwy gyfraniad pob un ohonom. Mae'n dangos yr hyn y mae'n ei olygu i fod yn gyflogai’r Cyngor drwy werthoedd, credoau ac ymddygiadau a rennir. Mae rhannu ein straeon yn y llyfr hwn yn dod â'r pethau hyn yn fyw ac yn rhoi cyfle i ni fyfyrio ar y ffordd y mae ein pedwar gwerth sefydliadol yn dylanwadu arnom: Uchelgeisiol, Balch, Agored, Gyda'n Gilydd.

  • Ynglŷn â’n gweledigaeth

    Mae gan Gynghorau rôl hollbwysig wrth sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn cyrraedd pob aelod o gymdeithas ac mae ein Cynllun Corfforaethol yn nodi agenda uchelgeisiol i Gyngor Bro Morgannwg hyd at 2025.

     

    Mae ein cynllun yn rhoi pwyslais mawr ar gydweithio a gweithio mewn partneriaeth. Dim ond drwy gydweithio, parchu a gwrando ar ein gilydd y gallwn lwyddo i ateb yr amryw heriau sy’n wynebu ein cymunedau a’n gwasanaethau cyhoeddus heddiw. Mae ein hymrwymiad i weithio mewn partneriaeth yn amrywiol, gan gynnwys gweithio gyda theuluoedd, plant a phobl ifanc, ein partneriaid ym maes iechyd, yr Heddlu a’r gwasanaeth tân yn ogystal â chyrff sector cyhoeddus eraill, y trydydd sector, cynghorau tref a chymuned a’n cymunedau.

     

    Wrth gyflwyno’n cynllun ac adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd gennym eisoes, rydym yn hyderus y gallwn wireddu gweledigaeth y Cyngor sef ‘Cymunedau Cryf â Dyfodol Disglair’.

  • Ynglŷn â’r Fro

    Mae Bro Morgannwg yn gartref i bwynt mwyaf deheuol Cymru. Mae'n cynnwys trefi bywiog a phentrefi gwledig, ac ar ei hymyl ceir gogoniant yr Arfordir Treftadaeth.

     

    Mae'r Barri yn dref arfordirol fywiog gyda Stryd Fawr brysur a'r Goodsheds a’r Ardal Arloesi - cyrchfan siopa, bwyta ac ymlacio. Mae Ynys y Barri yn enwog am draethau euraid, difyrrwch teuluol a'i chytiau traeth lliwgar.

     

    Mae Penarth gyferbyn â Bae Caerdydd ac mae'n dref glan môr gain gyda phier Fictoraidd, pafiliwn Art Deco a marina modern. Mae parciau gwych yn cysylltu'r arfordir â chanol y dref draddodiadol gyda'i siopau annibynnol a'i harcêd.

     

    Ystyrir y Bont-faen yn un o leoedd mwyaf ffasiynol Cymru ac mae'n cynnwys siopau a chaffis annibynnol, adeiladau hanesyddol a Gardd Berlysiau. Gerllaw mae cestyll hanesyddol ac mae cefn gwlad hardd y tu hwnt yn gartref i gynhyrchwyr bwyd a diod penigamp.

     

    Mae tref farchnad hanesyddol Llanilltud Fawr yn llawn adeiladau diddorol a chasgliad gwych o gerrig cerfiedig Celtaidd yn Eglwys Illtud Sant. Gerllaw, mae 14 milltir o arfordir treftadaeth gwyllt Morgannwg yn cynnig teithiau cerdded ar ben clogwyni a thraethau sy'n addas ar gyfer archwilio pyllau glan môr, syrffio a chestyll tywod.