Mae'r Cyngor wedi derbyn cyfraniadau ariannol Adran 106 ar gyfer Cyfleusterau Cymunedol drwy ddatblygiadau cyfagos, ac mae’r cyfraniadau hyn wedi'u dyrannu i Bafiliwn ac ardal chwarae Belle Vue er mwyn uwchraddio'r cyfleusterau poblogaidd hyn yn gynhwysfawr.
Bydd y gwaith o uwchraddio'r safle hwn yn dechrau ar 20 Mehefin 2022 a rhagwelir y bydd angen 37 wythnos i’w gwblhau.
Mae caniatâd cynllunio (cyfeirnod cynllunio 2021/00363/RG3) wedi'i gymeradwyo ar gyfer dymchwel y pafiliwn presennol ac adeiladau ategol cyfagos, ac adeiladu adeilad cymunedol newydd a rennir a gwaith allanol cysylltiedig i greu mynediad gwastad i gerddwyr.
Rhagwelir y caiff yr adeilad newydd ei drosglwyddo ganol mis Mawrth 2023.
Mae'r parth adeiladu wedi'i ystyried yn ofalus i gyfyngu unrhyw darfu ar ddefnyddwyr y parc. Bydd yr ardal chwarae a'r lawnt fowlio yn parhau i fod ar agor yn ystod y gwaith. Felly, gallai’r parth adeiladu newid yn amodol ar asesiad risg. Bydd y mynediad i gerddwyr i'r parc drwy Albert Crescent ar gau yn ystod y cyfnod adeiladu.
Mae gweithrediadau’r Contractwyr wedi'u cyfyngu i’r amseroedd canlynol:
Dydd Sul a Gwyliau’r Banc: Ni chaniateir gweithio.
Bydd y Contractwr yn cyfyngu gweithrediadau ymhellach i ystyried amseroedd danfon / casglu ysgolion (o ddydd Llun i ddydd Gwener), o ran danfoniadau, dadlwytho a symud cerbydau a deunyddiau. Er y bydd rhywfaint o darfu oherwydd y gwaith adeiladu, bydd y Cyngor yn ymdrechu i weithio gyda'r contractwr penodedig i leihau hyn.