Bywgraffiad
Etholwyd y Cynghorydd Robert Fisher yn Gynghorydd Bro Morgannwg yn cynrychioli ward y Bont-faen ym mis Mai 2022.
Cafodd ei addysg yn Ysgol y Bont-faen cyn astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru lle cyflawnodd Gyd-ddarlithyddiaeth yng Ngholeg Cerdd Llundain. Aeth ymlaen wedyn i gyflawni BA(Anrh) mewn Gwleidyddiaeth a hefyd mewn Ffotograffiaeth Ddogfennol o Brifysgol De Cymru.
Daw o deulu sy'n wleidyddol weithgar, gyda'i dad yn Gynghorydd Tref y Bont-faen, yn gyn-Faer Llanfleiddan ac yn Gynghorydd Cymuned Llanddunwyd.
Mae wedi teithio'n eang erioed, ac mae wedi byw mewn sawl gwlad wahanol gan gynnwys Denmarc, Canada ac Awstralia. Mae'n gredwr cryf bod teithio yn cynnig persbectif gwerthfawr ar wlad a chymuned rhywun.
Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn niwroamrywiaeth, iechyd meddwl a digartrefedd, cefn gwlad Prydain, yr amgylchedd a'n treftadaeth genedlaethol. Mae hefyd yn gefnogwr brwd o'r celfyddydau, yn enwedig y theatr. Ac yntau wedi’i eni a’i fagu yn y Bont-faen, mae'n teimlo'n angerddol am wasanaethu ei gymuned leol.
Mae ganddo docyn tymor gyda’r tîm hoci iâ Cardiff Devils.