Mynd i’ch gorsaf bleidleisio mewn etholiad yw’r ffordd arferol o bleidleisio. Serch hynny, gallwch chi hefyd wneud cais i bleidleisio mewn ffyrdd eraill:
Etholwr post
Os oes yn well gennych bleidleisio drwy’r post ac rydych chi eisoes wedi gwneud cais i gael gwneud hynny, cewch chi'ch papur(au) pleidleisio tua 10 diwrnod gwaith cyn diwrnod yr etholiad. Caiff y rhain eu hanfon yn rhan o becyn a fydd yn cynnwys cyfarwyddiadau ar sut mae pleidleisio’n llwyddiannus drwy’r post. Bydd angen llenwi eich papur pleidleisio a’i anfon yn ôl i'ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol er mwyn iddo gael ei gyfrif.
Pleidlais drwy ddirprwy
Os ydych chi ar y Gofrestr Etholiadol a does dim modd i chi fynd i bleidleisio, mae modd gofyn i rywun arall wneud hynny ar eich rhan. Pleidleisio drwy ddirprwy yw hyn. Mae unrhyw un yn gallu pleidleisio ar eich rhan cyn belled â’i fod yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiad a’i fod yn fodlon gwneud hynny.
Gallwch chi wneud cais am gael pleidleisio drwy ddirprwy yn yr achosion canlynol:
- Nid oes modd i chi fynd i’r orsaf bleidleisio mewn etholiad penodol. Er enghraifft, os byddwch chi ar wyliau
- Mae cyflwr corfforol arnoch sy'n eich atal rhag mynd i’r orsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad. Yn yr achos hwn, efallai y bydd angen i chi gyflwyno datganiad gan Feddyg, nyrs neu warden cartref
- Ni fyddwch yn yr ardal oherwydd gwaith naill ai yn rhan o drefniant parhaol neu ar y diwrnod hwnnw’n unig
- Byddwch chi ar gwrs addysgol a bydd hynny’n eich atal rhag mynd i’r orsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad
- Rydych chi'n Ddinesydd Prydeinig sy’n byw dramor
- Rydych chi’n Was Sifil neu’n aelod o Luoedd Arfog ei Mawrhydi
Fel arfer, mae’r dyddiad cau i bleidleisio drwy ddirprwy yn 6 diwrnod gwaith cyn etholiad.
Ni chaiff dirprwyon bleidleisio ar ran mwy na dau berson mewn unrhyw etholiad unigol heblaw eu bod yn berthynas agos.
Os ydych chi am benodi dirprwy, gallwch chi fynd i orsaf bleidleisio o hyd a bwrw'ch pleidlais cyn belled â nad yw’r dirprwy wedi pleidleisio ar eich rhan eisoes.
Gallwch ofyn i unrhyw un bleidleisio ar eich rhan, ar yr amod bod yr unigolyn hwnnw wedi cofrestru i bleidleisio a'i fod yn fath o etholiad y mae ganddo hawl i bleidleisio ynddi.
Pleidleisiwr Drwy Ddirprwy Drwy’r Post
Os hoffech chi benodi rhywun i bleidleisio ar eich rhan ond mae’r person hwnnw’n byw'r tu allan i'r ardal, neu os nad oes modd iddo gyrraedd yr orsaf bleidleisio, gallwch chi wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy drwy'r post.
Caiff eich papur(au) pleidleisio eu hanfon at gyfeiriad y dirprwy a bydd y dirprwy wedyn yn gallu llenwi'ch papur(au) pleidleisio fel pleidlais post arferol.
Os hoffech wneud cais i fod yn bleidleisiwr post, yn ddirprwy neu'n ddirprwy drwy'r post, ewch i'n tudalen Cais ac Ildio drwy glicio'r botwm isod:
Ffurflenni Cais