Math o gais | Pwy ddylai ddefnyddio'r ffurflen hon | Sut i wneud cais | Gwneud cais |
Pleidleisio drwy’r post |
Defnyddiwch y ffurflen bapur hon os hoffech chi bleidleisio drwy'r post ar gyfer etholiadau penodol.
(Ni fydd yn rhaid i chi fynd i orsaf bleidleisio ar y diwrnod pleidleisio.)
|
Mae'r ffordd rydyn ni'n pleidleisio drwy'r post yng Nghymru wedi newid. Bydd angen i chi roi rhif yswiriant gwladol ar gyfer rhai etholiadau.
Fel arall, gallwch wneud cais i bleidleisio drwy'r post ar-lein gyda Gov.uk ar gyfer rhai etholiadau. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael drwy’r ddolen yn y golofn nesaf.
Byddwn yn anfon eich papurau pleidleisio i'r cyfeiriad cartref neu i’r cyfeiriad anfon ymlaen rydych wedi'i ddarparu. Dylech dderbyn eich papurau o fewn 10 diwrnod o’r diwrnod pleidleisio.
Bydd angen i chi gwblhau a dychwelyd y rhain er mwyn i'ch pleidlais gael ei chyfri. Rhaid i chi roi eich llofnod a'ch dyddiad geni gan y bydd y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i wirio'ch papurau pleidleisio.
|
Gov.uk –
Gwneud cais ar-lein
Y Comisiwn Etholiadol – Gallwch ddod o hyd i ffurflenni cais ar gyfer mathau o etholiad, fersiwn PDF, a dolenni ar-lein yma
Lawrlwytho ffurflen pleidleisio drwy'r post
|
Pleidlais bost heb ei llofnodi
|
Defnyddiwch y ffurflen hon os hoffech bleidleisio drwy'r post ond na allwch roi llofnod. |
Mae'r ffurflen Pleidlais Bost heb ei Llofnodi yn caniatáu ichi bleidleisio heb orfod darparu llofnod.
Rhaid cael rheswm dilys, megis anallu a allai olygu bod eich llofnod yn anghyson.
Os ydych yn gwneud cais am bleidlais bost heb ei llofnodi, dim ond wrth gwblhau eich cais post a'ch papur pleidlais drwy’r post y bydd yn rhaid i chi roi eich dyddiad geni.
Byddwn yn anfon eich papurau pleidleisio i'r cyfeiriad cartref neu i’r cyfeiriad anfon ymlaen rydych wedi'i ddarparu. Dylech dderbyn eich papurau o fewn 10 diwrnod o’r diwrnod pleidleisio.
Bydd angen i chi gwblhau a dychwelyd y rhain er mwyn i'ch pleidlais gael ei chyfri. Rhaid i chi ddarparu eich dyddiad geni gan fod y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i wirio eich papurau pleidleisio.
|
Lawrlwytho ffurflen Pleidlais Bost heb ei Llofnodi |
Pleidleisio drwy ddirprwy |
Os hoffech i rywun arall bleidleisio ar eich rhan yn eich gorsaf bleidleisio, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais dirprwy a rhoi rheswm pam na allwch gyrraedd eich gorsaf bleidleisio eich hun. |
Mae gwahanol fathau o ffurflenni dirprwy sy'n dibynnu ar y rheswm rydych chi'n ei roi. Gallwch lawrlwytho copi y gellir ei argraffu o'r math o gais sydd ei angen arnoch, neu gallwch wneud cais ar-lein ar gyfer rhai etholiadau.
Rhaid i'r person rydych chi'n ei enwebu fod ar y Gofrestr Etholiadol neu ni allant fod yn ddirprwy i chi.
Byddwch yn derbyn llythyr yn cadarnhau bod yr unigolyn yr ydych wedi'i enwebu i bleidleisio ar eich rhan (drwy ddirprwy) wedi cael ei gymeradwyo.
Bydd eich dirprwy yn derbyn cerdyn pleidleisio. Rhaid i'ch dirprwy ymweld â'r orsaf bleidleisio yn bersonol ar y diwrnod pleidleisio i bleidleisio ar eich rhan.
|
Y Comisiwn Etholiadol
– Ffurflenni
cais dirprwy
|
Pleidlais drwy ddirprwy heb ei llofnodi |
Defnyddiwch y ffurflen hon os hoffech i rywun arall bleidleisio ar eich rhan yn yr orsaf bleidleisio (drwy ddirprwy) ond ni allwch ddarparu llofnod. |
I ofyn am ffurflen Pleidlais drwy Ddirprwy heb ei Llofnodi, cysylltwch â'r Gwasanaethau Etholiadol. Bydd angen i chi roi eich dyddiad geni a gall eich person enwebedig eich helpu (gyda'ch caniatâd chi) i lenwi'r manylion ar y ffurflen.
Rhaid i'r person rydych chi'n ei enwebu fod ar y Gofrestr Etholiadol neu ni allant fod yn ddirprwy i chi.
Byddwch yn derbyn llythyr yn cadarnhau bod yr unigolyn yr ydych wedi'i enwebu i bleidleisio ar eich rhan (drwy ddirprwy) wedi cael ei gymeradwyo.
Bydd eich dirprwy yn derbyn cerdyn pleidleisio. Rhaid i'ch dirprwy ymweld â'r orsaf bleidleisio yn bersonol ar y diwrnod pleidleisio i bleidleisio ar eich rhan.
|
Cysylltu â'r Gwasanaethau Etholiadol |
Optio allan o'r Gofrestr Agored |
Defnyddiwch y ffurflen hon os oes angen i chi newid eich enw ar y Gofrestr Etholiadol. |
Ceir dwy fersiwn o'r Gofrestr Etholiadol, y fersiwn lawn a'r Gofrestr Agored.
Caiff eich enw a’ch cyfeiriad eu cynnwys ar y Gofrestr Agored oni bai eich bod yn gofyn iddynt gael eu tynnu. Gelwir hyn yn optio allan.
Gallwch optio allan ar-lein neu gallwch lenwi ffurflen bapur i'w phostio yn ôl atom.
Byddwch yn derbyn llythyr yn cadarnhau bod eich cofnod ar y Gofrestr Etholiadol wedi ei ddiwygio ac yna ni fyddwch wedi’ch cynnwys ar y Gofrestr Agored.
|
Ffurflen Optio Allan Ar-lein
Lawrlwytho ffurflen Optio Allan bapur
|
Newid eich enw ar y Gofrestr Etholiadol |
Use this form if you need to change your name on the Electoral Register. |
Os yw eich enw wedi newid bydd angen i chi lenwi Ffurflen Newid Enw Pleidleisiwr.
Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth eich bod wedi newid eich enw. Nid oes angen darparu copi gwreiddiol o’r dystiolaeth. Gallwch anfon copi o dystysgrif priodas atom, tystysgrif geni ddiwygiedig neu dystysgrif gweithred newid enw.
Bydd y manylion ar eich ffurflen yn cael eu gwirio yn erbyn y manylion ar eich tystiolaeth. Os ydynt yn cyfateb, yna bydd eich enw yn cael ei newid ar y gofrestr a bydd llythyr diwygiad yn cael ei anfon.
Os nad yw'r manylion yn cyfateb yna fe gewch lythyr yn gofyn am wybodaeth bellach. |
Lawrlwytho papur Ffurflen Newid Enw |