Pontio: Dechrau Cynllunio ar gyfer Fy Nyfodol
Pan fyddwch yn 14 oed, bydd rhaid i chi ddechrau meddwl am eich dyfodol a’r hyn yr hoffech ei wneud wrth adael yr ysgol. Efallai byddwch yn dymuno mynd i’r coleg, cwblhau hyfforddiant neu gael swydd. Gall fod angen cymorth arnoch i barhau i ddysgu gwneud pethau drosoch chi eich hun pan fyddwch allan yn y gymuned neu efallai y bydd angen i chi gael eich cefnogi mewn man lle cewch gymorth gyda’ch gofal corfforol, er enghraifft. Weithiau, gallai fod yn anodd gwneud dewisiadau ond gall hyn hefyd fod yn amser cyffrous, ac mae llawer o bobl eraill yn ogystal â phobl yn yr ysgol a all eich helpu.
Er enghraifft:
- Gall Cynghorydd Gyrfaoedd gynnig lawer o syniadau i chi a rhoi gwybod am y dewisiadau sydd ar gael yn eich ardal chi pan fyddwch yn gadael yr ysgol;
- Gall staff y Coleg hefyd roi gwybod i chi pa gyrsiau sydd ganddynt os hoffech fynd i’r coleg. Gallant hefyd drefnu ymweliadau i chi gael gweld sut beth ydyw;
- Gallech gael cymorth hefyd gan rywun sy’n gallu siarad am yr hyn rydych chi’n ei wneud yn eich amser sbâr a helpu gyda phethau newydd i’w gwneud wrth i chi dyfu’n hyˆn.
Dyma rai o’r pethau (opsiynau) y gallech fod eisiau eu gwneud yn y dyfodol:
- Aros yn yr ysgol ar ôl i chi droi’n 16 oed • Gwneud ceisiadau am swyddi
- Cofrestru gydag asiantaeth cyflogaeth â chymorth (gall eich ysgol ddweud wrthych am y rhain)
- Mynd i’r coleg
- Ymuno â rhaglen hyfforddi
- Mynychu gwasanaeth dydd
- Cael cymorth yn y gymuned
- Cael rhywfaint o brofiad gwaith neu waith gwirfoddol i’ch helpu i gael swydd gyflogedig yr hoffech ei wneud yn y dyfodol
- Paratoi i fyw oddi cartref
Bydd cynllunio ar gyfer eich dyfodol yn dechrau ym mlwyddyn 9 sy’n amser hir cyn i chi adael yr ysgol. Os oes gennych Ddatganiad o AAA, bydd y diagram isod yn dangos i chi beth ddylai ddigwydd i’ch helpu i gynllunio ymlaen llaw.