Cost of Living Support Icon

Gofalwyr Di-dâl

Gwybodaeth i ofalwyr sy'n gofalu, yn ddi-dâl, am ffrind neu aelod o'r teulu nad ydyw oherwydd salwch, anabledd, problem iechyd meddwl neu ddibyniaeth yn gallu ymdopi heb eu cymorth.

 

Taflenni  

 

  

Hyb Gofalwyr Di-dâl y Fro

Mae Hyb Gofalwyr Di-dâl y Fro yn siop un stop ar gyfer gofalwyr di-dâl sy'n byw ym Mro Morgannwg. Mae'r gwasanaeth yn cynnig cymorth ymarferol ac emosiynol i ofalwyr di-dâl, gan helpu pobl i ddiogelu eu hiechyd a'u lles a deall eu rôl ofalu. Mae ein gweithwyr yn darparu clust i wrando a gallant roi gofalwyr mewn cysylltiad â gwasanaethau a chymorth yn yr ardal leol.  

 

Gall ein tîm cyfeillgar helpu gofalwyr di-dâl sy'n byw yn ardal y Fro gyda:

  • Gwybodaeth, cyngor a chymorth am ddim.  
  • Mae'r gefnogaeth yn canolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig i chi.  
  • Cymorth i gael gafael ar wasanaethau lleol.  
  • Ymwybyddiaeth o bwy allai fod yn ofalwr a'u hanghenion.  
  • Lle dibynadwy i ofalwyr gael eu clywed. 

I wneud atgyfeiriad i Hyb Gofalwyr Di-dâl y Fro (gall hyn fod yn hunanatgyfeiriad neu drwy'r gwasanaethau cymdeithasol) cliciwch yma i lenwi'r ffurflen neu ffoniwch 02921 921024.

 

 

 

Dewis Cymru Logo Welsh

Chwiliwch Dewis Cymru i ddod o hyd i wasanaethau i helpu gofalwyr ym Mro Morgannwg

Gwasanaethau i helpu gofalwyr

 

 

Isod ceir manylion sefydliadau cenedlaethol i ofalwyr, sy'n rhoi cyngor, gwybodaeth a chymorth i ofalwyr di-dâl yng Nghymru.

 

Yn rhoi cyngor a gwybodaeth i ofalwyr a'r gweithwyr proffesiynol sy'n cefnogi gofalwyr. 

Gofalwyr Cymru 

Llinell gyngor – Dydd Llun i ddydd Gwener: 02920 811370

 

Yn darparu llais cenedlaethol i rymuso rhieni a gofalwyr pobl ag anableddau dysgu. 

Fforwm Cymru Gyfan   

02920 811120 admin@allwalesforum.org.uk

 

Wedi ymrwymo i wella cymorth a gwasanaethau i ofalwyr di-dâl: 

Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru   

0300 772 9702 wales@carers.org

 

Siarter Gofalwyr Di-dâl Caerdydd a’r Fro

Mae tua 1 o bob 10 ohonom sy’n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg yn darparu gofal di-dâl i aelod o’r teulu neu ffrind.

 

Mae’r Siarter hon yn addo ymrwymiad partneriaid ar draws y rhanbarth gan gynnwys y GIG, awdurdodau lleol, mudiadau gwirfoddol a sefydliadau’r trydydd sector ac yn amlinellu sut y byddwn yn eich cefnogi os ydych yn gofalu am rywun. 

 

 

Strategaeth ar gyfer gofalwyr di-dâl

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio Strategaeth newydd ar gyfer gofalwyr di-dâl: