Cynhelir y Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol Gofal Plant yn y Cartref gan Arolygiaeth Gofal Cymru, ac mae’n golygu y gall y rhai sy’n gofalu am blant yn y cartref gofrestru i gael eu cymeradwyo.
Mae’r cynllun yn wirfoddol ac nid yw ond yn berthnasol i ofal plant a ddarperir yng Nghymru.
Does dim angen i nanis gael eu cymeradwyo i ofalu am blentyn yng nghartref y rhiant.
Buddion y cynllun yw:
-
Gallwch ddangos eich bod chi’n bodloni’r gofynion sylfaenol ar gyfer gofal plant
-
Byddwch yn rhan o gynllun a gydnabyddir drwy Gymru
-
Bydd gennych fwy o gyfle o gael eich cyflogi gan rieni sy’n gymwys i hawlio cymorth â chostau gofal plant i ddefnyddio Gofalwr Plant Cartref Cymeradwy
I fod yn gymwys i ymgeisio am y cynllun, mae’n rhaid i chi:
Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) sy'n rhedeg Cynllun Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant yn y Cartref (Cymru) 2021
Ymgeisio am Gynllun Cymeradwyo Gofal Plant (Gwefan AGC)