Gwahoddir ymarferwyr lleoliadau blynyddoedd cynnar ac ysgolion (Meithrin a Derbyn) i fynychu rhaglen o bedwar modiwl hyfforddi ar-lein AM DDIM drwy Microsoft Teams.
Bydd yr hyfforddiant yn cael ei ddarparu gan weithwyr proffesiynol o Wasanaethau Addysg Bro Morgannwg (Tîm y Blynyddoedd Cynnar) a bydd yn cynnwys; deall egwyddorion Ymarfer sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn, Cynhwysiant i Bawb, Gweithio Gyda'n Gilydd a'r broses Anghenion Dysgu Ychwanegol ar gyfer plant yn y Blynyddoedd Cynnar (genedigaeth-5 mlynedd) sydd wedi'i nodi yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, a Chod ADY Cymru.
Hyfforddiant Cynhwysiant Hydref 2024
Tymor yr Hydref Hyfforddiant am ddim i ysgolion a lleoliadau blynyddoedd cynnar 2024
I gael mynediad at hyfforddiant mewngofnodwch ar Dewis. Rhaid i chi fewngofnodi cyn clicio ar y ddolen (https://www.dewis.wales/Training/CourseProgramme.aspx). Yna bydd yr holl hyfforddiant yn weladwy i archebu lle.
Sylwch os byddwch yn clicio ar y ddolen cyn mewngofnodi, ni fyddwch yn gallu gweld y rhaglen cyrsiau.
I archebu lle ar y rhaglen, e-bostiwch: