Tîm Iechyd Meddwl Ardal y Fro (VLMHT)
Yn gyffredinol, nodir gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru mewn darn o gyfraith o'r enw Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 sy'n nodi'r cymorth y mae gan bobl hawl iddo. Yn y bôn, rhennir gwasanaethau yn rhai Sylfaenol ac Eilaidd. Yn gyffredinol, mae gwasanaethau sylfaenol ar lefel meddygon teulu lle mae unigolion yn cael problemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol neu'r rhai â phroblemau iechyd meddwl mwy difrifol sy'n sefydlog ar hyn o bryd.
Os oes gennych bryderon ynghylch eich iechyd meddwl neu iechyd meddwl aelod o'r teulu/ffrind yn y lle cyntaf dylech gysylltu â'ch meddyg teulu. Gall eich meddyg teulu gynnig meddyginiaeth, therapi siarad o fewn y practis, cyfeirio at wasanaethau eraill neu atgyfeirio at wasanaethau eraill yn dibynnu ar eich anghenion.
Daw'r VLMHT o fewn 'Gofal Eilaidd' ac mae'n rhoi cymorth gydag anghenion sydd wedi’u hasesu. Caiff asesiadau ar gyfer Gofal Cymdeithasol eu cynnal, eu darparu a'u hadolygu yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae'r dull hwn sy'n seiliedig ar gryfder yn gweithio i hybu lles. Mae Gweithwyr Cymdeithasol Bro Morgannwg yn gweithio o fewn Tîm Iechyd Meddwl Ardal y Fro sydd wedi'i leoli yn Ysbyty'r Barri. Maent yn gweithio ochr yn ochr â Seiciatryddion, Nyrsys Iechyd Meddwl Cymunedol, Therapyddion Galwedigaethol, Seicoleg, cynorthwywyr gofal iechyd a gweithwyr cymorth cymunedol.
Gwasanaeth y Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (AMHP) O fewn gwasanaethau yn ystod y dydd, mae Bro Morgannwg yn gweithredu'r gwasanaeth GPIMC. Mae hyn yn darparu Gweithwyr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy i gyflawni swyddogaethau'r Ddeddf Iechyd Meddwl, yn enwedig o ran asesu ar gyfer derbyniadau gorfodol o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.
Fel arfer, drwy'r meddyg teulu y caiff atgyfeiriadau neu gallwch ofyn am asesiad:
Gwneud cais am asesiad