Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Grwpiau Oedran: Blynyddoedd Cynnar, Cyfnod Allweddol 1, Cyfnod Allweddol 2, Cyfnod Allweddol 3, Cyfnod Allweddol 4
Mae’r rhaglen addysg amgylcheddol yn rhoi cyfle i blant gymryd rhan a gwerthfawrogi eu hamgylchiadau naturiol wrth ddysgu am yr amgylchedd. Caiff y gweithgareddau eu harwain gan staff gwasanaeth y ceidwaid ac os oes testunau/meysydd penodol yr hoffech i’r ceidwad eu trafod ar y diwrnod, byddant yn fodlon iawn i’ch helpu. Bydd y gweithgareddau’n para awr, gweler isod am restr o weithgareddau.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Karen Child / Pauline Hadgraft:
Yn ystod datblygiad Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston yn 1978, gwnaeth gwaith cloddio ddatgelu gweddillion cymuned oedd dros 600 oed, ac felly dechreuodd project archeolegol i adfer pentref Cosmeston. Mae’r Pentref Canoloesol heddiw yn hollol hygyrch i ymwelwyr ac mae wedi’i osod yn y flwyddyn 1350. Roedd yn amser diddorol iawn mewn hanes gan fod y pentref wedi cael ei drawsnewid gan y teulu de Caversham. Mae’r Pentref Canoloesol yn addas i gadeiriau olwyn ac mae ar agor 7 diwrnod yr wythnos.
Caffi a pharlwr hufen iâ
Ardal maes chwarae antur
Maes parcio mawr gyda lleoedd parcio pwrpasol i fysus a pharcio i'r anabl
Toiledau