Teithiau Tywys Addysgiadol
Mae gan y tîm selog o bentrefwyr proffesiynol gymaint i’w ddweud wrth eu hymwelwyr wrth iddynt eu haddysgu a’u diddanu.
Ym Mhentref Canoloesol Cosmeston, rydyn ni’n cynnig cyfle i ysgolion a grwpiau i gamu’n ôl mewn hanes i weld sut beth oedd bywyd go iawn y bobl dlawd a chyfoethog oedd yn byw ym maenor Cosmeston, ger Penarth, ym Mro Morgannwg.
Bydd profiad eich grŵp yn amrywio o ran yr agweddau a’r farn a fynegir gan y math o gymeriad mae eich tywysydd yn ei gynrychioli.
Walter y stiward yw dyn dethol yr arglwydd, ac mae’n rhedeg busnes y pentref ar ei ran. Mae’r stiward yn ddyn pwysig, ac mae ganddo’r fantais o fod yn ddyn ‘rhydd’ sy’n medru gofyn arian am ei waith.
Yn ystod taith arferol, bydd disgyblion/grwpiau yn clywed sut beth oedd bywyd go iawn yn y pentref yn 1350. Ar ben hynny, ceir gwybodaeth am arfau ac arfwisgoedd, bwyd, y cosbau erchyll a roddwyd i droseddwyr, a meddyginiaethau a thriniaethau canoloesol.
Hyd y daith: 40 munud
Uchafswm y nifer yn y grŵp: 30 o blant
Mae’r holl dywyswyr wedi eu hyfforddi mewn technegau dehongli yn y person cyntaf a’r trydydd person i ategu profiad canoloesol y disgyblion.
Bydd y daith yn dod i ben yn yr amgueddfa yn y bwthyn bach gwyn. Fe welwch nifer o arteffactau yn yr amgueddfa, ac mae gwybodaeth amdanynt ar yr hysbysfyrddau gwybodaeth ar y muriau. Cewch dreulio faint bynnag o amser ag yr hoffech yn yr amgueddfa ar ddiwedd y daith dywys.
Mae gweithgareddau atodol ar gynnig y gellir eu hychwanegu at daith sylfaenol y pentref canoloesol. Mae pob un o’r gweithgareddau’n ychwanegu 20 munud at amser y daith. Ymhlith y gweithgareddau sydd ar gael ar hyn o bryd, mae:
- Gwneud bara
- Arfau a rhyfel
- Adrodd stori
Os oes gennych ofynion neu bynciau penodol yr hoffech i’ch tywysydd eu cynnwys, fe wnawn ein gorau i gyflawni hyn.
Rhagnodi taith
I ragnodi taith ac am wybodaeth am brisiau cyfredol y teithiau a’r gweithgareddau atodol, cysylltwch â chanolfan yr ymwelwyr.
Cyn iddynt ddod yma ar daith addysgiadol, mae croeso i gynrychiolwyr ymweld â ni i drafod y diwrnod a chynnal asesiad risg ar y safle.