Cost of Living Support Icon

Teithiau Cerdded, Sgyrsiau ac Addysg

Mae ein Ceidwaid yn cynnig cyfleoedd addysgol unigryw ac arbenigol

 

Mae’r rhaglen addysg yn rhoi cyfle i blant wneud gweithgareddau yn eu cynefin naturiol a dod i werthfawrogi’r cynefin hwnnw wrth ddysgu am yr amgylchedd.

 

Mae’r gweithgareddau dan arweiniad y ceidwaid yn rhoi blas o’r hyn y gellir ei ddisgwyl yn ystod sesiwn gyda’r Gwasanaeth Ceidwaid profiadol. Os oes maes neu bwnc arbennig yr hoffech ei gynnwys yn ystod eich diwrnod, bydd y ceidwaid yn fwy na pharod i geisio helpu.

 

 

Cyflwyniad i Ddysgu Awyr Agored i Athrawon

Ydych chi’n athro, cynorthwyydd addysgu neu ymarferydd meithrin?

Gallech ddysgu mwy am reoli ac arwain sesiynau dysgu awyr agored gyda’ch disgyblion ym Mhorthkerry, Cosmeston ac Arfordir Treftadaeth Morgannwg.

 

Bydd y cwrs ‘Cyflwyniad i Ddysgu Awyr Agored i Athrawon’ yn helpu ysgolion i gynnig cyfleoedd dysgu o safon y tu allan i’r ystafell ddosbarth, yn unol â Chwricwlwm Newydd Cymru, a’r newidiadau a argymhellwyd gan yr Athro Donaldson.

 

 

bug hunting at cosmeston

Ymweliadau Addysgol

Sesiwn awr wedi ei harwain gan un o’r Ceidwaid. Mae Arfordir Treftadaeth Morgannwg, Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston a Pharc Gwledig Porthceri yn llefydd delfrydol i ddysgu am ein byd natur. Mae ymweliadau addysgol yn cyd-fynd â’r Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru. 

 

  • Ysgolion o Fro Morgannwg: £2.05/ y disgybl 
  • Ysgolion eraill: £2.55/ y disgybl 

I drefnu, cysylltwch â:

 

coast walking boots

Teithiau Cerdded a Sgyrsiau gan y Ceidwaid

Mae ceidwaid yr arfordir ar gael i dywys grwpiau sy’n dymuno dysgu mwy am Arfordir Treftadaeth Morgannwg, Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston a Pharc Gwledig Porthceri, drwy deithiau tywys a sgyrsiau hyddysg. 

 

  • Teithiau cerdded: Ceidwaid: 60-90 munud – £52 y grŵp/15 ar y mwyaf
  • Sgyrsiau: Ceidwaid: hyd at 40 munud – £52 y grŵp/15 ar y mwyaf

I drefnu taith gerdded neu sgwrs gan un o’r Ceidwaid, cysylltwch â: 

 

 

  

Gweithgareddau: Ceidwaid yn Arwain 

pond dipping with nets

Dipio Dŵr

Mae dŵr yn gynefin cyffrous, a cheir amrywiaeth eang iawn o fywyd gwyllt mewn pyllau dŵr. Caiff y plant eu syfrdanu gan yr hyn gallant ddal mewn rhwyd yn ein pwll dipio – brithyllod y dom, ceffylau dŵr cefnwyn, nymffau gwas y neidr, sgorpionau dŵr, chwilod bwganod a mwy.

 

Ar ôl clywed eglurhad gan y Ceidwad, bydd y plant yn gweithio mewn grwpiau, yn dipio rhwyd yn eu tro a rhoi’r creaduriaid ar hambwrdd. Tua diwedd y sesiwn, bydd y Ceidwad yn eu helpu i adnabod yr hyn maen nhw wedi ei ddal, yn edrych ar y modd mae’r anifeiliaid wedi addasu i’w cynefin dyfrllyd, ac archwilio eu cadwyni bwyd a chylchred eu bywyd. 

 

Lleoliad:  Parc Gwledig Lynnoedd Cosmeston / Parc Gwledig Porthceri / Arfordir Treftadaeth Morgannwg

Hyd y gweithgaredd: 1 awr

Uchafswm maint y grŵp: 30

Green Beetles

Helfa Pryfed

Yn ystod y gwanwyn a’r haf, mae creaduriaid bach i’w gweld ym mhob man. Bydd y plant yn rhyfeddu at yr amrywiaeth a welant. Bydd rhai yn gyfareddol ac eraill yn frawychus.

 

Archwiliad ymarferol i greaduriaid bach a lle maent yn byw yw hwn. Gan ddefnyddio rhwydi, potiau a dalennau ysgwyd, bydd y plant yn medru darganfod beth sy’n neidio, ymlusgo a hedfan o amgylch y parc. Byddant yn dosbarthu creaduriaid yn grwpiau ac yn dysgu am eu rhan yn y gadwyn fwyd ehangach o fewn cynefinoedd coetiroedd a dolydd.

   

Lleoliad:  Parc Gwledig Llynnedd Cosmeston / Parc Gwledig Porthceri / Arfordir Treftadaeth Morgannwg

Hyd y gweithgaredd: 1 awr

Uchafswm maint y grŵp: 30

Canada-geese-with-6-chicks---Copy

Darganfod Cynefinoedd / Cartrefi Anifeiliaid

Rydyn ni’n ffodus iawn i gynnal nifer o gynefinoedd gwahanol a’r bywyd gwyllt sydd ynghlwm â nhw. Yn ystod y sesiwn hon, bydd plant yn dysgu beth yw cynefin, ac yn archwilio’r rhyngweithio rhwng planhigion ac anifeiliaid, a sut mae anifeiliaid yn addasu i’w cynefin. 

 

Lleoliad:  Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston / Parc Gwledig Porthceri / Arfordir Treftadaeth Morgannwg

Parc Gwledig Porthceri: 1 awr

Hyd y gweithgaredd: 30

Black and white picture showing machinery working at cosmeston quarry

Defnydd y Tir Ddoe a Heddiw

Yn ystod y gweithgaredd hwn, bydd y plant yn mynd am dro o amgylch llyn y dwyrain gyda’r ceidwad, a fydd yn adrodd hanes y parc gwledig wrthyn nhw.

Caiff y plant eu hannog i adnabod elfennau gweledol y dirwedd a disgrifio ei ffurf a’i llun.

 

Lleoliad:  Cosmeston Lakes Country Park

Hyd y gweithgaredd: 1 awr

Uchafswm maint y grŵp: 30

Comma

Taith Gerdded Byd Natur

Yn ystod y gweithgaredd sgwrs a thaith gerdded hwn, bydd y plant yn mynd am dro o amgylch llyn y dwyrain. Bydd y ceidwad yn dechrau’r sesiwn gyda chrynodeb o hanes y parc gwledig iddyn nhw.

 

Mae’r daith yn hamddenol iawn, ac mae digon i’w weld bob amser. Bydd y ceidwad yn dweud wrth y plant am y bywyd gwyllt, ac yn rhoi gwybodaeth ifddynt am blanhigion, coed a chynefinoedd. 

 

Lleoliad:  Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston /Arfordir Etifeddiaeth Morganwg / Parc Gwledig Porthceri

Hyd y gweithgaredd:  1 awr

Uchafswm maint y grŵp: 30

den-building-boys

Adeiladu Ffau / Lloches Goroesi

Gweithgaredd adeiladu tîm yw hwn, a chaiff y plant eu hannog i weithio mewn timau bach i adeiladu lloches goroesi y gall y tîm cyfan ffitio ynddi. Cynhelir y sesiwn yn y goedwig, a rhoddir cyfarpar sylfaenol ac arweiniad i’r timau.

 

Bydd y plant yn darganfod yr hyn sydd ei angen arnoch i oroesi, a chânt eu hannog i ddefnyddio eu dychymyg i wneud bywyd yn goedwig yn fwy cysurus!

 

Lleoliad:  Parc Gwledig Porthceri / Parc Gwledig Llynoedd Cosmeston / Arfordir Treftadaeth Morgannwg                                                           

Hyd y gweithgaredd: 1 awr

inside-lodge-school

Sesiynau Ysgol y Goedwig

Mae gennym safle penodol i Ysgol y Goedwig, ac mae ar gael at ddefnydd grwpiau o bob oed. Gallwch chi logi safle ysgol y goedwig i’w ddefnyddio gyda’ch arweinwyr cymwys eich hun.

 

Rydyn ni’n cynnig sesiwn ‘Y Goedwig Wyllt’ i ysgolion, sef sesiwn gweithgaredd untro yn seiliedig ar egwyddorion ac ethos Ysgolion y Goedwig. Mae hyn yn galluogi plant i brofi amrywiaeth o weithgareddau Ysgol y Goedwig, yn cynnwys adeiladu ffau, paentio â mwd a chreu cartrefi a llwybrau i anifeiliaid.

 

Lleoliad:  Parc Gwledig Porthceri / Arfordir Treftadaeth Morgannwg

Hyd y gweithgaredd:  2 awr

Limpets

Celf Traeth

Mae traeth caregog a blaen y traeth ym Mhorthceri’n lleoliad gwych i blant archwilio patrymau, lliwiau a siapiau. Gallant edrych ar waith artistiaid awyr agored megis Andy Goldswothy, ac yna cânt gyfle i gael eu hysbrydoli gan y cynefin naturiol i greu eu campwaith eu hunain

                                                                                

Lleoliad:  Parc Gwledig Porthceri / Arfordir Treftadaeth Morgannwg

Hyd y gweithgaredd:  1 awr

beach-safari---web

Saffari Ymyl y Traeth

Bydd y sesiwn hon yn golygu chwilota ar hyd ymyl y traeth ac archwilio’r eitemau naturiol ac annaturiol a geir yno. Bydd y plant yn eu rhannu’n ddau bentwr o sbwriel (o wneuthuriad dyn) neu drysor (o fyd natur), ac yn darganfod faint o amser mae’n ei gymryd i’r gwahanol ddeunyddiau bydru, a pha effaith mae hyn yn ei chael ar ein bywyd gwyllt morwrol.

 

Gellir cynnal y gweithgaredd hwn ar unrhyw adeg o’r flwyddyn, ac eithrio pan fydd y llanw ar ei huchaf. Nodwch fod y traeth yn garegog a bod llethrau serth mewn rhai mannau ohono. 

 

Lleoliad:  Parc Gwledig Porthceri / Arfordir Treftadaeth Morgannwg

Hyd y gweithgaredd:  1 awr

rock-pooling

Archwilio Pyllau Creigiog 

Bydd y sesiynau cyffrous, addysg fyw hyn yn rhoi cyfle i ddisgyblion archwilio ffurfiau bywyd mewn pyllau creigiog o lygad y ffynnon. Bydd plant yn mwynhau sgrialu dros greigiau a cherigos i ddarganfod byd tanddwr anemoneau, sêr môr, llyswennod a chranciau! Bydd ein ceidwaid profiadol yn arwain y plant ar antur amgylcheddol sy’n archwilio bioamrywiaeth yn ei gynefin.

 

Dim ond ar lanw isel gall y gweithgaredd hwn gael ei gynnal. Nodwch fod y traeth yn garegog a bod llethrau serth mewn rhai mannau ohono.

 

Lleoliad:  Parc Gwledig Porthceri / Arfordir Etifeddiaeth Morganwg

Hyd y gweithgaredd : 1 awr

 

 

Gweithgareddau: Athrawon yn Arwain

Cyfeiriannu

Mae tair siwrnai cyfeiriannu i ddewis rhyngddynt, yn ôl pa mor anturus ydych chi …

Mae pob un yn ddelfrydol ar gyfer dysgu sgiliau darllen map.

 

Rhaid i’r plant ddefnyddio’r map i ddod o hyd i byst coch a gwyn a leolir yn y parc gwledig. Gall ysgolion archwilio ar gyfer y gweithgaredd hwn yn annibynnol o’r ceidwaid. Gellir cwblhau’r teithiau fel unigolion neu mewn grŵp, fel cystadleuaeth wedi ei hamseru neu weithgaredd hamddenol.

 

Lleoliad:  Parc Gwledig Porthceri / Parc Gwledig Llynoedd Cosmeston

 

 

I archebu lle, cysylltwch â: