Gall adeilad neu strwythur peryglus fod yn unrhyw beth ar neu am adeilad neu strwythur a allai fod yn berygl i aelodau'r cyhoedd, er enghraifft, teils to rhydd neu syrthio, waliau neu ffensys sydd mewn perygl o gwympo, simneiau ansefydlog.
Bydd adeilad sy'n cael ei adrodd ei fod yn beryglus yn cael ei archwilio yr un diwrnod neu o fewn awr os yw'n argyfwng, gan syrfëwr ar ddyletswydd 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.
Os ydych am roi gwybod am adeilad neu strwythur peryglus, ffoniwch 01446 704609 yn ystod oriau swyddfa neu 01446 700111 y tu allan i oriau swyddfa arferol. Os yw adeilad neu strwythur peryglus yn fygythiad difrifol ac uniongyrchol i ddiogelwch y cyhoedd dylid rhoi gwybod i'r heddlu drwy ffonio 999.