Cost of Living Support Icon

Oes Angen Caniatâd Cynllunio Arnaf?

Mae angen caniatâd cynllunio ar gyfer pob gwaith adeiladu, peirianneg neu gloddio newydd neu lle cynigir newid defnydd i dir neu adeiladau oni bai bod y gwaith yn ddatblygiad a ganiateir.

Sut i gael gwybodaeth?

Fel man cychwyn, os ydych yn bwriadu gwneud gwaith i'ch eiddo, mae rhai dogfennau defnyddiol a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru sy'n nodi'r math o waith y gellir ei wneud heb fod angen caniatâd cynllunio.  

 

Gallwch ddod o hyd i'r dogfennau hyn ar wefan Llywodraeth Cymru:

  

Hawliau Datblygu a Ganiateir ar gyfer Deiliaid Tai
Caniatâd Cynllunio: Prosiectau Cyffredin 

 

Mae'r Porth Cynllunio yn cynnig cyngor pellach:


Porth Cynllunio: Oes angen caniatâd cynllunio arnoch chi? 

 

Sylwer: Nid yw'r hawliau a nodir uchod yn berthnasol i fflatiau a fflatiau deulawr ac mewn rhai achosion mae hawliau datblygiad a ganiateir yn fwy cyfyngedig h.y. os yw eich eiddo wedi'i leoli mewn Ardal Gadwraeth neu o fewn ardal Cyfarwyddyd Erthygl 4.  Yn ogystal, mae'n bosibl bod rhai neu'r cyfan o'r hawliau datblygu a ganiateir wedi cael eu dileu hefyd yn y grant gwreiddiol o ganiatâd cynllunio ar gyfer yr eiddo, yn enwedig os cafodd yr eiddo ei adeiladu yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf. 

 

A allaf gael cadarnhad ysgrifenedig?

Sylwch nad yw'r Cyngor yn gallu cynnig cyngor anffurfiol ac ysgrifenedig ar yr angen am ganiatâd cynllunio, fodd bynnag, i gael cadarnhad a oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad ai peidio, gallwch gyflwyno cais Tystysgrif Cyfreithlondeb.

 

Bydd y broses cais Tystysgrif Cyfreithlondeb yn penderfynu a ellir gwneud y gwaith sy'n cael ei gynnig ai peidio heb y gofyniad ffurfiol am ganiatâd cynllunio. Mantais hyn yw y bydd yn rhoi cysur i chi nad oedd angen caniatâd cynllunio ar y gwaith ac efallai y bydd y ddogfen hon yn ddefnyddiol pe baech yn penderfynu gwerthu'ch eiddo yn y dyfodol.

 

I wneud hyn, dilynwch y ddolen i'r Porth Cynllunio o'r dudalen Gwneud Cais Cynllunio

Cynllunydd Dyletswydd

Er mai'r unig ffordd ffurfiol o gael cadarnhad yw drwy gais Tystysgrif Cyfreithlondeb, mae'r Cyngor yn cynnig gwasanaeth Cynllunydd Dyletswydd i roi cyngor cyffredinol ac anffurfiol ar faterion cynllunio.

 

Mae'r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim ac yn gweithredu o ddydd Llun i ddydd Gwener o 10am i 12pm ac o 2pm i 4pm:

  • 01446 704681

 

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, e-bostiwch: