Cost of Living Support Icon

Christmas-banner

Gwybodaeth am Ailgylchu a Gwastraff dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd

Gwybodaeth a chyfarwyddyd ar gyfer casgliadau gwastraff ac ailgylchu dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

 

 

Newidiadau i ddiwrnodau casglu

Yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 23 Rhagfyr bydd rhai casgliadau sbwriel ac ailgylchu ddau ddiwrnod yn hwyrach na'r diwrnodau casglu arferol. Yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 30 Rhagfyr bydd rhai casgliadau sbwriel ac ailgylchu un diwrnod yn hwyrach na'r diwrnodau casglu arferol.

 

 

  • Amserlen diwrnod casglu ar gyfer W/C 23 Rhagfyr
    Amserlen diwrnod casglu ar gyfer W/C 23 Rhagfyr
    Diwrnod casglu arferolDiwrnod casglu NEWYDD
    Dydd Llun 23 Rhagfyr

     

    Dim newid

    Dydd Mawrth 24 Rhagfyr

     

    Dim newid

    Dydd Mercher 25 Rhagfyr

    Dydd Gwener 27 Rhagfyr

    Dydd Iau 26 Rhagfyr

    Dydd Sadwrn 28 Rhagfyr

    Dydd Gwener 27 Rhagfyr

    Dydd Sul 29 Rhagfyr

 

  • Amserlen diwrnod casglu ar gyfer W/C 30 Rhagfyr
    Amserlen diwrnod casglu ar gyfer W/C 30 Rhagfyr
    Diwrnod casglu arferolDiwrnod casglu NEWYDD

    Dydd Llun 30 Rhagfyr

    Dim newid

    Dydd Mawrth 31 Rhagfyr

    Dim newid

    Dydd Mercher 01 Ionawr

    Dydd Iau 02 Ionawr

    Dydd Iau 02 Ionawr

    Dydd Gwener 03 Ionawr

    Dydd Gwener 03 Ionawr

    Dydd Sadwrn 04 Ionawr

 


 

Casgliad Bagiau Du

Bydd modd i drigolion roi hyd at chwe bag du allan i'w casglu ar eu diwrnod casglu bagiau du wedi'i drefnu rhwng 30 Rhagfyr 2024 a 17 Ionawr 2025.

 

Bydd y terfyn arferol o 3 bag du fesul aelwyd yn ailddechrau ddydd Llun 20 Ionawr 2025.

 

Ailgylchu

Gall eich holl fwyd sydd ar ôl, gan gynnwys pilion llysiau a burgynnod tyrcwn fynd i’ch bin gwastraff bwyd. Mae modd ailgylchu cardiau Nadolig a chardfwrdd heb gliter.

 

Peidiwch â chynnwys unrhyw bapur lapio yn eich bagiau neu flychau ailgylchu. 

Yn anffodus, ni ellir ailgylchu'r rhan fwyaf o bapur lapio oherwydd ychwanegu glitter, ffoiliau disglair, gwerthu ac ati ac felly dylid ei roi yn eich bag du.
 
Fodd bynnag, os ydych chi'n credu y gall eich papur lapio fod yn ailgylchadwy, gallwch wneud y “prawf sgrinch” holl bwysig.


Yn anffodus ni allwn gasglu goleuadau Nadolig, tâp selo, clymau, tinsel/addurniadau a pholystyren.

 

Os nad ydych yn siŵr beth allwch ac na allwch ailgylchu'r Nadolig hwn, edrychwch ar ein canllaw A-Z ar-lein.

  

Coed Nadolig

Byddwn yn casglu Coed Nadolig o fannau casglu penodedig o ddydd Llun 13 Ionawr 2025 tan ddydd Sadwrn 25 Ionawr 2025. Ni fydd mannau casglu coed Nadolig yn cael eu monitro gan staff yn ystod yr oriau agor. 

  • Dim ond coed Nadolig go iawn y gallwn ni eu derbyn i’w hailgylchu

  • Gwaredwch unrhyw addurniadau ac unrhyw bridd

  • Os yw’n dalach na 6 troedfedd, torrwch y goeden i’r hyd hwn 

 

Os na allwch ollwng eich coeden Nadolig yn un o'n mannau casglu dynodedig, neu os hoffech ailgylchu eich coeden Nadolig cyn y dyddiad casglu dynodedig yn eich ardal, gallwch ailgylchu eich coeden Nadolig yn un o'n Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref (CAGCau). Ni fydd angen apwyntiadau CAGCau, os ydych chi ddim ond yn gollwng eich coeden Nadolig.


Os na allwch ollwng eich coeden, ac rydych wedi’ch tanysgrifio i’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd, trefnwch gasgliad gwastraff gardd. Os yw’n dalach na 6 troedfedd, torrwch y goeden.

 

  • Mannau casglu coed Nadolig

    Byddwn yn casglu Coed Nadolig o fannau casglu penodedig o ddydd Llun 13 Ionawr 2025 tan ddydd Sadwrn 25 Ionawr 2025.

     

     

     

    Mannau casglu coed Nadolig
    DyddiadMan CasgluAmser

    Dydd Llun 13 Ionawr

    Maes Parcio Bryn y Don, Dinas Powys

    Maes Parcio Caeau Chwarae King George V, Llandochau

    Maes Parcio Cliff Tops, Penarth

    8yb – 2yp

    Dydd Mawrth 14 Ionawr

    Maes Parcio Gorsaf Drenau, Llanilltud Fawr

    Maes Parcio yng nghefn Price Down Stores, Skomer Road, Y Barri

    8yb – 2yp

    Dydd Mercher 15 Ionawr

    Cemetery Approach, Y Barri

    Maes Parcio Nell's Point, Ynys y Barri

    Plassey Square, Penarth

    8yb – 2yp

    Dydd Iau 16 Ionawr

    Maes Parcio Canolfan Gymunedol, Celtic Way, y Rhws

    Maes Parcio Cliff Tops, Penarth

    8yb – 2yp

    Dydd Gwener 17 Ionawr

    Neuadd Gymunedol, Llanbedr-y-fro

    Maes y Pentref, Pendeulwyn

    Neuadd Gymunedol, Llanddunwyd

    Neuadd Gymunedol, Aberthin

    Neuadd y Pentref, Ystradowen,

    Neuadd y Pentref, Llandŵ 

    Cyn 8yb

    Dydd Gwener 17 Ionawr

    Maes Parcio Neuadd y Dref, Y Bont-faen

    8yb – 2yp

    Dydd Sadwrn 18 Ionawr

    Maes Parcio Llynnoedd Cosmeston

    Maes Parcio, Traeth Ogwr

    Cemetery Approach, Y Barri

    Maes Parcio'r Ganolfan Gymunedol, Sain Tathan

    8yb – 2yp

    Dydd Llun 20 Ionawr

    Maes Parcio Bryn y Don, Dinas Powys

    Maes Parcio'r Ganolfan Hamdden, Cogan

    8yb – 2yp

    Dydd Mawrth 21 Ionawr

    Maes Parcio Vachell Court, Llanilltud Fawr

    Cemetery Approach, Y Barri

    8yb – 2yp

    Dydd Mercher 22 Ionawr

    Maes Parcio’r Pafiliwn Chwaraeon, Y Wig

    Maes Parcio'r Tafarn Aubrey Arms, Tresimwn

    8yb – 2yp

    Dydd Iau 23 Ionawr

    Maes Parcio'r Orsaf Drenau, Y Rhws

    Maes Parcio Llynnoedd Cosmeston, Penarth

    8yb – 2yp

    Dydd Gwener 24 Ionawr

    Maes Parcio’r Ganolfan Gymunedol, Gwenfô

    Maes Parcio’r Cnap, Y Barri

    8yb – 2yp

    Dydd Sadwrn 25 Ionawr

    Neuadd Tre-os

    Neuadd Gymunedol Tregolwyn

    Neuadd Gymunedol Craig Pen-llin

    Llan-Fair

    Neuadd Gymunedol  Llan-gan

    Ger y pwll, Llyswyrny

    Cyn 8yb

    Dydd Sadwrn 25 Ionawr

    Maes Parcio Cliff Tops, Penarth

    Y Rhodfa, Glannau'r Barri

    8yb – 2yp