Cost of Living Support Icon

Partneriaethau 

Mae datblygu gweithio’n effeithiol mewn partneriaethau yn hanfodol ar gyfer cynllunio a datblygu tai fforddiadwy, gwasanaethau tai gwell a gwella'r adran yn gyffredinol.

 

Mae’r tîm Strategaeth Tai yn rhan o bartneriaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol:

 

Fforwm Tai Cyffredinol

Mae’r Fforwm Tai Cyffredinol yn goruchwylio datblygiad ym mhob maes o ran tai er mwyn cyflawni’r weledigaeth ar gyfer Bro Morgannwg fel y rhestri yn y Strategaeth Tai Leol (2015 - 2020).

 

  • Datblygu llety o safon sy’n fforddiadwy ac yn briodol er mwyn bodloni angen tai a nodwyd
  • Sicrhau y caiff tai presennol eu cynnal a'u cadw ac yn addas i'r diben a bod cymdogaethau'n elwa ar gynlluniau adnewyddu
  • Dileu digartrefedd a sicrhau bod y cyhoedd yn cael cyngor a gwybodaeth hygyrch o safon ar faterion tai  
  • Datblygu atebion priodol ar gyfer tai a chymorth er mwyn bodloni anghenion priodol o fewn y gymuned
  • Gweithio mewn partneriaeth er mwyn sicrhau bod y Fro yn lle diogel ac iach ar gyfer trigolion o bob oedran

 

 

Fforwm Tai Strategol

Bydd y Fforwm Strategaeth Tai yn cynnal cyfarfodydd chwarterol. Mae’r rhai sy’n mynychu yn cynnwys swyddogion yr awdurdod lleol a phartneriaid y Cyngor sy'n Gymdeithasau Tai.

 

 

 

South East Wales Regional Housing Forum logo

Fforwm Tai Rhanbarthol De-ddwyrain Cymru (SEWRHF)

Mae Fforwm Tai Rhanbarthol De-ddwyrain Cymru yn cynnwys cynrychiolwyr o bob un o 10 adran tai strategol yr awdurdod lleol yn rhanbarth de-ddwyrain Cymru, sy’n cynnwys Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg.

 

Rôl y fforwm yw datblygu capasiti swyddogaethau tai strategol a galluogi yr awdurdod lleol, fel ffordd o greu marchnad tai cytbwys a chynaliadwy ar draws rhanbarth de-ddwyrain Cymru. 

 

 

Rhwydwaith Strategaeth Tai Cenedlaethol

HSN Logo

Mae’r Rhwydwaith Strategaeth Tai yn bodoli er mwyn cynrychioli barn awdurdodau lleol ac awdurdodau parciau cenedlaethol mewn perthynas â'r rôl tai strategol sydd â'r prif ffocws o sicrhau bod swyddogaethau tai awdurdod lleol a gwasanaethau a ddarperir gan bartneriaid allweddol yn gweithio’n gyfun er mwyn - 

  • Cynhyrchu marchnad tai sy'n gweithio'n effeithiol
  • Creu ymyriadau yn y farchnad tai sy’n cysylltu â’r agendâu corfforaethol, rhanbarthol a chenedlaethol ehangach 
  • Datblygu ystod briodol o atebion er mwyn galluogi aelwydydd na allant fodloni eu hanghenion eu hunain yn y farchnad gael mynediad at dai addas a chynaliadwy 

 

Mae cynrychiolwyr ar y Rhwydwaith yn cynnwys Swyddogion perthnasol o bob un o’r 22 awdurdod lleol a 3 awdurdod parciau cenedlaethol yng Nghymru. Bydd swyddogion Cynulliad Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru hefyd yn bresennol.