Cost of Living Support Icon

Strategaethau a Chynlluniau 

Strategaethau a chynlluniau tai, yn cynnwys y Strategaeth Tai Lleol, Strategaeth Tai Gwag a Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid a Thrigolion

  

Strategaeth Tai Pobl Hŷn 2022-2036

Mae'r Strategaeth hon a'r argymhellion arfaethedig wedi'u cynllunio i ymateb i anghenion y boblogaeth oedolion hŷn nawr ac yn y dyfodol.

 

Mae'r Strategaeth hefyd yn cefnogi nodau Cynllun Corfforaethol y Cyngor a sawl dogfen strategol bwysig arall, gan gynnwys y Strategaeth Tai Lleol, y Strategaeth Gomisiynu ar gyfer Gwasanaethau Pobl Hŷn, a'r Cynllun Comisiynu Grant Cymorth Tai.

 

Strategaeth Tai Lleol 2021-26

Mae'r Strategaeth Dai Leol yn amlinellu sut y byddwn ni'n mynd i'r afael â materion tai a'r galw ym Mro Morgannwg dros y 5 mlynedd nesaf. Fe wnaethon ni ystyried barn partneriaid allweddol a thrigolion wrth ddatblygu ein strategaeth i helpu i sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â'r materion sydd fwyaf pwysig.

 

 

 

Strategaeth Tai Gwag 2012–17 

Mae cartrefi gwag yn cynrychioli adnodd gwastraff; mae cryn angen cartrefi ychwanegol ym Mro Morgannwg, ac eto mae tai gwag ledled y sir y gellid eu haddasu er mwyn eu defnyddio unwaith eto.

 

Amcanion y Strategaeth Tai Gwag yw: monitro cartrefi gwag; darparu cyngor, cymorth a chanllawiau i’n landlordiaid a’n perchnogion tai; lleddfu effaith tai gwag ar ein cymunedau; gostwng y nifer o dai gwag, adfer tai gwag at eu defnyddio a hyrwyddo’r cynllun tai gwag.  

 

 

Strategaeth Ymgysylltu â Thenantiaid a Thrigolion 2018

Mae’r Cyngor yn landlord cymdeithasol cofrestredig. Mae’n rheoli stoc o 3949 o dai ac yn darparu cartrefi a gwasanaethau sy’n ymwneud â chartrefi i drigolion Bro Morgannwg.  

 

Yn unol â’r Strategaeth Genedlaethol ar Gyfranogiad Tenantiaid Llywodraeth Cymru, roedd yn ofynnol i bob landlord cymdeithasol a llywodraeth leol ddatblygu Strategaethau Cyfranogiad Tenantiaid Lleol. Hon yw trydedd Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid Cyngor Bro Morgannwg, ac mae’n datgan sut bydd y Cyngor yn parhau i wella’r arferion cyfranogi tenantiaid cyfredol.

 

 

Adroddiad Arolwg Tai Fforddiadwy yng Nghefn Gwlad 2010 

Dadansoddiad manwl o anghenion tai yng nghymunedau gwledig Bro Morgannwg.  

 

Rydyn ni’n dilyn canllawiau tai a chynllunio Llywodraeth Cymru, a bwriad yr arolwg hwn yw darparu tystiolaeth i gefnogi adeiladu tai newydd mewn lleoliadau gwledig. 

 

 

Cynllun Comisiynu Cefnogi Pobl Leol 

Mae Tîm Cefnogi Pobl yn cyhoeddi Cynllun Comisiynu Lleol bob blwyddyn. 

 

Mae’r cynllun hwn yn manylu ar yr angen am gefnogaeth sy’n ymwneud â thai sy’n cael ei gyllidebu gan Grant Rhaglen Cefnogi Pobl ym Mro Morgannwg. Rydyn ni’n credu bod gwasanaethau cefnogaeth o safon sy’n ymwneud â thai yn greiddiol i fyw yn annibynnol ar draws ystod anghenion gofal, gan helpu’r bobol fwyaf bregus i ymgartrefu yn eu cymuned ym Mro Morgannwg.

 

Asesiad o’r Farchnad Dai Leol 2008

Yn 2006 darparodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ganllaw oedd yn gwneud yn ofynnol i bob Awdurdod lleol yng Nghymru gynnal Asesiad o’r Farchnad Dai Leol. 

 

Roedd angen cynnal yr asesiad er mwyn datblygu dealltwriaeth o hanfod a lefel y gofynion yn y farchnad dai leol, ac i benderfynu beth oedd ei arwyddocâd yn nhermau’r farchnad a darpariaeth tai fforddiadwy. I gydymffurfio â’r cais, comisiynodd Cyngor Bro Morgannwg gwmni Fordham Research i gynnal yr asesiad, ac fe’i cwblhawyd ym mis Medi 2008.

 

 

Asesiad o’r Farchnad Dai Leol

Fel rhan o’i broses o gynllunio ymlaen llaw, mae’r Cyngor wedi cynhyrchu asesiad newydd o gyflwr y farchnad dai ym Mro Morgannwg. 

 

Mae’r gwaith sylweddol hwn yn sicrhau bod y Cyngor yn cydymffurfio â’i ddyletswyddau cyfreithiol yn unol â Deddf Tai 1985.